Bydd Pencampwriaeth Agored Ieuenctid Cymru y Principality yn fwy ac yn well nac erioed ar ôl cyhoeddi cytundeb dwy flynedd newydd gyda’r prif noddwyr ac ychwanegu pumed digwyddiad rhagbrofol yng Nghlwb Golff enwog Radur.
Bydd Radur, a ddisgrifiwyd fel “gem fechan” ar gyrion Caerdydd ac a ddyluniwyd gan y pensaer cyrsiau golff enwog Harry S Colt, yn cynnal yr olaf o bum rownd ragbrofol y Pasg ddydd Gwener 13 Ebrill 2012.
Bydd pencampwriaeth golff ieuenctid flaenllaw Cymru yn cynnwys pedwar digwyddiad rhagbrofol arall ledled Cymru – yng Nghlwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech (4 Ebrill), ym Mae Langland (5 Ebrill), yn Llanfair-ym-muallt (11 Ebrill) ac yn Marriott St Pierre (12 Ebrill).
Yna, bydd y bobl ifanc sy’n llwyddiannus yn y rowndiau rhagbrofol ar gyfer grwpiau oedran Dan 13, Dan 15 a Dan 18 yn cystadlu mewn rownd derfynol ym mis Awst ar gwrs Dwy Fil a Deg, a gynhaliodd ornest Cwpan Ryder mor gofiadwy yn Celtic Manor yn 2010.
Mae Cymdeithas Adeiladu Principality a’r Celtic Manor Resort yn falch o adeiladu ar etifeddiaeth Cwpan Ryder gyntaf Cymru â chystadleuaeth sydd â’r gobaith o feithrin pencampwyr y dyfodol i ddilyn yn ôl troed arwyr Cwpan Ryder Cymru fel Ian Woosnam a Phillip Price, a seren Cwpan Solheim, Becky Brewerton.
Meddai Graeme Yorston, Prif Swyddog Gweithredu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydym yn falch o gefnogi chwaraeon llawr gwlad yng Nghymru ac roeddem wrth ein boddau â’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan y golffwyr ifanc a gymerodd ran wrth i ni ymuno fel y prif noddwyr am y tro cyntaf y llynedd.
“Roedd yn bleser cael cerdded o gwmpas cyrsiau golff fel Bae Langland a gweld chwaraewyr ifanc wir yn mwynhau eu blas cyntaf ar gystadleuaeth genedlaethol. Fe wnaeth safon y golff a welwyd gan y pencampwyr yn Celtic Manor gryn argraff arnom.
“Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cefnogi Pencampwriaeth Agored Ieuenctid Cymru y Principality am ddwy flynedd arall o leiaf, ac rydym yn hyderus y byddwn yn gweld mwy o dalent newydd o Gymru yn dod i’r amlwg yn ystod y cyfnod hwn.”
Mae Radur, y lleoliad newydd ar gyfer y rowndiau rhagbrofol, hefyd yn awyddus i gefnogi datblygiad golff ieuenctid, ac aelod o’r clwb, Alastair Jones, oedd Pencampwr Amatur Cymru yn 2010. Mae bellach yn gapten ar dîm ei goleg ym Mhrifysgol Talaith Texas.
Mae’r clwb yn rhedeg rhaglen academi bob dydd Sul ar gyfer chwaraewyr o bob safon ac mae nifer o aelodau sgwadiau sir Forgannwg a Chymru yn dod o blith ieuenctid y clwb.
“Rydym yn hynod falch y bydd ein cwrs llawn her yn lleoliad ar gyfer rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Agored Ieuenctid Cymru y Principality,” meddai Capten Clwb Golff Radur, Ron Jones.”
“Mae’n gystadleuaeth wych a bydd y digwyddiad yma ym mis Ebrill yn gychwyn perffaith i flwyddyn bwysig o golff ieuenctid i Radur, gan ein bod hefyd yn edrych ymlaen at groesawu Gemau Rhyngwladol Cartref y Merched ym mis Awst.”
Enillwyd Pencampwriaeth Agored Ieuenctid Cymru y Principality, a ail-lansiwyd y llynedd, gan chwaraewr sir Gwent, Toby Hunt, sydd â handicap o ddim. Enillwyd cystadleuaeth y merched gan Amy Boulden, a aeth yn ei blaen i gynrychioli tîm Ewrop yng Nghwpan Ieuenctid Solheim yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae enillwyr blaenorol eraill y gystadleuaeth, a lansiwyd gyntaf yn 2002, wedi cynnwys Rhys Pugh - yr unig chwaraewr i ennill pob un o’i dair gêm yn y fuddugoliaeth Cwpan Walker dros yr Americanwyr y llynedd.
Ar ben arall y sbectrwm, cafodd golffwyr mor ifanc â 10 oed eu blas cyntaf ar gystadleuaeth y tu allan i’w clybiau eu hunain yn nigwyddiad y llynedd, lle cymerodd bron i 400 o bobl ifanc ran. Mae ennill lle yn y rownd derfynol ar ddyddiad i’w gadarnhau ddiwedd mis Awst yn cynnwys arhosiad dros nos yng ngwesty pum seren Celtic Manor.
Am bris mynediad o £15, caiff pob cystadleuydd 18 twll o golff yn y rownd ragbrofol ranbarthol, cinio pecyn a bag o nwyddau golff gan y cwmni o Gymru, Asbri, yn ogystal â chyfle i gystadlu am y gwobrau mawr yn y rownd derfynol.
Gallwch wneud cais ar-lein yn isipshandawalesopen.com neu ffonio tîm digwyddiadau arbennig Celtic Manor ar 01633 410318 am ragor o wybodaeth.
Mwy o Newyddion:
-
18/01/2013
Principality yn gweld benthyca'n codi i'r swm mwyaf erioed yn 2012
Mae Principality, cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, heddiw wedi adrodd cynnydd sylweddol mewn lefelau benthyca, gyda benthyciadau newydd yn y gymdeithas adeiladu yn gyfanswm o swm record o £1 biliwn am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2012. Dywedodd y Gymdeithas ei bod wedi cynnal awydd cyson am fenthyca morgeisi, gan helpu pobl i gyflawni eu dyheadau tai yng Nghymru a thu hwnt.
Darllenwch yr erthygl hon yn llawn
-
24/01/2013
Principality introduces market leading 95% Mortgage to boost the Welsh housing market
Principality, Wales’s largest building society, has announced the launch of a brand new 95% LTV mortgage product that will lend up to 95% Loan To Value, to help Welsh First Time Buyers and those with limited deposits in Wales to get onto the property ladder.
Darllenwch yr erthygl hon yn llawn