Profi pwy ydych

Os ydych yn gwsmer newydd, mae angen i ni gadarnhau pwy ydych cyn y gallwn dderbyn eich cais i gael cyfrif Principality.

  • Mae’r broses hon yn eich diogelu rhag pobl sy’n dwyn manylion personol, drwy sicrhau nad oes unrhyw un arall yn agor cyfrif yn eich enw chi
  • Noda’r gyfraith bod yn rhaid i ni gadarnhau pwy yw cwsmeriaid newydd i helpu i atal troseddau ariannol – er enghraifft pan fydd troseddwyr yn agor cyfrifon o dan enwau ffug er mwyn buddsoddi arian maent wedi’i gael yn anghyfreithlon

Os ydych yn gwsmer presennol gallwn ofyn i chi brofi pwy ydych hefyd os:

  • Nad ydych wedi defnyddio eich cyfrif am gyfnod hir
  • Rydych wedi newid eich enw neu’ch cyfeiriad neu
  • Mae angen diweddaru’r cofnodion sydd gennym amdanoch ar hyn o bryd

Prawf adnabod electronig

Drwy gwblhau dogfen gais, rydych yn cytuno i gael prawf adnabod electronig. Caiff y wybodaeth a roddwch i ni pan fyddwch yn gwneud cais ei chadarnhau yn erbyn cofnodion a gedwir gan asiantaethau gwirio credyd. Ni fydd benthycwyr yn gweld nac yn defnyddio’r cyfryw chwiliadau i asesu eich gallu i gael credyd. Mae nodi manylion personol yn electronig yn ffordd ddiogel a chywir o gadarnhau pwy ydych ac, fel arfer, mae’n golygu na fydd angen i chi roi unrhyw ddogfennau papur i ni.

Ar hyn o bryd, dim ond i gyfrifon cynilo y mae’r broses adnabod electronig yn berthnasol – mae angen i ni weld dogfennau o’r rhestr â’ch enw a’ch cyfeiriad arnynt o hyd ar gyfer ceisiadau am forgeisi.

Os ydych yn gwneud cais am e-GYNILWR neu e-ISA

Os ydych yn gwneud cais naill ai am e-GYNILWR neu e-ISA ac nad ydym wedi llwyddo i gadarnhau pwy ydych ar-lein, bydd angen i chi anfon un math o brawf adnabod gyda'ch enw a'ch cyfeiriad arno ac un brawf arall o'r rhestri isod. Dylech anfon yr eitemau hyn atom gyda'ch swm cychwynnol. Mae'n rhaid i'r manylion bancio a nodir ar eich swm cychwynnol gyfateb i'r rheini rydych yn eu defnyddio ar gyfer eich cyfrif cysylltiedig.

Os na allwn gadarnhau pwy ydych yn electronig

Yn anffodus, nid yw'n bosibl cadarnhau manylion unigolyn yn electronig bob amser. Y rheswm am hyn fel arfer yw nad yw ansawdd y data a ddelir yn ganolog yn ddigonol i roi'r lefel sicrwydd sydd ei hangen arnom.

Os felly, bydd angen i ni weld dogfennau gwirioneddol i brofi pwy ydych.

