Amdanom ni a'n cynhyrchion a'n gwasanaethau
Ni fwriedir i'r wybodaeth ar y safle hwn gael ei gweld gan
unrhyw un nad yw'n byw yn y DU. Dim ond i breswylwyr y DU y mae'r
cynhyrchion a'r gwasanaethau a welir ar y safle hwn ar gael ac os
bydd unrhyw anghydfod cyfreithiol, rheolir y safle hwn gan Gyfraith
Lloegr. Byddwn yn llunio contract ac yn cyfathrebu â chi yn
Saesneg, ond, cyn belled ag y gallwn, byddwn yn cyfathrebu â chi yn
Gymraeg hefyd os ydych wedi gofyn i ni wneud hynny.
Dim ond i eiddo yng Nghymru a Lloegr y mae ein cynhyrchion
morgais ar gael.
Dim ond i breswylwyr y DU y mae Cyfrifon Cynilo ar gael.
Mae'r holl gynhyrchion a gwasanaethau'n amodol ar argaeledd a
gellir eu tynnu'n ôl neu eu diwygio unrhyw bryd.
Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi'i hawdurdodi a'i
rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) ar gyfer
derbyn adneuon, morgeisi preswyl a threfnu a rhoi cyngor ar
yswiriant cyffredinol (rhif awdurdodi 155998). Nid yw’r Awdurdod
Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi masnachol na morgeisi
sy’n ymwneud â busnes.
Gallwch gadarnhau ein hawdurdodiad ar Gofrestr yr
FSA drwy fynd i wefan yr FSA yn http://www.fsa.gov.uk/register/
neu drwy gysylltu â'r FSA ar 0845 606 1234.
Dim ond ein cynhyrchion morgais ein hunain yr ydym yn rhoi
cyngor arnynt ac yn eu cynnig.
Nid ydym yn cynnig unrhyw forgeisi masnachol na morgeisi busnes
a gaiff eu rheoleiddio gan yr FSA. Ni fydd llawer o forgeisi
prynu-i-osod wedi'u rheoleiddio gan yr FSA chwaith. Byddwn yn rhoi
gwybodaeth i chi o ran p'un a fydd morgais yn cael ei reoleiddio
gan yr FSA yn ystod y broses werthu.
O ran ein cynhyrchion yswiriant cyffredinol, dim ond cynhyrchion
gan nifer cyfyngedig o ddarparwyr y byddwn yn rhoi cyngor arnynt ac
yn eu cynnig.
O ran cyngor ar fuddsoddi a chynllunio ariannol, mae’r
Gymdeithas yn cyflwyno i Aviva Life Services UK Limited yn unig, a
gaiff ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau
Ariannol.
Bydd unrhyw gyngor ariannol a roddir yn ymwneud â chynhyrchion a
gwasanaethau’r gymdeithas a chwmnïau UK Life Aviva.
Aviva Life Services Limited. Cofrestredig yn Lloegr Rhif
2403746. Cyfeiriad cofrestredig: 2 Rougier Street, York, YO90
1UU.
O ran Morgeisi gydol oes a’r cynllun Dychweliad Cartref, mae’r
Gymdeithas yn cyflwyno i Aviva Equity Release UK Limited yn unig, a
gaiff ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau
Ariannol.
O ran Baby Bond® y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, dim ond
cyflwynydd i The Children's Mutual ydym. The Children's Mutual yw
enw masnachu Tunbridge Wells Equitable Marketing Group, sy'n
cynnwys: Tunbridge Wells Equitable Friendly Society Limited, a
ymgorfforwyd yn y Deyrnas Unedig o dan Ddeddf Cymdeithasau
Cyfeillgar 1992, rhif cofrestredig 190F, Rhif cofrestredig yr FSA
109990; a Tunbridge Wells Equitable Investments Company Limited, a
gofrestrwyd yn Lloegr o dan Ddeddf Cwmnïau 1985, rhif cofrestredig
4315370, Rhif cofrestredig yr FSA 208027. Cânt eu hawdurdodi a'u
rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Ni ddylid ystyried unrhyw wybodaeth a roddir ar y safle hwn yn
gyngor ariannol. Os bydd angen cyngor arnoch ar unrhyw gynnyrch neu
wasanaeth a gynigir gennym, yna gofynnir i chi gysylltu â ni'n
uniongyrchol fel y nodir ar y safle
Nid ydym yn gyfrifol am ddiogelwch na chynnwys gwefannau trydydd
parti y gallai fod cysylltiadau iddynt ar y safle hwn ac nid ydym
yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw gynhyrchion na gwasanaethau a
hysbysebir arnynt.
