Skip to content

Chwilio'r Safle Principality
Cynilion Tymor Sefydlog - Cwpl yn y goedwig

CYNILION TYMOR SEFYDLOG

Mae cynilion a bondiau tymor sefydlog yn diogelu’ch arian am gyfnod penodol o amser tra mae’n ennill cyfraddau llog cystadleuol. Dewiswch fuddsoddi’ch arian am flwyddyn, dwy flynedd, tair blynedd neu bum mlynedd gyda chynilion a bondiau tymor sefydlog o Principality. Mae gennych yr opsiwn o gyfradd llog sefydlog neu amrywiol a gall llog ei gyfrif un ai’n ddyddiol neu’n fisol a’i dalu i mewn i gyfrif banc o’ch dewis chi. Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein, anfonwch ffurflen gais drwy’r post neu ymwelwch â changen Principality yn agos atoch. Unwaith rydych wedi agor cyfrif, gallwch reoli’ch cynilion drwy’r post neu drwy ymweld â’ch cangen leol. Mae’r cwbl o’n cynilion a bondiau tymor sefydlog yn ddibynnol ar argaeledd a chyfnodau gwerthiant.

Cyfrifiannell cynilion

Faint o amser fydd hi'n gymryd i gynilo?
Faint dylwn i gynilo bob mis?
Cyfrifiannell Cynilo

Rydych chi yma:

> > Cynilion a Bondiau Tymor Sefydlog

Bondiau Tymor Sefydlog

Derbyniwch gyfradd llog gystadleuol trwy fuddsoddi’ch arian am gyfnod penodol o amser, rhwng blwyddyn a 5 mlynedd fel rheol. Ni chaniateir codi arian ar fondiau tymor sefydlog nes i’r bond gyrraedd aeddfedrwydd, ar ddiwedd y cyfnod penodol. Gweler bondiau unigol ar gyfer manylion o derfyniadau buddsoddi a chau.

Cynilion a Bondiau Tymor Sefydlog

Gros* AER† Yn cynnwys bonws Isafswm i agor Hysbysiad tynnu Mwy o fanylion
Bond Cyfradd Sefydlog am 5 Mlynedd Rhifyn 210 3.75% 3.75% N/A £500 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Mae cyfradd llog sefydlog am bum mlynedd yn golygu y byddwch chi'n gwybod pa adenillion byddwch chi'n derbyn a ni effeithir arno gan newidiadau i gyfraddau llog.

  • Cyfradd llog sefydlog
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a gallwch ddewis derbyn eich llog yn fisol neu'n flynyddol
  • Buddsoddi rhwng £500 a £2 milliwn
  • Caniateir adneuon ychwanegol tra bod y Bond ar werth
  • Ni chaniateir codi arian cyn Aeddfedrwydd. Caniateir cau'r cyfrif ond collir 360 diwrnod o Log Gros.
Bond Cyfradd Sefydlog am 3 Blynedd Rhifyn 209 3.50% 3.50% N/A £500 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Mae cyfradd llog sefydlog am dair blynedd yn golygu y byddwch chi'n gwybod pa adenillion byddwch chi'n derbyn a ni effeithir arno gan newidiadau i gyfraddau llog.

  • Cyfradd llog sefydlog
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a gallwch ddewis derbyn eich llog yn fisol neu'n flynyddol
  • Buddsoddi rhwng £500 a £2 milliwn
  • Caniateir adneuon ychwanegol tra bod y Bond ar werth
  • Ni chaniateir codi arian cyn Aeddfedrwydd. Caniateir cau'r cyfrif ond collir 360 diwrnod o Log Gros.
Bond Cyfradd Amrywiol am 2 Flynedd Rhifyn 211 3.30% 3.30% N/A £500 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Cyfnod sefydlog o ddwy flwyddyn gyda chyfradd llog amrywiol bydd ddim yn gostwng yn is na’r gyfradd ddechreuol yn ystod cyfnod y bond.

  • Cyfradd llog amrywiol
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a gallwch ddewis derbyn eich llog yn fisol neu'n flynyddol
  • Buddsoddi rhwng £500 a £2 milliwn
  • Caniateir adneuon ychwanegol tra bod y Bond ar werth
  • Argaeledd cyfyngedig
  • Ni chaniateir tynnu arian allan neu gau’r Bond cyn diwedd y cyfnod o 2 flwyddyn
Bond Ymchwil Canser Cymru 3.06% 3.05% N/A £500 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Ffordd wych o gynilo tra’n helpu’r frwydr yn erbyn canser.

Mae staff Principality wedi dewis Ymchwil Canser Cymru fel elusen y flwyddyn. Fel rhan o’n cefnogaeth rydym wedi dyfeisio bond cynilo arbennig i’ch helpu i godi arian allweddol.

Bydd yr holl arian a godir ar gyfer Ymchwil Canser Cymru yn cael ei wario yng Nghymru, yn cyllido prosiectau ymchwil mewn canolfannau arbenigol megis Canolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd.

