Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

POLISI CWCIS PRINCIPALITY

Cwcis – beth ydyn nhw a pham rydym ni’n eu defnyddio.

Rydych chi yma:

> Polisi Cwcis

Beth yw cwci?

Llinynnau byr o destun yw cwcis sy’n cael eu hanfon o weinydd gwe i gof eich porwr gwe pan fyddwch yn ymweld â safle gwe. Mae’r cwci yn cael ei storio ar eich cyfrifiadur ond nid yw’n rhaglen weithredadwy ac ni allai achosi difrod i’ch caledwedd na’ch meddalwedd.

Gall cwcis fod yn:

  • Cwcis Sesiwn
    Ffeiliau cwci dros dro yw’r rhain sy’n cael eu dileu pan fyddwch yn cau’ch porwr gwe. Mae hyn yn golygu na fydd y cwcis hyn yn cael eu cofio ar eich ymweliad nesaf. Rydym ni’n defnyddio’r cwcis hyn ar gyfer morgeisi wedi eu teilwra ac amcangyfrifon cynilion ar ein safle gwe.
  • Cwcis Parhaol
    Cwcis sy’n aros yn barhaol yn ffolder eich porwr yw’r rhain hyd eich bod yn dewis i’w dileu neu maent yn dod i ben. Gall y cwcis hyn fod â diwrnod dod i ben o hyd at 5 mlynedd.

Pam rydym ni’n defnyddio cwcis?

Mae cwcis yn ein helpu ni gasglu gwybodaeth oddi wrthych chi gallwn ni ei defnyddio pan fyddwch yn ymweld â neu ddefnyddio’n safle eto, fel lleoli eich cangen agosaf neu ddangos cynhyrchion rydych wedi eu gwylio o’r blaen. Fel hyn, gallwn roi gwybodaeth bersonol i chi megis, eich dewis iaith a gallwch gael mynediad i’ch amcangyfrifon, cyfrifon a chyflawni trafodion. Os ydych yn cofrestru i ddefnyddio’n safle i geisio am forgais neu i ddilyn hanes eich cais am forgais, bydd angen arnom ddefnyddio cwcis.

Ar ein safle gwe, rydym yn defnyddio cwcis am y rhesymau canlynol ar hyn o bryd:

  • I fonitro teithiau gan gwsmeriaid a thueddiadau ar draws y safle gwe, sy’n ein helpu i wneud newidiadau i wella eich profiad o’r safle gwe.
  • I adael i chi arbed eich cangen leol fel ei bod yn ymddangos ar frig pob tudalen we, gan roi mynediad hawdd i chi o’r wybodaeth sy’n berthnasol i chi.
  • I adael i chi gadw eich dyfynbrisiau cynilion a morgeisi, hyd yn oed ar ôl mordwyo o’r dudalen.
  • I gofio’ch dewis iaith trwy gydol eich ymweliad ac ar ymweliadau diweddarach â’n safle.
  • I gasglu gwybodaeth ddemograffig ac ystadegau ymwelwyr i’n galluogi i wella cynnwys a strwythur ein safle gwe.

Gallwch ddewis i osod eich porwr fel nad yw’n derbyn cwcis. Byddwch yn ymwybodol o wneud hyn mae’n bosibl na fyddwch yn gallu defnyddio llawer o offer a chyfleusterau ar ein safle gwe, os gwelwch yn dda.

A yw cwcis yn beryglus?

Nac ydynt. Ffeiliau testun syml sy’n cael eu harbed gan eich porwr i’ch gyriant caled yw cwcis. Nid ydynt yn ffeiliau gweithredadwy nac ategion ac ni allent gael eu defnyddio fel firws nac i gael mynediad at eich gyriant caled. Yn syml, mae’r ffeiliau’n darparu’ch porwr â gwybodaeth ddefnyddiol am eich ymweliad blaenorol â safle gwe, gan wneud eich ymweliad nesaf yn haws ac yn fwy cynhyrchiol.

Gall cwcis fygwth fy mhreifatrwydd?

Mae caniatáu cwcis yn ei gwneud hi’n haws a chynt i chi gyflawni trafodion ar-lein, ond fel gydag unrhyw rannu o wybodaeth unrhyw – ar-lein neu all-lein – y cyfaddawd am y cyfleustra hwn yw ein bod yn agored i'r posibilrwydd o golli preifatrwydd. Nid yw cwcis yn casglu gwybodaeth bersonol ar-lein oni bai eich bod yn dewis iddynt wneud hynny. Enghraifft o hyn fyddai dewis safle gwe i gofio’ch manylion defnyddiwr y tro nesaf rydych chi’n logio i mewn.

