Cyfrif Cynilo ar y Rhyngrwyd
Mae cyfrif e-Gynilwr y Principality yn gyfrif cynilo ar y Rhyngrwyd sy’n eich galluogi i reoli’ch cynilion ar-lein. Mae gennych y rhyddid i godi arian a gwneud adneuon heb gyfyngiad gyda chyfrif cynilo ar y Rhyngrwyd. Gallwch hefyd wirio’ch balans ar-lein ar unrhyw adeg. Gydag isafswm balans o £1 ac uchafswm balans o £1,000,000, cyfrifir llog yn ddyddiol ac fe’i delir yn flynyddol. Yn ychwanegol, rydych yn derbyn cyfradd bonws di-amod o 1.36% yn y flwyddyn gyntaf. Mae ond yn cymryd 10 munud i agor cyfrif e-Gynilwr ar-lein.
Cynilion Bob Dydd
|
Gros* |
AER† |
Yn cynnwys bonws |
Isafswm i agor |
Hysbysiad tynnu |
Mwy o fanylion |
| e-Gynilwr Rhifyn 5 |
3.01% |
3.01% |
1.36% |
£1 |
Dim |
Mwy am y cynnyrch hwn |
Mae'n hawdd agor cyfrif e-Gynilwr, mae'n hawdd ei ddefnyddio ac yn ddiogel, gan roi mynediad i chi at eich cyfrif unrhyw le ac ar unrhyw adeg.
- Cyfradd llog amrywiol
- Balans isafswm ydy £1. Balans uchafswm ydy £1,000,000.
- Mae'r gyfradd yn cynnwys bonws diamod o 1.36% yn y flwyddyn gyntaf.
- Edrychwch ar eich cyfriflenni a gwneud adneuon neu dynnu arian allan ar-lein.
- Cyfrifir llog yn ddyddiol ac fe’i delir i'ch cyfrif e-Gynilwr yn flynyddol ar Ionawr 1af bob blwyddyn.
|
| Cadw Addewid |
2.30% |
2.30% |
0.80% |
£500 |
30 diwrnod |
Mwy am y cynnyrch hwn |
Mae ein Cyfrif Cadw Addewid yn rhoi'r cyfle i chi ennill bonws flynyddol bob blwyddyn ac yn rhoi adenillion gwych i chi ar eich arian.
- Cyfradd llog craidd cystadleuol o 1.50% Gros* y.f./AER† (amrywiol) bob blwyddyn.
- Bonws diamod yn y flwyddyn gyntaf o 0.80% a gellir codi arian pryd fynnwch.
- Ar ôl Blwyddyn 1 telir bonws o 0.50% yn flynyddol, os dydych chi ddim yn codi arian mwy na dwywaith mewn blwyddyn.
- Cyfradd llog amrywiol.
- Caniateir codi arian gyda 30 diwrnod o rybudd neu golli 30 diwrnod o log gros.
- Cyfrifir llog yn ddyddiol a gallwch ddewis dderbyn eich llog yn fisol neu'n flynyddol.
|
| Cyfrif Dim Rhybudd |
0.10% |
0.10% |
N/A |
£1 |
Dim |
Mwy am y cynnyrch hwn |
Os ydych chi eisiau gallu cael at eich arian yn gyflym ac yn hawdd, dylech chi ystyried ein Cyfrif Cynilo Dim Rhybudd.
- Cyfradd llog amrywiol
- Isafswm balans yw £1. Uchafswm balans yw £1,000,000.
- Cyfrifir y llog yn ddyddiol a chaiff ei dalu i mewn i'ch cyfrif yn flynyddol ar y 1af o Ionawr bob blwyddyn.
|
* Gros yw’r gyfradd llog cytundebol sy’n daladwy cyn tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.
† Saif AER dros Annual Equivalent Rate (Cyfradd Gyfwerth Flynyddol) ac mae’n dangos yr hyn fyddai’r gyfradd llog os byddai’r llog ar gynilion yn cael eu talu a’u hadio at y cynilion ar ddiwedd bob blwyddyn.
# Net yw’r gyfradd llog daladwy ar ôl tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.
Cadw Addewid
Cyfrif cynilo 30 diwrnod o rybudd yw ein cyfrif cadw addewid gyda chyfradd llog amrywiol cystadleuol a’r opsiwn ychwanegol o fonws blynyddol. Yn y flwyddyn gyntaf gallwch godi gymaint o arian yr hoffech. Yn ychwanegol, rydych yn derbyn bonws o 0.80% yn y flwyddyn gyntaf. Pob blwyddyn wedi hynny, byddwch yn derbyn bonws o 0.50% cyn belled eich bod ond yn codi arian ddwywaith yn ystod y flwyddyn. Cyfrifir llog yn ddyddiol a galllwch benderfynu os ydych am iddo gael ei dalu’n fisol neu’n flynyddol.
Cyfrifon Cynilo Dim Rhybudd
Yn syml, yn gyflym ac yn effeithiol, gallwch gael mynediad at eich arian yn syth yn eich cangen leol gyda chyfrif cynilo dim rhybudd. Cynilwch o gyn lleied â £1 hyd at £1,000,000 a manteisiwch ar gyfradd llog amrywiol. Agorwch gyfrif dim rhybudd yn gyflym ac yn hawdd ar-lein. Unwaith mae’ch cyfrif yn fyw, gallwch godi arian heb gyfyngiadau o’ch cyfrif cynilo yn eich cangen leol.