Bond Ymchwil Canser Cymru – dyma sut mae’n gweithio

  • Buddsoddwch unrhyw swm rhwng £500 a £2 miliwn a bydd eich cynilion yn denu cyfradd sefydlog o 3.05% AER†/3.06% Gros* am 15 mis
  • Bydd y swm y byddwn yn rhoddi i’n Helusen o’r Flwyddyn yn cyfateb â 12 mis o log y’i delir ar gyfradd 0.10% Gros* y.f./AER† ar y cyfanswm sydd yn y Bond Ymchwil Canser Cymru ar 31 Rhagfyr 2012
  • Mae’r Bond yn aeddfedu 15 mis ar ôl y dyddiad o’i agor
  • Ni chewch godi arian na chau’r cyfrif cyn Aeddfedrwydd
  • Cyfrifir llog ar eich Bond yn ddyddiol a chaiff ei dalu ar Aeddfedrwydd
  • Argaeledd cyfyngedig
Bond Cyfradd Amrywiol am 1 Flwyddyn Rhifyn 205 3.00% 3.00% N/A £500 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Cyfnod sefydlog o un flwyddyn gyda chyfradd llog amrywiol bydd ddim yn gostwng yn is na’r gyfradd ddechreuol yn ystod cyfnod y bond.

  • Cyfradd llog amrywiol
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a fedrwch chi ddewis ei dderbyn yn fisol neu’n flynyddol
  • Buddsoddwch rhwng £500 a £2 filiwn
  • Caniateir adneuon ychwanegol tra bod y Bond yn parhau i fod ar werth
  • Argaeledd cyfyngedig
  • Ni chaniateir tynnu arian allan neu gau’r Bond cyn diwedd y cyfnod o 1 flwyddyn
Bond Cynilo Rheolaidd am Flwyddyn Rhifyn 11 4.00% 4.00% N/A £20 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Gyda chyfradd sefydlog cystadleuol o log ar eich cynilion rheolaidd, y cwbl mae'n gymryd ydy ychydig bob mis ac yn fuan fe allwch chi fod yn mwynhau'r pethau rydych chi eisiau mewn bywyd.

  • Cyfradd llog sefydlog
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a'i delir ar Aeddfedrwydd
  • Buddsoddi rhwng £20 a £500 y fis calendr am 12 mis
  • Ni fydd cwsmeriaid sy'n colli taliad neu sy'n gwneud taliad misol o dan £20 neu dros £500, neu sy'n cau'r bond cyn Aeddfedrwydd, yn derbyn y gyfradd llog uchod.
  • Os ydych chi'n buddsoddi £500 i mewn i'ch Bond bob mis ar yr un dyddiad agorwyd eich bond byddwch yn ennill llog gros o £130 ar Aeddfedrwydd y Bond
Bond Amrywiol i Aelodau Rhifyn 17 3.53% 3.50% N/A £500 Ceir codi arian unwaith Mwy am y cynnyrch hwn

Gwnewch gais am y Bond newydd arbennig hwn

Er gwaethaf cyflwr da neu wael yr hinsawdd economaidd, gallwch fod yn sicr o un peth – bydd y Principality yn gofalu amdanoch chi, a’ch cynilion.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig Bond 18 mis i Aelodau gyda chyfradd llog Amrywiol. Bydd y sawl sydd wedi bod yn Aelodau am 10 mlynedd yn ennill llog ar gyfradd wych o 3.53% Gros*/3.50% AER, amrywiol. Mae’r gyfradd y derbyniwch yn dibynnu ar hyd eich Aelodaeth a ni fydd yn gostwng yn is na’r gyfradd gychwynnol yn ystod cyfnod 18 mis y Bond.

Gwnewch y mwyaf o’r holl fuddion hyn:

  • Cyfradd gystadleuol, yn arbennig i gwsmeriaid sydd wedi bod yn Aelodau o’r Principality am ddwy flynedd neu ragor.
  • Rydym yn addo na fydd eich cyfradd yn gostwng yn is na’r gyfradd gychwynnol yn ystod cyfnod 18 mis y Bond.
  • Gallwch fuddsoddi unrhyw swm rhwng £500 a £20,000 (£40,000 am gyfrif ar y cyd).
  • Y balans isafswm yw £500
  • Gallwch dynnu arian unwaith gwerth hyd at 20% o’ch buddsoddiad cychwynnol, gyda’r amod bod o leiaf £500 ar ôl yn y Bond.
  • Dim ond un buddsoddiad cychwynnol gallwch wneud i mewn i’r bond hwn, a gall pob cwsmer wneud cais am un bond yn unig.
  • Os ydych eisiau cau’ch bond cyn Aeddfedrwydd, gallwch wneud hynny, ond byddwch yn colli 150 niwrnod o log gros.

* Gros yw’r gyfradd llog cytundebol sy’n daladwy cyn tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.

† Saif AER dros Annual Equivalent Rate (Cyfradd Gyfwerth Flynyddol) ac mae’n dangos yr hyn fyddai’r gyfradd llog os byddai’r llog ar gynilion yn cael eu talu a’u hadio at y cynilion ar ddiwedd bob blwyddyn.

# Net yw’r gyfradd llog daladwy ar ôl tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.

 

I’n helpu ni gynnal ein safonau gwasanaeth a diogelwch, gall galwadau ff ôn gael eu monitro neu eu recordio. Gall eich manylion personol gael eu defnyddio er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’ch cais.

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.