Canllaw i’r Prawf Adnabod Electronig

Cymal Defnydd Data Personol

Os darperir gwybodaeth ffug neu anghywir ac os canfyddir twyll, bydd manylion yn cael eu trosglwyddo i asiantaethau atal twyll. Caniateir i asiantaethau gorfodi’r gyfraith weld y wybodaeth hon a’i defnyddio.

Gallwn ni a chyrff eraill hefyd weld y wybodaeth hon a’i defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian, er enghraifft, pan fyddwn yn:

  • Cadarnhau manylion ar gyfer ceisiadau am gyfleusterau credyd a chysylltiedig â chredyd, neu gyfleusterau eraill
  • Rheoli cyfrifon neu gyfleusterau credyd neu gysylltiedig â chredyd
  • Adennill dyledion
  • Cadarnhau manylion ar gynigion a hawliadau ar gyfer pob math o yswiriant
  • Cadarnhau manylion ymgeiswyr am swyddi a chyflogeion

Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech dderbyn manylion am yr asiantaethau atal twyll perthnasol.
Gallwn ni a chyrff eraill weld gwybodaeth a gofnodwyd gan asiantaethau atal twyll o wledydd eraill, a’i defnyddio.

Canllaw i’r Prawf Adnabod Electronig

Mae’r Principality yn rhwym wrth reoliadau gwrth-wyngalchu arian y DU, sy’n berthnasol i bob un o’n cwsmeriaid. I gydymffurfio â’r rheoliadau, byddwn yn ceisio cadarnhau yn electronig pwy ydych chi, trwy gymharu eich gwybodaeth â’r wybodaeth sydd gan yr asiantaethau statws credyd ac atal twyll. Nid yw manylion hanesion credyd ar gael i ni ac er bod y darparwr data yn cofnodi’r ymchwil, ni ellir ei ddefnyddio at ddibenion asesiad credyd yn y dyfodol ac nid yw’n effeithio ar eich sgôr credyd.

Os na allwn gadarnhau pwy ydych chi yn electronig, gallem ofyn i chi ddarparu prawf adnabod ffisegol. Ceir manylion ynglŷn â hyn yn Profi Pwy Ydych Chi.