Skip to content

Chwilio'r Safle Principality

CYNILION COLL

Yn credu eich bod wedi colli cyfrif cynilo? Gallwn ni helpu

Rydych chi yma:

> > Cynilion Coll

Efallai y gallwn helpu os credwch eich bod wedi colli cysylltiad â’ch cyfrif cynilo gyda’r Principality neu gydag un o’r Cymdeithasau Adeiladu canlynol sydd wedi cyfuno â’r Principality dros y blynyddoedd.

Fel arall, efallai y gallwn helpu os ydych yn ceisio olrhain cyfrif coll person arall – os oes gennych hawl gyfreithiol i wneud hynny.

Cymdeithasau Adeiladau sydd wedi cyfuno â Principality

Cymdeithas AdeiladuBlwyddyn y Cyfuniad
Cymdeithas Adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr 1959
Cymdeithas Adeiladu Urban 1962
Clwb Lles Parhaol Maesteg 1968
Cymdeithas Barhaol Aberafan 1974
Cymdeithas Adeiladu Abertawe a Chaerfyrddin 1974
Cymdeithas Adeiladu Barhaol Llanelli 1977
Cymdeithas Adeiladu y District 1978
Cymdeithas Adeiladu Gorseinon 1979
Cymdeithas Adeiladu Chatham 1985

Olrhain eich cyfrif

Er mwyn olrhain cyfrif, bydd angen i chi gwblhau ychydig o fanylion. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy www.mylostaccount.org.uk – gwasanaeth am ddim a gynigir gan Gymdeithas Bancwyr Prydain, Cymdeithas Cymdeithasau Adeiladau a Buddsoddiadau a Chynilion Cenedlaethol. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn caniatáu i chi olrhain cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu a Buddsoddiadau a Chynilion Cenedlaethol trwy gwblhau dim ond un ffurflen

Fel arall, gallwch chi lawrlwytho ffurflen wybodaeth a’r ffurflenni cais:

Os ydych chi’n chwilio am gyfrif Principality coll, gallwch chi naill ai ddychwelyd eich ffurflen olrhain cyfrif cymdeithas adeiladu at y Cynllun Cyfrif Coll Cymdeithas Cymdeithasau Adeiladau neu i arbed eich amser, yn syth atom ni yn:

Gwasanaethau Aelodau – Cynilion Coll
Cymdeithas Adeiladu Principality
Blwch Post 89
Heol y Frenhines
Caerdydd
CF10 1UA

 

I’n helpu ni gynnal ein safonau gwasanaeth a diogelwch, gall galwadau ff ôn gael eu monitro neu eu recordio. Gall eich manylion personol gael eu defnyddio er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’ch cais.

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.