Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

LWFANS ISA ARIAN PAROD

Rydych chi yma:

> > Lwfans ISA Arian Parod

Lwfansau ISA newydd - yn effeithiol o 6 Ebrill 2012

Bob blwyddyn dreth – sy'n rhedeg o'r 6ed o Ebrill i'r 5ed o Ebrill y flwyddyn ganlynol – mae gennych chi lwfans ISA blynyddol. Adolygir lwfansau ISA bob blwyddyn gan y Llywodraeth.

Y lwfans ISA blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2012/2013 ydy £11,280, a gellir cynilo £5,640 o'r swm hwnnw mewn ISA Arian Parod. Gellir cynilo'r gweddill mewn ISA Stociau a Chyfrannau. Fe allwch chi fuddsoddi mewn un ISA Arian Parod ac un ISA Stociau a Chyfrannau, ym mhob flwyddyn dreth. Gallant fod gyda'r un darparwr, neu gyda darparwyr gwahanol.

  • O'r 6 Ebrill 2012, cyfanswm y buddsoddiad y caniateir mewn ISA ydy £11,280 i unrhyw un sy'n gymwys i fuddsoddi mewn ISA ar gyfer blwyddyn dreth 2012/13.
  • Gellir buddsoddi hyd at £5,640 o'r lwfans ISA newydd mewn ISA Arian Parod gydag un darparwr.
  • Gellir buddsoddi hyd at £11,280 mewn ISA Stociau a Chyfrannau.

Faint o arian ydw i'n gallu rhoi i mewn i ISA?

  • Mae'r tabl isod yn dangos sawl ISA gallwch chi gael ym mhob blwyddyn ISA, a faint o arian gallwch chi roi i mewn i bob ISA:
Opsiwn ISACyfanswm y buddsoddiad y caniateir ym Mlwyddyn Dreth/ISA 2012/2013
ISA Arian Parod yn unig Uchafswm o £5,640 mewn ISA Arian Parod
neu
ISA Stociau a Chyfrannau yn unig Uchafswm o £11,280 mewn ISA Stociau a Chyfrannau
neu
ISA Arian Parod a Stociau a Chyfrannau Dim mwy na £5,640 mewn ISA Arian Parod a'r gweddill mewn Stociau a Chyfrannau hyd at gyfanswm o £11,280 i gynnwys y ddau

 

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdodiad 155998). Nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi masnachol na morgeisi sy'n ymwneud â busnes.