Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

e-DRAWSGLUDO

Mae ein gwasanaeth e-Drawsgludo ar-lein yn wych i chi:

  • Os hoffech gael ffordd gyflym a didrafferth o ddod o hyd i drawsgludydd
  • Os ydych yn prynu cartref newydd, yn gwerthu eiddo, yn ailforgeisio neu'n trosglwyddo ecwiti
  • Os hoffech allu olrhain eich achos 24/7
  • Os nad ydych am dalu ffi os na fyddwch yn gwerthu, yn prynu neu'n ailforgeisio*

Beth yw trawsgludo?

Edrychwch ar ein canllaw defnyddiol ar drawsgludo.

Mwy o wybodaeth

Rydych chi yma:

> > Hafan e-Drawsgludo

Nodweddion a buddiannau

  • Mae gennych fynediad i dros 120 o gyfreithwyr cymeradwy a thrawsgludwyr trwyddedig, ac mae gennych ddewis o gwmnïau trawsgludo arbenigol
  • Gallwch gael dyfynbris ar-lein mewn dim ond 2 funud
  • Gallwch olrhain eich achos ar-lein 24/7, cael negeseuon testun SMS a negeseuon e-bost amser real gyda'r wybodaeth ddiweddaraf
  • Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth e-Drawsgludo os ydych yn prynu cartref newydd, yn gwerthu eiddo, yn ailforgeisio neu'n trosglwyddo ecwiti
  • Gall eich trawsgludydd ddechrau'r gwaith yn syth
  • Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi os na fyddwch yn gwerthu, yn prynu neu'n ailforgeisio (*bydd angen i chi dalu alldaliadau, fel chwiliadau)
  • Mae gwasanaeth e-Drawsgludo'r Principality yn system atgyfeirio trawsgludo ar-lein a ddarperir gan United Legal Services Limited

Trawsgludo Gwerthu a Phrynu

Yn gwerthu eich eiddo ac yn prynu un arall?

Cael dyfynbris

Trawsgludo Gwerthu yn Unig

Yn gwerthu'ch eiddo ond nid yn prynu un arall?

Cael dyfynbris

Trawsgludo Gwerthu yn Unig

Yn gwerthu eich eiddo ond nid yn prynu un arall?

Cael dyfynbris

Trawsgludo Ail-forgais

Eisiau ail-forgais ar eich eiddo?

Cael dyfynbris

GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS

YOUR HOME MAY BE REPOSSESSED IF YOU DO NOT KEEP UP REPAYMENTS ON YOUR MORTGAGE

Darperir gwasanaeth e-Drawsgludo Cymdeithas Adeiladu’r Principality ar gyfer y Principality gan United Legal Services Limited ac rydym yn cael comisiwn ganddynt. Y cwmnïau trawsgludo a restrir sy'n gwbl gyfrifol am y gwasanaethau trawsgludo y maent yn eu darparu. Bydd cwmnïau sy'n darparu dyfynbrisiau yn cynnwys cwmnïau trawsgludo trwyddedig yn ogystal â chwmnïau cyfreithwyr.

Principality Building Society’s eConveyancer Service is provided for Principality by United Legal Services Limited from whom we receive commission. The conveyancing firms listed are entirely responsible for the conveyancing services they provide. Firms providing quotes will include licensed conveyance firms as well as solicitor firms.

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdodiad 155998). Nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi masnachol na morgeisi sy'n ymwneud â busnes.