Mae cwcis yn cael eu storio ar eich gyriant caled ac yn unman arall ar y we. Ni ellir cael mynediad at y ffeiliau hyn trwy borwr unrhyw berson arall. Dylech fod yn ofalus felly pan fyddwch yn defnyddio cyfrifiadur rhywun arall neu gyfrifiadur sy’n cael ei rhannu. Ystyriwch yn ofalus y wybodaeth rydych yn ei chasglu a’i rhannu ar draws y rhyngrwyd.

Isod ceir nifer o ganllawiau ar gyfer y porwyr fwyaf eang eu defnydd, sy’n rhoi gwybodaeth ar sut ydych yn clirio’r cwcis hyn ar ôl ymweld â safle gwe, neu sut i analluogi cwcis yn gyfan gwbl os nad ydych yn gyfforddus ag unrhyw wybodaeth yn cael ei storio mewn cwcis.

Dolenni Defnyddiol

Sut i ddileu cwcis

Bydd dileu’r cwcis yn clirio’r cwcis i gyd sydd wedi eu storio ar eich gyriant caled. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn atal unrhyw gwci gael ei lawr-lwytho yn y dyfodol.

Os ydych yn dileu cwcis, bydd unrhyw ddewisiadau hoff a gosodiadau a arbedwyd, fel cynhyrchion a wyliwyd yng nghynt neu eich dewis o iaith a changen yn cael ei golli.

Firefox

  1. Agorwch eich porwr Firefox, ac yn y bar uchaf ewch i 'Tools'.
  2. Unwaith rydych chi yn 'Tools' ewch i lawr i 'Clear Recent History...' a fydd yn agor fel blwch ymddangos.
  3. Yn y blwch ymddangos, sicrhewch fod 'Everything' wedi ei ddewis yn y gwymplen a bod 'Cookies' wedi ei dicio isod.
  4. Cliciwch 'Clear Now' a bydd pob cwci yn cael ei ddileu o’r peiriant ar gyfer Firefox.

Internet Explorer

  1. Agorwch eich porwr Internet Explorer, ac yn y bar uchaf ewch i 'Tools'.
  2. Unwaith rydych chi yn 'Tools' cliciwch ar 'Delete Browsing History' ar ben y fwydlen. Bydd hyn yn agor blwch ymddangos newydd.
  3. Yn y blwch ymddangos sydd bellach yn agored, sicrhewch fod 'Cookies' wedi ei dicio.
  4. Cliciwch ar 'Delete' ar waelod y blwch. Bydd hyn yn dileu pob cwci o’r peiriant hwn ar gyfer Internet Explorer.

Google Chrome

  1. Agorwch eich porwr Google Chrome. Yn y gornel uchaf ar y dde bydd sbaner 'Customise and control Google Chrome'.
  2. Unwaith rydych chi yn y fwydlen dewiswch 'Clear browsing data...'. Bydd hyn yn agor ffenestr ymddangos newydd.
  3. Yn y ffenestr newydd a arddangosir, sicrhewch fod 'Delete cookies' wedi ei dicio a bod 'Everything' wedi ei ddewis yn y gwymplen.
  4. Cliciwch 'Clear Browsing Data' yn y gwaelod. Bydd hyn yn dileu cwcis o’r peiriant hwn ar gyfer Google Chrome.

Safari

  1. Agorwch eich porwr Safari. Yn y gornel uchaf ar y dde bydd eicon cocsyn 'Display a menu of general Safari settings'. O dan y fwydlen hon, dewiswch 'Reset Safari...'.
  2. Bydd ffenestr ymddangos yn agor. Ar ôl dewis yr eitem hon o’r fwydlen, sicrhewch eich bod yn dewis 'Remove all cookies' yma.
  3. Pan fyddwch yn clicio 'Reset' bydd y cwcis i gyd rydych yn eu dal ar gyfer y porwr hwn yn cael eu dileu o’r peiriant rydych chi’n ei ddefnyddio.

Sut i analluogi cwcis

Bydd analluogi cwcis yn atal safleoedd gwe rhag creu cwcis ar eich gyriant caled. Nodwch os gwelwch yn dda bydd hyn yn golygu na fyddwch yn gallu arbed gosodiadau a dewisiadau hoff ar safleoedd gwe rydych chi’n ymweld â nhw gan na fydd eich porwr yn derbyn cwcis mwyach.

