Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

Cynllunio Ystad

Fel y mwyafrif ohonom, efallai ni fyddwch yn ymwybodol o’r holl fuddion o lunio Ewyllys. Gadewch i’r tîm o ysgrifenwyr Ewyllys cyfeillgar ac arbenigol yng Nghyfreithwyr Hugh James eich helpu i wneud y darpariaethau cywir ar eich cyfer ac ar gyfer eich teulu.

Rydych chi yma:

> > Cynllunio Ystad

Mae hi mor syml i lunio Ewyllys...

Os ydych chi wedi bod yn osgoi ysgrifennu Ewyllys, mae nawr yn amser gwych i’w wneud. Oherwydd rydym wedi trefnu i Gyfreithwyr Hugh James gynnig gwasanaeth ysgrifennu Ewyllys syml a chost-effeithiol i Aelodau’r Principality.

Ysgrifennu Ewyllys yw’r unig ffordd o sicrhau bod popeth yn digwydd fel y mynnoch yn y dyfodol, felly mae’n bwysig sicrhau bod eich un chi’n egluro’n union beth rydych chi eisiau.

Cyfreithwyr Hugh James yw’r cwmni cyfreithiol mwyaf sy’n gweithio ledled Cymru, ac maen nhw’n ymfalchïo mewn cynnig cyngor ymarferol tra’n bod yn sensitif wrth drafod eich anghenion a’ch dymuniadau. Dyna pam y credwn y byddant yn eich helpu i wneud y darpariaethau cywir ar gyfer eich teulu, eich ffrindiau neu’r elusennau rydych chi eisiau iddynt fuddio o’ch Ewyllys. Neu wrth gwrs, mae’n bosib gwneud Ewyllys heb gymorth cyfreithiwr, ond heb yr arbenigedd cywir, efallai byddwch yn achosi gofid a phroblemau i’ch teulu ar adeg anodd.

10 rheswm i lunio Ewyllys

  1. Sicrhau fod popeth yn digwydd fel y mynnoch
  2. Diogelu’ch partner os nad ydych yn briod
  3. Apwyntio pobl rydych yn eu hymddiried fel gwarcheidwaid i’ch plant
  4. Dewis ysgutorion ac ymddiriedolwyr i wireddu’ch dymuniadau
  5. Arbed ar dreth etifeddiaeth
  6. Diogelu dibynyddion anabl
  7. Diogelu’ch teulu neu etifeddion rhag hawliau yn eu herbyn
  8. Diogelu’ch plant rhag etifeddu’n rhy ifanc
  9. Diogelu’r bobl y dewiswch i etifeddu’ch ystad os byddwch chi a’ch partner yn marw ar yr un adeg
  10. Diogelu’r bobl rydych chi’n eu caru rhag problemau ychwanegol ar adeg drist

Sut bydd tîm Hugh James yn eich helpu chi

  • Byddant yn eich helpu i asesu’ch amgylchiadau personol
  • Byddant yn rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau o sicrhau fod popeth yn digwydd fel y mynnoch
  • Byddant yn esbonio wrthych am unrhyw oblygiadau etifeddiaeth neu dreth ar enillion cyfalaf
  • Byddant yn eich helpu i ddewis ysgutorion, a gwarcheidwaid os bo angen

Cliciwch yma os oes diddordeb gennych yng Ngwasanaeth Ysgrifennu Ewyllys Hugh James.

Am ragor o wybodaeth, gallwch lawrlwytho copi o’n taflen, Cynllunio Ystad – Eich Canllaw i Lunio Ewyllys.

Caiff y gwasanaeth a chyngor ar ysgrifennu Ewyllys y’u darperir fel rhan o hyn eu cynnig gan Gyfreithwyr Hugh James yn unol â’u cytundeb gyda chi ac nid gan y Principality.

 

Mae'r wefan yma ar gyfer defnydd yn y DU yn unig ac mae'r cynnyrch a'r gwasanaethau arno ar gael i chi dim ond os ydych chi'n breswylydd yn y DU. Mae morgeisi ar gael ar eiddo yng Nghymru a Lloegr yn unig.

This website is only for use in the UK and the products and services on it are only available to you if you are a UK resident. Mortgages are only available on properties in England and Wales only.

To help us maintain our service and security standards, telephone calls may be monitored or recorded. Your personal details may be used to contact you about your application.

Er mwyn ein helpu i gynnal ein safonau gwasanaeth a diogelwch, efallai y byddwn yn monitro neu'n recordio galwadau ffôn. Gall Cymdeithas Adeiladu’r Principality ddefnyddio eich manylion personol er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â'ch cais.

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.