  • Os ydych yn gwneud cais yn bersonol mewn cangen, bydd angen i ni weld dwy ddogfen: un o’r rhestr ‘Cadarnhau Enw’, ac un o’r rhestr ‘Cadarnhau Cyfeiriad’.
  • Os ydych yn gwneud cais drwy’r post neu dros y ffôn, bydd angen i chi ddarparu un ddogfen o’r rhestr ‘Cadarnhau Enw’, ac un o’r rhestr ‘Cadarnhau Cyfeiriad’, yn ogystal â dogfen ychwanegol o’r naill restr neu’r llall (cyfanswm o dair dogfen).
Cadarnhau Enw Cadarnhau Cyfeiriad
Pasbort cyfredol y DU/UE wedi’i lofnodi Bil cyfleustod (llai na 3 mis oed)
Trwydded Yrru lawn gyfredol y DU/UE wedi’i llofnodi (cerdyn llun neu bapur) Bil treth Awdurdod Lleol ar gyfer y flwyddyn gyfredol
Hysbysiad Treth Cyllid a Thollau EM (dyddiedig yn y 12 mis diwethaf) Llythyr gan un o Adrannau’r Llywodraeth ynglŷn â’ch materion personol (llai na 12 mis oed)
Pas gyrrwr anabl glas Cyfriflen Banc, Cymdeithas Adeiladu (cynilion) neu gerdyn credyd (llai na 3 mis oed)
Tystysgrif drylliau gyfredol Cyfriflen Morgais (llai na 12 mis oed)
Dogfen pensiwn y wladwriaeth neu fudd-daliadau gyfredol neu hysbysiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cadarnhau eich hawl i gael budd-daliadau Cytundeb tenantiaeth neu gerdyn rhent Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai
Cerdyn adnabod aelod-wladwriaeth yr UE Llythyrau swyddogol gan gartref gofal neu gartref nyrsio yn cadarnhau eich bod yn byw yno (yn ystod y 12 mis diwethaf)
Os ydych dros 60 oed, gallwch ddefnyddio cyfriflen Swyddfa’r Post yn dangos credyd pensiwn y wladwriaeth o fewn y 3 mis diwethaf Llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau eich bod wedi cwblhau’r broses o brynu tŷ neu gofrestru tir ynghyd â phrawf o’ch cyfeiriad blaenorol
O dan 19 oed yn unig
Tystysgrif Geni Llythyr swyddogol gan ysgol, coleg neu brifysgol yn cadarnhau eich presenoldeb (Llai na 12 mis oed)
Trwydded yrru cerdyn llun dros dro Cadarnhad o gyfeiriad eich rhieni gyda llythyr rhagarweiniol neu Ffurflen Cyflwyno Plentyn (ar gael ar gais)
  Cerdyn Yswiriant Gwladol gyda llythyr cysylltiedig

Nodiadau Pwysig

  • Os ydych wedi newid eich enw a’ch bod yn rhoi prawf o’ch enw newydd, bydd angen i chi ddarparu tystysgrif priodas, dogfen gweithred newid enw neu ddogfen archddyfarniad terfynol.
  • Os ydych yn agor cyfrif Principality i blentyn, gofynnwch i ni am ‘Ffurflen Cyflwyno Plentyn’. Bydd angen i chi hefyd ddangos dogfennau adnabod ar eich cyfer chi a’r plentyn.
  • Os ydych yn gweithredu fel Pŵer Atwrnai mae’n rhaid i chi gyflwyno prawf adnabod ar eich cyfer chi a’r cwsmer.
  • Os ydych yn gweithredu fel cyfreithiwr ar ran cleient mae’n rhaid i chi gyflwyno copi o’ch tystysgrif ymarfer a llythyr ar bapur pennawd yn cadarnhau enw a chyfeiriad y cleient.
  • Dim ond os yw copïau o ddogfennau wedi’u hardystio’n swyddogol gan gyfreithiwr, cyfrifydd, swyddog banc neu unigolyn a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol y cânt eu derbyn.

    Rhaid i’r geiriad nodi “Rwy’n tystio bod hwn yn gopi gwir o’r ddogfen wreiddiol yr wyf wedi’i gweld” ac mae’n rhaid cynnwys enw, cyfeiriad, swydd, cyflogwr neu gwmni’r ardystiwr, gyda llofnod a dyddiad.
  • Mae’n rhaid i bob dogfen a gyflwynir ddod o ffynhonnell wahanol, er enghraifft ni fyddwn yn derbyn dwy ddogfen gan DWP i gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad.

Ni fyddwn yn derbyn y dogfennau canlynol o dan unrhyw amgylchiadau:

  • Biliau ffôn symudol
  • Dogfennau wedi’u hargraffu oddi ar y rhyngrwyd neu o gyfrifiadur personol
  • Dogfennaeth nad yw’n gyfredol
  • Trwyddedau gyrru neu basbortau heb eu llofnodi
  • Ffurflenni P45 a P60
  • Y papur sy’n cyd-fynd â’r trwydded yrru cerdyn llun ar ei ben ei hun
  • Trwyddedau cerdyn llun lle mae’r llun bellach yn annilys. Dim ond am 10 mlynedd y mae lluniau’n ddilys

Byddwn yn cadw copi o’ch dogfennau yn unol â rheoliadau Gwrth-wyngalchu Arian.

GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS

Gwybodaeth bwysigPolisi preifatrwyddHygyrcheddNewyddionSwyddiDiogelwchMap o'r safle

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (rhif awdurdod 155998). Nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi sy'n ymwneud masnachu neu fusnesau.

1 3 4 6 8 9 0 a b u n j c e