Skip to content

Chwilio'r Safle Principality
Cyfrifon Cynilo Plant - Bachgen yn gwneud gwaith cartref

CYFRIFON CYNILO PLANT

Nid yn unig yw cyfrifon cynilo o Principality yn cynnig cyfraddau llog cystadleuol, maent hefyd yn addysgu’ch plentyn gwerth arian. P’run ai rydych yn dewis agor cyfrif cynilo plant i annog eich plentyn i gynilio am y dyfodol neu dangos iddo sut i gynilio am gôl, mae Principality yn cynnig ystod o gyfrifon cynilo gyda buddiannau hyblyg a chystadleuol.

Cyfrifiannell cynilion

Faint o amser fydd hi'n gymryd i gynilo?
Faint dylwn i gynilo bob mis?
Cyfrifiannell Cynilo

Rydych chi yma:

> > Cynilion i rai o dan 18 oed

Cynilion i rai o dan 18 oed

Gros* AER† Yn cynnwys bonws Isafswm i agor Hysbysiad tynnu Mwy o fanylion
Bond Cynilo Rheolaidd Dylan Rhifyn 3 4.50% 4.50% N/A £10 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Mae cyfrif cynilo i blant yn ffordd wych o roi dechrau ariannol cadarn mewn bywyd i blant a dydy hi ddim yn anodd i ddod i'r arfer o gynilo yn rheolaidd.

  • Cyfradd llog sefydlog
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a chaiff ei dalu ar Aeddfedrwydd
  • Buddsoddi rhwng £10 a £150 pob mis calendr am gyfnod o 12 mis
  • Os collir taliad misol bydd y Cyfrif yn newid i Gyfrif Plant a bydd yn amodol ar delerau'r Cyfrif hwnnw
  • Os fyddwch chi'n gwneud buddsoddiad ariannol o £150 i mewn i'ch Bond bob mis ar yr un dyddiad agorwyd eich Bond byddwch yn adennill £43.88 o log gros* ar Aeddfedrwydd y Bond.
  • Caniateir cau 
Cyfrif Plant 0.90% 0.90% N/A £1 Dim Mwy am y cynnyrch hwn

Ein Cyfrif Plant yw'r ffordd perffaith o ddechrau cynilo ar gyfer dyfodol eich plentyn, oherwydd mae'n gwneud cynilo yn hwyl ac yn werthchweil.

  • Cyfradd amrywiol.
  • Mae'r cyfrif ar gael i rai o dan 18 mlwydd oed yn unig. 
  • Isafswm balans ydy £1. Uchafswm cyfraniadau ydy £25,000.
  • Aeddfedu ar benblwydd y plentyn yn 18. Ar aeddfedrwydd bydd y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i mewn i Gyfrif Cynilion Dim Rhybudd (neu'r cyfateb).

* Gros yw’r gyfradd llog cytundebol sy’n daladwy cyn tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.

† Saif AER dros Annual Equivalent Rate (Cyfradd Gyfwerth Flynyddol) ac mae’n dangos yr hyn fyddai’r gyfradd llog os byddai’r llog ar gynilion yn cael eu talu a’u hadio at y cynilion ar ddiwedd bob blwyddyn.

# Net yw’r gyfradd llog daladwy ar ôl tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.

Cynilion Plant gyda Bond Cynilio Rheolaidd Dylan

Mae cynilion plant yn hawdd gyda Bond Cynilio Rheolaidd blwyddyn. Gwyliwch gynilion eich plentyn yn tyfu gyda chyfradd llog sefydlog o 4.50% Gros*y.f./AER†. Mae’n gyflym ac yn hawdd agor cyfrif yng nghangen leol eich Principality a gallwch wneud adneuon trwy arian, siec neu archeb reolaidd, byddwch hefyd yn derbyn cadw-mi-gei Dylan y Ddraig. Mae rhaid i chi adneuo bob mis am flwyddyn. Gallwch adneuo rhwng £10 a £150 y mis. Gwnewch gymaint o adneuon yr hoffech bob mis cyn belled nad yw’r swm yn fwy na £150. Ni chaniateir codi arian yn y flwyddyn gyntaf a thelir llog ar aeddfedrwydd y bond. Os ydych yn gwneud buddsoddiad ariannol o £150 i mewn i’ch bond bob mis yr un diwrnod yr agorwyd ef byddwch yn ennill £43.88 llog gros ar Aeddfedrwydd.

Cyfrif Plant

Os wyt ti eisiau cynilio dy arian Nadolig neu benblwydd, neu rwyt ti eisiau cynilio rhywfaint o dy arian poced bob wythnos, mae cyfrif Plant yn gadael i ti gynilio mor aml a chymaint rwyt ti eisiau. Mae hefyd yn rhoi mynediad i ti pryd bynnag rwyt ti eisiau. Gelli di dynnu isafswm o £1 ac uchafswm o £500 o arian parod neu £25,000 drwy siec. Yn ychwanegol, rwyt ti’n derbyn cadw-mi-gei Dylan y Ddraig am ddim a phaslyfr personol i ti weld dy gynilion yn tyfu. Cyfrifir llog yn ddyddiol a’i dalu’n flynyddol ar 1 Ionawr bob blwyddyn. Mae’r gyfradd llog yn amrywio.

Cynhyrchion wedi'u gweld yn flaenorol:

 

I’n helpu ni gynnal ein safonau gwasanaeth a diogelwch, gall galwadau ff ôn gael eu monitro neu eu recordio. Gall eich manylion personol gael eu defnyddio er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’ch cais.

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.