Skip to content

Chwilio'r Safle Principality
Cyfrifon cynilo rhybudd - Cwpl yn gwenu wrth dynnu llun

CYFRIFON CYNILION RHYBUDD

Os ydych chi eisiau cyfrif cynilo sy’n cynnig cyfraddau llog cystadleuol ond sydd ddim yn cloi’ch arian am gyfnod maith o amser, gall cyfrif rhybudd fod yr un rydych yn ei chwilio amdano. Mae cyfrifon rhybudd yn fathau o gyfrif cynilo sydd fel arfer yn cynnig cyfraddau llog uwch na chyfrifon mynediad hawdd. Er mwyn codi arian o gyfrifon rhybudd, mae rhaid rhoi 60 diwrnod o hysbysiad ysgrifenedig. Pe bai argyfwng yn codi, gallwch godi arian o gyfrifon rhybudd yn syth. Fodd bynnag, bydd ffi codi arian yn gynnar yn berthnasol pan fyddwch yn cael mynediad at yr arian heb roi’r cyfnod hysbysiad llawn.

Cyfrifiannell cynilion

Faint o amser fydd hi'n gymryd i gynilo?
Faint dylwn i gynilo bob mis?
Cyfrifiannell Cynilo

Rydych chi yma:

> > Cyfrifon Cynilion Rhybudd

Cyfrifon cynilo rhybudd

Cyfrifon cynilo sy’n talu cyfradd uwch o log yw cyfrifon rhybudd. Mae Principality yn cynnig cyfradd llog cystadleuol o 1.60% gros*/AER† amrywiol ar ein cyfrif rhybudd 60 diwrnod a bonws diamod o 1.00% yn y flwyddyn gyntaf gyda chodi arian heb derfyn. Cyfrifir llog yn ddyddiol a gall ei dalu’n fisol neu’n flynyddol i mewn i gyfrif o’ch dewis chi.

Cyfrifon Cynilion Rhybudd

Gros* AER† Yn cynnwys bonws Isafswm i agor Hysbysiad tynnu Mwy o fanylion
Cyfrif Uniongyrchol 60 Diwrnod 2.60% 2.60% 1.00% £1000 60 diwrnod Mwy am y cynnyrch hwn

Mae ein Cyfrif Uniongyrchol 60 Diwrnod yn cynnig cyfradd llog amrywiol a gellir cael mynediad at eich arian gyda dim ond 60 diwrnod o rybudd.

  • Cyfradd llog amrywiol
  • Bonws diamod yn y flwyddyn gyntaf o 1%
  • Gellir cau'r cyfrif a chael mynediad at eich arian gyda 60 diwrnod o rybudd neu trwy golli 60 diwrnod o log gros
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol ac fe allwch ddewis ei dderbyn yn fisol neu'n flynyddol
  • Dim ond trwy'r post gellir gweithredu'r cyfrif hwn

* Gros yw’r gyfradd llog cytundebol sy’n daladwy cyn tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.

† Saif AER dros Annual Equivalent Rate (Cyfradd Gyfwerth Flynyddol) ac mae’n dangos yr hyn fyddai’r gyfradd llog os byddai’r llog ar gynilion yn cael eu talu a’u hadio at y cynilion ar ddiwedd bob blwyddyn.

# Net yw’r gyfradd llog taladwy ar ôl tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.

Cynhyrchion wedi'u gweld yn flaenorol:

 

I’n helpu ni gynnal ein safonau gwasanaeth a diogelwch, gall galwadau ff ôn gael eu monitro neu eu recordio. Gall eich manylion personol gael eu defnyddio er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’ch cais.

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.