Mae gweithdrefn
gwyno. gennym ar waith. Gallwch gael rhagor o fanylion mewn
unrhyw gangen neu drwy gysylltu â'n
Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid os bydd gennych gŵyn. Gellir
cyfeirio unrhyw gwynion na allwn eu datrys at Wasanaeth yr
Ombwdsmon Ariannol.
Rydym yn aelod o Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS)
a sefydlwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000.
Fel un o gwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu’r Principality, mae eich
cyfrif/cyfrifon gyda ni wedi’u cwmpasu gan Gynllun Iawndal y
Gwasanaethau Ariannol hyd at uchafswm o £50,000 fesul unigolyn, oni
bai eich bod yn un o’r canlynol:
- Cwmni mawr
- Partneriaeth fawr
- Cymdeithas gydfuddiannol fawr
- Awdurdod lleol, taleithiol neu drefol
- Cyfarwyddwr neu reolwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality neu’n
berthynas agos i gyfarwyddwr neu reolwr Cymdeithas Adeiladu’r
Principality
- Sefydliad credyd
- Sefydliad gwasanaethau ariannol dramor
- Cronfa bensiwn ac ymddeol neu ymddiriedolwr cronfa o’r
fath
- Awdurdod gweinyddol y llywodraeth neu awdurdod gweinyddol
canolog
- Cwmni o fewn grŵp Cymdeithas Adeiladu’r Principality
- Unigolyn sy’n dal 5% neu fwy o gyfalaf Cymdeithas Adeiladu’r
Principality neu unrhyw gwmni yn y grŵp
- Archwilwyr Cymdeithas Adeiladu’r Principality a’i grŵp
- Unigolyn yr ystyrir ei fod yn gyfrifol am ddiffygdalu
Cymdeithas Adeiladu’r Principality sy’n sbarduno’r FSCS.
- Unigolyn y mae ei hawliad yn deillio o drafodion sy’n ymwneud â
chollfarn a dderbyniwyd am wyngalchu arian.
Cwmpesir 100% o adneuon o £50,000 fesul buddsoddwr. Os oes
gennych forgais gyda ni hefyd, caiff unrhyw swm sy'n ddyledus i chi
ei gymhwyso gyntaf i leihau balans unrhyw forgais sy'n weddill a
all fod gennych.
O ran rhoi cyngor ar forgeisi a'u trefnu, cwmpesir 100% o'r
£30,000 cyntaf a 90% o'r £20,000 nesaf, felly'r uchafswm iawndal yw
£48,000.
O ran y rhan fwyaf o fathau o fusnes buddsoddi, ac eithrio
adneuon, cwmpesir 100% o'r £30,000 cyntaf a 90% o'r £20,000 nesaf,
felly'r uchafswm iawndal yw £48,000.
O ran rhoi cyngor ar yswiriant a'i drefnu, cwmpesir 100% o'r
£2,000 cyntaf a 90% o weddill yr hawliad, heb unrhyw derfyn
uchaf.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am drefniadau'r cynllun iawndal
gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol yn www.fscs.org.uk.
Er mwyn ein helpu i gynnal ein gwasanaethau a’n safonau
diogelwch, gallwn fonitro neu recordio galwadau ffôn.
Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd i wneud cais am
forgais gennym. Argymhellwn hefyd y dylech ystyried eich yswiriant
bywyd a'ch trefniadau diogelu incwm pan fyddwch yn ystyried trefnu
morgais. Bydd unrhyw gais a wnewch yn destun asesiad o'ch statws
ariannol a'ch gallu i fforddio morgais.
Gweithdrefn gwyno
Cliciwch yma i weld manylion am ein
gweithdrefn gwyno
Rheolau Cymdeithas Adeiladu’r Principality
Cliciwch yma i ddarllen y
ddogfen ‘Rheolau Cymdeithas Adeiladu’r Principality’ (pdf,
346KB)