Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

CYFREITHIOL

Gwybodaeth bwysig ynglŷn â’r Principality, ein cynnyrch a gwasanaethau.

Rydych chi yma:

> Cyfreithiol

Ein Gwybodaeth

  1. Dim ond ar gyfer ei defnyddio yn y Deyrnas Unedig mae’r wefan hon ar gael a dim ond os ydych yn breswylydd yn y Deyrnas Unedig y mae’r cynnyrch a gwasanaethau arni ar gael.
  2. Caiff y wefan ei llywodraethu gan gyfreithiau Lloegr a Chymru a bydd unrhyw anghydfod yn deillio ohoni dan awdurdodaeth llysoedd Lloegr yn unig.
  3. Byddwn yn cyfathrebu gyda chi yn Saesneg. Os gofynnwch i ni gyfathrebu gyda chi yn Gymraeg, gwnawn hynny cyn belled ag y gallwn.
  4. Cyfeiriad ein Prif Swyddfa: Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau Principality, Heol y Frenhines, Caerdydd CF10 1UA.
  5. Awdurdodir a rheoleiddir Cymdeithas Adeiladu Principality gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ar gyfer derbyn adneuon, morgeisi preswyl a threfnu a chynghori ar yswiriant cyffredinol (awdurdodiad rhif 155998). Nid yw’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi masnachol neu gysylltiedig â busnes.
  6. Medrwch wirio ein hawdurdodiad ar Gofrestr yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) neu drwy gysylltu â’r FSA ar 0845 606 1234.

Morgeisi

  1. Dim ond ar eiddo yn Lloegr a Chymru y mae morgeisi ar gael.
  2. Dim ond ar ein cynnyrch morgais ein hunain y rhoddwn wybodaeth a dim ond ein cynnyrch morgais ein hunain a gynigiwn.
  3. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd i wneud cais am forgais gyda ni. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn ystyried eich trefniadau sicrwydd bywyd a diogelu incwm pan fyddwch yn ystyried cymryd morgais. Cynhelir asesiad o’ch statws ariannol a’ch gallu i fforddio morgais pan wnewch gais.
  4. Nid ydym yn cynnig unrhyw forgeisi masnachol neu fusnes a gaiff eu rheoleiddio gan yr FSA. Nid yw llawer o forgeisiau prynu-i-osod yn cael eu rheoleiddio gan yr FSA ychwaith. Byddwn yn eich hysbysu os caiff morgais ei reoleiddio gan yr FSA.

Yswiriant

  1. Dim ond ar gynnyrch yswiriant cyffredinol gan nifer o ddarparwyr y mae gennym berthynas â hwy yr ydym yn cynghori a rhoi gwybodaeth arnynt.

Cynllunio a Chyngor Ariannol

  1. Nid yw’r Gymdeithas yn darparu cyngor ar gynllunio ariannol a buddsoddi, ond mae’n cyflwyno’n unig i Aviva Life Services UK Cyfyngedig. Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 2403746. Cyfeiriad cofrestredig: 2 Rougier Street, York, YO90 1UU. Caiff Aviva Life Services UK Cyfyngedig ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Awdurdodiad Rhif 145452).
  2. Dim ond at gynnyrch a gwasanaethau’r Gymdeithas a chwmnïau UK Life y bydd unrhyw gyngor ar gynllunio ariannol a buddsoddi a roddir gan Aviva yn cyfeirio.
  3. Ar gyfer morgeisi Lifetime a’r cynllun Refersiwn Cartref, dim ond cyflwyno i Aviva Life Services UK Cyfyngedig y mae’r Gymdeithas. Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 2403746. Cyfeiriad cofrestredig: 2 Rougier Street, York, YO90 1UU. Caiff Aviva Life Services UK Cyfyngedig ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Awdurdodiad Rhif 145452).

Ymwadiad

  1. Ni chaiff unrhyw wybodaeth a roddir ar y safle hwn ei ystyried yn gyngor ariannol. Os ydych angen cyngor ar unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a gynigir gennym, yna gofynnir i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol yn unol â’r cyfarwyddyd ar y safle.