Byddwch yn ymwybodol o wneud hyn, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio llawer o’r offer a chyfleusterau ar ein safle gwe, os gwelwch yn dda.

Firefox

  1. Agorwch eich porwr Firefox ac yn y fwydlen ar y brig ewch i 'Tools'.
  2. Unwaith rydych chi yn y fwydlen 'Tools' dewiswch 'Options' a fydd yn agor ffenestr ymddangos newydd.
  3. Yn y ffenestr ymddangos sydd nawr wedi agor, sicrhewch eich bod yn y tab 'Privacy'.
  4. Unwaith rydych chi yn y tab 'Privacy', mae gennych chi’r opsiwn o 'Never remembering History' neu ddefnyddio gosodiadau wedi eu haddasu.
  5. At y pwrpas o ond flocio cwcis, dewiswch 'Use custom settings for history'.
  6. Nawr rydych wedi dewis hyn, sicrhewch fod 'Accept cookies from sites' heb ei dicio a chliciwch 'Ok'

Internet Explorer

  1. Agorwch eich porwr Internet Explorer ac yn y fwydlen ar y brig ewch i 'Tools'.
  2. Unwaith rydych chi yn y fwydlen 'Tools' dewiswch 'Internet Options' a fydd yn agor ffenestr ymddangos newydd.
  3. Yn y ffenestr ymddangos, sicrhewch eich bod yn y tab 'Privacy'.
  4. Yn y tab hwn byddwch yn gweld llithrydd gyda rhif o wahanol lefelau. I analluogi’r cwcis i gyd, symudwch y llithrydd i’r brig.
  5. Nawr cliciwch 'Apply' ac 'Ok' i arbed y gosodiadau.

Google Chrome

  1. Agorwch eich porwr Google Chrome. Yn y gornel uchaf ar y dde bydd sbaner 'Customise and control Google Chrome'.
  2. Unwaith rydych chi yn y fwydlen dewiswch 'Options' a fydd yn arddangos ffenestr ymddangos newydd.
  3. Sicrhewch eich bod oddi mewn i’r tab 'Under the hood'.
  4. Ar y brig dylech weld y pennawd 'Privacy'. O dan y pennawd hwn, bydd maes ar gyfer 'Cookie settings'.
  5. Yn 'Cookie Settings' dewiswch 'Block all cookies' a chliciwch ar 'Close' ar waelod y ffenestr er mwyn gweithredu’r gosodiadau.

Safari

  1. Agorwch eich porwr Safari. Yn y gornel uchaf ar y dde bydd eicon cocsyn 'Display a menu of general Safari settings' O dan y fwydlen hon, dewiswch 'Preferences'.
  2. Unwaith rydych chi yn 'Preferences' sicrhewch eich bod yn y tab 'Security'.
  3. Unwaith rydych chi yn y tab, o dan 'Accept Cookies', dewiswch y botwm radio 'Never'. Ni fydd cwcis yn cael eu cadw mwyach ar y peiriant hwn pan fyddwch yn defnyddio’r porwr.
Nodyn: Mae gan lawer o borwyr bellach brofiad o 'Private Browsing' a gall gael ei ddewis o’r opsiynau. Bydd y gosodiad hwn yn eich caniatáu i bori pob safle heb unrhyw ran o’ch gwybodaeth gael ei storio yn ystod eich profiad o bori. Edrychwch ar adrannau ‘Help’ y porwyr i ddeall y manylion llawn os gwelwch yn dda.

Os oes gennych unrhyw broblemau sy’n codi o’r uchod, yna cyfeiriwch eich hun at lawlyfrau cymorth eich porwr a all eu canfod yn aml oddi mewn i adrannau ‘Help’ eich porwyr. Nid yw Principality yn gyfrifol am unrhyw faterion a achosir gan newidiadau a wneir. Sicrhewch eich body n ymwybodol o beth rydych chi’n ei wneud cyn gwneud unrhyw newidiadau i osodiadau’ch porwr gan fydd llawer o newidiadau’n effeithio ar eich profiad o bori ar safleoedd gwe eraill.

 

I’n helpu ni gynnal ein safonau gwasanaeth a diogelwch, gall galwadau ff ôn gael eu monitro neu eu recordio. Gall eich manylion personol gael eu defnyddio er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’ch cais.

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.