Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

Rhyddhau Ecwiti

Medrai rhyddhau ecwiti gan Aviva fod yn iawn i chi os ydych

  • Angen rhyddhau arian o werth eich cartref heb orfod symud
  • Angen swm un taliad o arian i’w wario ar beth bynnag a fynnwch
  • Yn barod i wneud ymrwymiad gydol oes

Darganfod mwy

Mewn cangen:
Trefnwch apwyntiad

Dros y ffôn:
0845 045 0006

Rydych chi yma:

> > Rhyddhau Ecwiti
  • Cyngor arbenigol
    gan Aviva

    Beth yw rhyddhau ecwiti?

    Mae rhyddhau ecwiti yn eich galluogi i ryddhau arian o werth eich cartref.

Mae dau fath o ryddhau ecwiti gan Aviva:

  • Morgais Gydol Oes

    Mae hyn yn fenthyciad hirdymor a warentir yn erbyn eich cartref. Mae’r swm y medrwch fenthyca yn dibynnu ar oedran a gwerth eich cartref. Medrech ddewis hyn os ydych un ai eisiau rhyddhau swm o arian i’w wario yn awr, neu hefyd ryddhau swm wrth gefn y medrwch ei ddefnyddio yn y dyfodol. Nid yw’n rhaid i chi wneud unrhyw ad-daliadau misol, gan y caiff y benthyciad a’r llog eu had-dalu pan werthir eich eiddo pan ydych yn marw neu’n mynd i ofal hirdymor. Mae llog yn crynhoi drwy oes y morgais a chaiff ei godi ar gyfanswm y swm a fenthycwyd a’r llog a ychwanegwyd eisoes. Mae hyn yn cynyddu’r swm sy’n ddyledus gennych a bydd yn gostwng y gwerth sydd gennych yn eich eiddo, efallai i ddim.

  • Refersiwn Cartref

    Gyda’r cynllun hwn, rydych yn gwerthu rhan, neu’r cyfan, o’ch cartref i Grainger ccc, y darparydd refersiwn. Maent yn talu swm un taliad ar ddechrau’r cynllun. Gan y rhoddir yr arian ymlaen llaw (a’ch bod yn parhau i gael budd o fyw yn eich cartref), byddwch yn cael llai na phrisiad marchnad llawn y gyfran o’r eiddo a werthwch. Pan ydych yn gorffen y cynllun, yn marw neu’n mynd i ofal hirdymor, bydd darparydd y refersiwn yn gwerthu’r eiddo, cymryd eu cyfran o’r arian a thalu’r balans, os oes peth, i chi neu’ch stad.

  • Peidiwch â phoeni os ydych yn dal yn ansicr os yw rhyddhau ecwiti yn iawn i chi. Ffoniwch ni i drefnu apwyntiad heb oblygiad gyda chynghorydd fydd yn eich llywio drwy’r gwahanol gynlluniau rhyddhau ecwiti sydd ar gael. Dim ond at gynnyrch y Gymdeithas ac Aviva y bydd unrhyw gyngor a roddir yn cyfeirio.

Ffeithiau allweddol

  1. Medrech ryddhau arian o’ch cartref i’ch helpu i wneud yr hyn a ddymunwch yn eich ymddeoliad
  2. Medech gymryd morgais gydol oes pan ydych mor ifanc â 55
  3. Ni fydd yn rhaid i chi wneud unrhyw ad-daliadau misol
  4. Medrwch yn gyffredinol ddal i symud tŷ os dymunwch, cyhyd â bod eich cartref newydd yn diwallu amodau’r cynllun
  5. Bydd cymryd cynnyrch rhyddhau ecwiti yn gostwng faint o etifeddiaeth y medrwch ei adael
  6. Rydym yn eich annog i gynnwys eich teulu yn y broses benderfynu a medrant fynychu unrhyw un o’r apwyntiadau a gewch gyda chynghorydd
  7. Mae morgais gydol oes yn ymrwymiad hirdymor – gall fod yn ddrud os penderfynwch ad-dalu’r benthyciad yn gynnar a gall fod yn rhaid i chi dalu tâl ad-daliad cynnar sylweddol
  8. Nid yw’n rhaid i chi dalu treth ar y swm a fenthycwch, er y gall effeithio ar eich sefyllfa treth a’ch hawl i fudd-daliadau prawf modd
  9. Nid yw morgeisiau gydol oes a’r Cynllun Refersiwn Cartref ar gael yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Nid yw’r Cynllun Refersiwn Cartref ar gael yng Ngogledd Iwerddon na’r Alban.

Gwasanaethau Eraill

Darganfod mwy

What can I do next?

Dros y ffôn:
0845 045 0006

Darganfod mwy

What can I do next?

Dros y ffôn:
0845 045 0006

 

Dim ond i Aviva Life and Pensions UK Cyfyngedig y mae’r Gymdeithas yn cyflwyno. Caiff y ddau eu hawdurdodi a’u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ar gyfer yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau. Dim ond at gynnyrch a gwasanaethau’r Gymdeithas ac Aviva y bydd unrhyw gyngor ariannol a roddir yn cyfeirio. Aviva Life and Pensions UK Limited. Rhif cofrestru cwmni: 03253947. Cyfeiriad cofrestredig: 2 Rougier Street, York, YO90 1UU.

The Society introduces only to Aviva Life and Pensions UK Limited. Both are authorised and regulated by the Financial Services Authority for life assurance, pensions and investments, mortgages and home reversion plans. Any financial advice given will relate only to the products and services of the Society and Aviva. Aviva Life and Pensions UK Limited. Company registration number: 03253947. Registered address: 2 Rougier Street, York, YO90 1UU

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdodiad 155998). Nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi masnachol na morgeisi sy'n ymwneud â busnes.