Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

NAWDD A PHARTNERIAETHAU

Mae cymunedau a threftadaeth Cymru yng nghalon ein Cymdeithas.

Rydych chi yma:

> > Nawdd a Phartneriaethau

Rydym yn falch o’n rhaglen nawdd eang sy’n effeithio ar ein cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae’n dathlu popeth sy’n dda am Gymru - ein chwaraeon, celfyddydau a diwylliant:

  • Cefnogwn chwaraeon lleol yng Nghymru drwy Uwchgynghrair Rygbi y Principality.
  • Rydym yn arwain yng ngwlad y gân fel noddwyr cystadlaethau corawl yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Hyrwyddwn fywyd Cymru drwy gymryd rhan yn Sioe Frenhinol Cymru.
  • Rydym yn helpu plant ysgol gynradd i gymryd rhan yn y celfyddydau perfformio a chynyrchiadau llwyfan drwy ein cefnogaeth hirdymor i Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol
  • Helpwn i ddod â hanes Cymru’n fyw drwy ein nawdd i Oriel Un yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
  • Mae gennym bartneriaeth gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, gan gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.
    Cefnogwn Gyngor Dinas Caerdydd.

Cyfleoedd Nawdd

Derbyniwn lawer o geisiadau am nawdd felly rydym angen polisïau a chanllawiau cadarn i sicrhau ein bod yn cefnogi cynlluniau sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd brand. Edrychir ar geisiadau am nawdd yn unigol ond gofynnir i chi nodi na fedrwn ymrwymo ein cefnogaeth i:

  • Achosion gwleidyddol
  • Prosiectau yn hyrwyddo neu gefnogi crefydd benodol
  • Prosiectau gan gwmnïau a gaiff eu rhedeg am elw ar ran elusennau
  • Achosion tu allan i’r ardaloedd lle mae gennym ganghennau
  • Costau datblygu neu redeg prosiectau
  • Codi arian unigol

I gael mwy o wybodaeth am nawdd, cysylltwch â Pat Ashman, Rheolwr Nawdd a Digwyddiadau, ar 029 20 77 3318, neu e-bost pat.ashman@principality.co.uk

 

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.