Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

Blwydd-daliadau

Medrai blwydd-dal gan Aviva fod i chi os ydych angen:

  • Incwm rheolaidd wedi ei warantu yn eich ymddeoliad
  • Incwm am weddill eich oes – pa bynnag mor hir y byddwch yn byw
  • Cysur gwybod yr isafswm y byddwch yn ei gael

Darganfod mwy

Mewn cangen:
Trefnwch apwyntiad

Dros y ffôn:
0845 045 0006

Rydych chi yma:

> > Blwydd-daliadau
  • Cyngor arbenigol
    gan Aviva

    Beth yw blwydd-dal?

    Mae blwydd-dal yn incwm rheolaidd a warantwyd y caiff ei dalu am weddill eich bywyd – pa bynnag mor hir yr ydych yn byw. Prynwch flwydd-dal yn defnyddio eich cronfa bensiwn neu arian sydd gennych o gynilion, buddsoddiadau neu hyd yn oed etifeddiaeth.

    Mae blwydd-dal yn rhoi incwm i chi mewn ymddeoliad, felly gall ffurfio rhan bwysig o’ch cyllid. Medrai peidio edrych o amgylch ar ddewisiadau olygu eich bod dan anfantais ariannol, felly dylech sicrhau eich bod yn cael y cyngor gorau ar gyfer eich amgylchiadau unigol.

Mae Aviva yn darparu tri math o flwydd-dal:

  • Blwydd-dal Pensiwn

    Gallech ddewis hyn os ydych eisiau gwarant o isafswm incwm am oes ac eisiau dewis p’un ai yw’ch incwm yn aros yr un fath neu’n cynyddu bob blwyddyn.

  • Blwydd-dal Pensiwn Gydag Elw

    Gallech ddewis hyn os ydych eisiau gwarant o isafswm incwm am oes sy’n cynnig potensial twf a’ch bod yn derbyn fod peth risg. Gall lefel eich incwm godi a gostwng yn dibynnu ar berfformiad eich Blwydd-dal Pensiwn Gydag Elw a’r gyfradd bonws disgwyliedig a ddewiswch.

  • Blwydd-dal Bywyd ar Unwaith

    Gallech ddewis hwn os oes gennych arian i’w buddsoddi o’ch cynilion neu fuddsoddiadau ac eisiau gwarant incwm am oes.

  • Gall eich dewis blwydd-dal ddibynnu ar eich amgylchiadau ariannol, gwerth eich cronfa bensiwn, eich disgwyliadau ymddeol ac efallai eich iechyd.

  • Peidiwch â phoeni os ydych yn dal heb fod yn sicr pa flwydd-dal sy’n iawn i chi. Ffoniwch ni i drefnu apwyntiad gydag un o’n cynghorwyr fydd yn eich llywio drwy’r gwahanol fathau o flwydd-dal sydd ar gael gan Aviva.

  1. Fel arfer, ni fydd eich incwm yn newid unwaith y byddwch wedi prynu eich blwydd-dal. Medrwch helpu i ddiogelu eich incwm rhag chwyddiant drwy ddewis incwm llai ar y dechrau fydd yn cynyddu bob blwyddyn.
  2. Os dewiswch incwm llai, medrwch ddewis gwarantu incwm am hyd at 10 mlynedd.
  3. Os dewiswch incwm llai, medrwch ddewis darparu incwm i’ch dibynyddion.
  4. Medrwch fod yn gymwys am incwm uwch os oes gennych, neu os bu gennych yn flaenorol, rai cyflyrau meddygol.
  5. Mae’r rhan fwyaf o bensiynau yn gadael i chi gymryd hyd at chwarter eich cronfa bensiwn fel swm arian di-dreth pan brynwch flwydd-dal pensiwn. Mae hyn yn gostwng y swm sydd gennych ar gael i brynu blwydd-dal a’r incwm y byddwch yn ei dderbyn.
  6. Caiff ein blwydd-daliadau eu darparu gan Aviva, un o brif ddarparwyr bywyd a phensiynau’r Deyrnas Unedig.
  7. Enillodd Aviva wobr Darparydd Blwydd-dal Gorau yng Ngwobrau Pensiwn Moneywise yn 2009.
  8. Unwaith y byddwch wedi prynu eich blwydd-dal, ni fedrwch ei gyfnewid am arian na’i ffeirio am drefniant gwahanol. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddwch yn medru ei newid, hyd yn oed os yw’ch amgylchiadau yn newid.

Gwasanaethau Eraill

I gael mwy o wybodaeth

What can I do next?

Dros y ffôn
0845 045 0006

I gael mwy o wybodaeth

What can I do next?

Dros y ffôn
0845 045 0006

 

Caiff Cymdeithas Adeiladu Principality ei hawdurdodi a’i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (awdurdodiad rhif 155998) ac mae’n cyflwyno’n unig i Aviva Life Services UK Cyfyngedig am yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau.

Aviva Life Services UK Limited ei reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Aviva Life & Pensions UK Cyfyngedig. Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 3253947, 2 Rougier Street, York, YO90 1UU. Caiff Aviva Life & Pensions UK Cyfyngedig ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Cofrestriad FSA Rhif 185896.