- Gwelwyd perfformiad cadarn gan y Principality yn 2008, gydag
elw o £14.5m
- Sicrhawyd dros £822m o adneuon cynilo newydd yn 2008, gan olygu
bod ein balansau cynilion manwerthu yn £4,626.5m
- Caiff dros 93% o’n benthyciadau eu hariannu gan ein balansau
cynilion manwerthu
- 450,000 o gwsmeriaid; ymunodd 76,000 o gwsmeriaid newydd â’r
Gymdeithas yn 2008
- 50 o ganghennau, mwy o ganghennau yng Nghymru nag unrhyw
Gymdeithas Adeiladu arall
- 9fed Cymdeithas Adeiladu fwyaf yn y DU
- Gwerth £6 biliwn o asedau
- Benthyciad ar sail Gwerth cyfartalog o lai na 50% ar ein llyfr
benthyca, sy’n nodi ansawdd ein llyfr morgeisi
Wedi’i sefydlu yn 1860, Cymdeithas Adeiladu’r Principality erbyn
hyn yw un o sefydliadau ariannol mwyaf adnabyddus Cymru. Gyda dros
£6 biliwn o asedau, ni yw’r 9fed cymdeithas adeiladu fwyaf yn y
DU.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi cynnal ein statws
cydfuddiannol cryf dros y 149 o flynyddoedd diwethaf. Mae bod yn
gymdeithas gydfuddiannol yn golygu ein bod yn wahanol i fanciau
sy’n gorfod bodloni eu cyfranddeiliaid. Caiff ein helw ei
ail-fuddsoddi yn y Gymdeithas i greu mwy o werth a sicrwydd
ariannol i’n haelodau a’n cwsmeriaid.
Yn wir, prif flaenoriaeth y Principality yw sicrhau bod arian
ein haelodau yn ddiogel. Mae ein model busnes ‘cydfuddiannol’
traddodiadol yn golygu ein bod mewn safle da i oresgyn yr amodau
economaidd ariannol cyfredol.
Rydym yn parhau i wneud elw, mae gennym ddigon o gyfalaf ac
rydym yn y safle cryfaf yn y sector o ran cyfalaf. Mae ein
hymagwedd ddoeth at fenthyca a lefelau uchel o adneuon cynilion
manwerthu yn sicrhau bod ein cymhareb arian manwerthu yn parhau i
fod yn un o’r rhai gorau yn y diwydiant.
Mae’r cynilion manwerthu gorau erioed yn ystod 2008, sef dros
£822 miliwn, wedi golygu ein bod wedi gallu lleihau ein dibyniaeth
ar ffynonellau ariannu’r farchnad cyfanwerthu a’r farchnad arian
hyd yn oed ymhellach eleni.
Caiff 93% o fenthyciadau Cymdeithas Adeiladu’r Principality eu
hariannu gan ein hadneuon cynilion manwerthu - ffigur rydym wedi
gweithio’n galed i’w gyflawni ac yn falch iawn ohono.
Yn ogystal, ymunodd 76,000 o gwsmeriaid newydd â Chymdeithas
Adeiladu’r Principality y llynedd. Mae hynny’n dyst pellach i’n
brand yr ymddiriedir ynddo a’n model busnes profedig.
At hynny, mae ein hymagwedd ddoeth tuag at fenthyca wedi sicrhau
nad yw’r Gymdeithas erioed wedi bod yn gysylltiedig â’r farchnad
morgeisi 100% benthyciad ar sail gwerth risg uchel yn wahanol i
lawer o’n cystadleuwyr.
Yn ogystal, nid yw’r Principality erioed wedi caffael llyfrau
benthyca busnesau sy’n golygu bod gennym ddealltwriaeth lawn a
thrylwyr o gyfansoddiad ein busnes benthyca. Mae ein holl
fenthyciadau wedi tyfu’n naturiol ac wedi cael eu datblygu’n raddol
dros nifer o flynyddoedd gan sicrhau bod y busnes hwn yn cael ei
reoli mewn ffordd effeithiol.
Mae’r ffactorau hyn, yn eu tro, wedi arwain at sefyllfa lle mae
ein hôl-ddyledion cyfredol (nifer y cwsmeriaid sy’n diffygdalu ar
eu benthyciadau) yn sylweddol is na’r cyfartaledd ar gyfer y
farchnad.
Mae polisi darparu’r Gymdeithas, y swm rydym yn ei neilltuo i
gwmpasu dyled drwg posibl, yn seiliedig ar fodel cyfrifol sy’n
sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda os bydd amodau’r farchnad yn
parhau i effeithio ar allu ein cwsmer i wneud eu had-daliadau.
Nid yw’r Principality wedi profi unrhyw golledion o ganlyniad i
amlygiadau i wrthbartïon yn cynnwys banciau yng Ngwlad yr Iâ,
benthyciadau ‘sub-prime’ a dyled a ddefnyddir fel gwarant.
Yma i chi...
Mae gennym fwy o ganghennau yng Nghymru nag unrhyw Gymdeithas
Adeiladu arall. I gael rhagor
o wybodaeth am Gymdeithas Adeiladu’r Principality, galwch i mewn i
siarad ag un o aelodau ein tîm cyfeillgar, proffesiynol a pharod eu
cymwynas.
Gallwch ein ffonio ar 0845 045 0006. Mae ein
canolfan alwadau sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yn llawn pobl
brofiadol a chymwys sydd wrth law i ateb eich cwestiynau rhwng 8am
ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.30am ac 8pm ar ddydd
Mercher a rhwng 9am ac 1pm ar ddydd Sadwrn.