Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol

Rydych chi yma:

> > Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol

Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol ydy cronfa iawndal ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ariannol awdurdodedig yn y DU, sy’n diogelu cynilion, yswiriant, buddsoddiadau a morgeisi. Os bod cwmni yn methdalu neu’n stopio masnachu, efallai bydd y Cynllun yn gallu darparu iawndal.

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth fanwl ar y cynllun a beth mae’n golygu i chi trwy glicio ar y dolenni canlynol:

Gwefan FSCS

Cawn ein diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS) gafodd ei sefydlu gan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Fel cwsmer o Gymdeithas Adeiladu Principality mae eich cyfrif(on) gyda ni wedi’u diogelu yn ôl y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, oni bai eich bod yn un o’r canlynol:

  • Cwmni mawr
  • Partneriaeth fawr
  • Sefydliad cydfuddiannol mawr
  • Awdurdod lleol, taleithiol neu drefol
  • Sefydliad credyd
  • Sefydliad gwasanaethau ariannol dramor
  • Cronfa pensiwn ac ymddeoliad neu’n ymddiriedolwr o gronfa fel hyn
  • Awdurdod llywodraethol neu weinyddiaeth ganolog
  • Cwmni o fewn grŵp Cymdeithas Adeiladu Principality
  • Person gyda chyfalaf gwerth 5% neu fwy o Gymdeithas Adeiladu Principality neu unrhyw gwmni yn y grŵp
  • Archwilwyr Cymdeithas Adeiladu Principality a’i grŵp
  • Person y’i tybir i fod yn gyfrifol am fethdaliad Cymdeithas Adeiladu Principality a achosodd yr FSCS.
  • Person y’i hawliad sy’n codi o drafodion yn ymwneud ag euogfarn maen nhw wedi derbyn am wyngalchu arian.
  • Mae’r FSCS ddim ond yn talu iawndal am golled ariannol os bod sefydliad ariannol yn methdalu neu’n diofynnu ar ei rhwymedigaethau. Mae’r terfynau iawndal y person y cwmni.

    Adneuon Masnachol
    Diogelir adneuon gan unigolion preifat a busnesau bach gan yr FSCS. O 31 Rhagfyr 2010, y lefel uchaf o iawndal ar gyfer hawliadau banc a chymdeithas adeiladu bydd £85,000 y person a dyma fydd y swm uchaf ar gyfer cyfanswm yr holl gyfrifon adneuo y’u cedwir gan unigolion gyda ni.

    Morgeisi
    Y lefel uchaf o iawndal ar gyfer hawliadau yn erbyn cwmni sy’n methdalu ydy £50,000 y person y cwmni. Byddai hawliad yn ymwneud â morgais yn cynnwys hawliadau ar gyfer camwerthu neu ar gyfer adfer symiau a dalwyd nad oedd yn daladwy yn unig, er enghraifft.

    Buddsoddiadau
    Am hawliadau yn erbyn cwmnïau sy’n methdalu, sy’n ddarparwyr cynnyrch buddsoddi, mae sicrwydd FSCS hyd at £50,000 y person. Nid yw Cymdeithas Adeiladu Principality yn darparu cyngor ar fuddsoddiadau neu fuddsoddiadau ond mae’n cyflwyno cwsmeriaid i Aviva.

    Yswiriant
    Rhoddir sicrwydd am gynghori a threfnu’ch yswiriant am 90% o werth eich hawliad (does dim swm uchafswm).

    Mae mwy o wybodaeth ar gael am drefniadau’r cynllun iawndal o’r FSCS http://www.fscs.org.uk/.

 

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdodiad 155998). Nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi masnachol na morgeisi sy'n ymwneud â busnes.