Gweithdrefn Cwynion

  1. Mae manylion pellach ar ein gweithdrefn cwynion ar gael o unrhyw un o’n canghennau neu ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid. Gall unrhyw gwynion na fedrwn eu datrys gael eu cyfeirio at Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol.

Iawndal

  1. Deuwn o fewn gorchudd y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) a sefydlwyd dan Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000. Fel cwsmer i Gymdeithas Adeiladu Principality caiff eich cyfrif(on) gyda ni eu gorchuddio os nad ydych yn unrhyw un o’r categorïau sy’n anghymwys am y Cynllun. Mae’r categorïau hyn yn cynnwys:
    • Cwmni mawr
    • Partneriaeth fawr
    • Cymdeithas gydfuddiannol fawr
    • Awdurdod lleol, taleithiol neu fwrdeisiol
    • Sefydliad credyd
    • Sefydliad gwasanaethau ariannol tramor
    • Cronfa bensiwn ac ymddeol neu ymddiriedolydd cronfa o’r fath
    • Llywodraeth, neu awdurdod gweinyddol canolog
    • Cwmni o fewn grŵp Cymdeithas Adeiladu Principality
    • Person sy’n dal 5% neu fwy o gyfalaf Gymdeithas Adeiladu Principality neu unrhyw gwmni yn y grŵp
    • Archwilwyr Cymdeithas Adeiladu Principality a’i grŵp
    • Person a ystyrir yn gyfrifol am ddiffygdaliad Cymdeithas Adeiladu Principality sy’n sbarduno’r FSCS.
    • Unrhyw berson y mae ei hawliad yn deillio o drafodion yn cyfeirio at euogfarn a gawsant am wyngalchu arian.

    Dim ond os yw sefydliad ariannol yn dod yn ansolfedd neu’n diffygdalu ar ei oblygiadau y mae’r FSCS yn talu iawndal am golled ariannol. Mae’r terfynau iawndal fesul person fesul cwmni.

Adneuon Manwerthu

Caiff adneuon gan unigolion preifat a busnesau bach eu diogelu gan yr FSCS. Uchafswm lefel yr iawndal ar gyfer hawliadau banc a chymdeithas adeiladu yw £85,000 fesul person a hwn yw’r uchafswm ar gyfer cyfanswm yr holl gyfrifon adnau sydd gan yr unigolyn gyda ni.

Morgeisi

Uchafswm yr iawndal am hawliadau yn erbyn busnesau a ddatgenir mewn diffygdaliad yw £50,000 fesul person fesul cwmni. Ni fyddai hawliad yng nghyswllt morgais ond yn gorchuddio hawliadau megis am gam-werthu neu am adennill symiau a dalwyd nad oedd yn ddyledus, er enghraifft.

Buddsoddiadau

Ar gyfer hawliadau yn erbyn busnesau mewn diffygdaliad, sy’n ddarparwyr cynnyrch buddsoddiad, mae gorchudd y FSCS hyd at £50,000 y person. Nid yw Cymdeithas Adeiladu Principality yn rhoi un ai gyngor ar fuddsoddi na buddsoddiadau ond yn cyflwyno cwsmeriaid i Aviva.

Yswiriant

Gorchuddir cyngor a threfnu yswiriant ar gyfer 90% o werth eich hawliad (nid oes uchafswm). Mae gwybodaeth bellach am drefniadau’r cynllun iawndal ar gael gan yr FSCS.

Galwadau Ffôn

  1. Gall galwadau ffôn gael eu monitro neu eu recordio i’n helpu i gynnal ein gwasanaeth a safonau diogelwch. Rheolau Cymdeithas Adeiladu Principality
  2. Cliciwch yma i ddarllen dogfen ‘Rheolau Cymdeithas Adeiladau Principality’(pdf46KB).

GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS

YOUR HOME MAY BE REPOSSESSED IF YOU DO NOT KEEP UP REPAYMENTS ON YOUR MORTGAGE

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.