Moving home

19 September 2014

Gallai peidio â gwybod beth yw cyfradd eich morgais olygu eich bod yn talu mwy nag y dylech

Canfu’r arolwg o 1000 o bobl â morgais yng Nghymru a Lloegr a gynhaliwyd gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality, mai dim ond 52% sy’n gwybod yn bendant beth yw cyfradd llog eu morgais cyfredol, er bod 87% yn gallu dweud faint yw'r ad-daliad misol ar y morgais.

Nid oedd bron i chwarter y bobl â morgais yn ymwybodol y byddai cynnydd yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn golygu newyddion drwg i bobl â morgeisi ac roedd pump y cant yn credu’n anghywir y byddai cynnydd yng nghyfradd Banc Lloegr yn newyddion da i bobl â morgais - ac mae’r ansicrwydd o ganlyniad i hyn yn golygu nad yw cwsmeriaid yn cael y fargen iawn sydd er eu budd gorau.

Gan sôn am y canfyddiadau, meddai Julie-Ann Haines, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid yng nghymdeithas adeiladu fwyaf Cymru: “Byddem yn eich annog i dreulio amser nawr yn dod i wybod beth yw eich cyfradd a manylion eich morgais er mwyn i chi gael gwybod am unrhyw gynnydd yn eich taliad misol cyn i gyfraddau Banc Lloegr gynyddu.

“Rydym ni'n disgwyl cynnydd yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf ond mae hwn yn debygol o fod yn gynnydd bach iawn, ac yn debygol o ddigwydd yn ystod chwarter cyntaf 2015. Mewn termau real, mae cynnydd o chwarter y cant ar amcangyfrif o forgais cyfartalog o £113,549 yn cyfateb i ryw £23.66 ychwanegol y mis neu lai na £6 yr wythnos* - a ddylai fod yn rhwydd i’r rhan fwyaf o bobl allu ymdopi ag ef. Fodd bynnag, bydd y cyfraddau’n amrywio, gan ddibynnu ar y swm yr ydych wedi ei fenthyg a chyfnod y benthyciad. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf disgwylir i’r cyfraddau sylfaenol gynyddu eto felly dylai perchnogion cartrefi gyfrifo’r effaith arnynt gan ddefnyddio cyfrifwr morgeisi ar-lein neu siarad â’u hymgynghorydd morgeisi i amcangyfrifo beth y byddai cynnydd mwy yn ei olygu i chi. Fodd bynnag, yr hyn sy’n allweddol er mwyn rheoli eich morgais yn gyfrifol yw eich bod wedi paratoi, eich bod yn gwybod popeth am eich cynnyrch a’ch bod yn rhagweld unrhyw newid yn y gyfradd cyn i chi weld effaith hynny ar eich cyfriflen banc. Mae’n anodd gwneud hynny os nad ydych yn gwybod beth yw eich cyfradd.”

Dangosodd yr arolwg bod gwybodaeth sylfaenol cwsmeriaid am eu cynhyrchion morgais yn gryf, gyda 95% yn gallu enwi darparwr eu morgais, 74% yn gwybod faint sy’n weddill ar eu morgais a 76% yn ymwybodol o ddyddiad ad-dalu'r morgais. Roedd gwybodaeth am ffactorau pwysig eraill yn isel fodd bynnag, a dim ond un o bob tri (36%) oedd yn gallu dweud beth oedd y gymhareb rhwng y benthyciad â gwerth eu cartref.

Ychwanegodd Julie-Ann: “I’r rhan fwyaf o berchnogion cartrefi yr ad-daliad morgais yw’r taliad misol mwyaf y maent yn ei wneud felly mae cael morgais sy’n bodloni eu hanghenion yn hanfodol. Mae treulio hanner awr y mis yn atgoffa eu hunain am eu cynhyrchion morgais neu gyfarfod ag ymgynghorydd morgeisi i sicrhau bod y morgais yn iawn ar eu cyfer nhw yn helpu cwsmeriaid i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau posibl a allai effeithio’n sylweddol ar eu taliadau misol.”

O’r ffactorau sy’n fwyaf tebygol o ddenu cwsmer at forgais, y gyfradd llog oedd y cryfaf gan i 61% o’r bobl â morgais ddweud mai’r gyfradd oedd y ffactor a fyddai’n fwy tebygol o’u denu at forgais. Cyngor gan ymgynghorydd ariannol (8%) diogelwch ariannol y benthyciwr (7%) a bod â pherthynas â’r darparwr eisoes (4%) oedd y ffactorau eraill a fyddai’n debygol o ddylanwadu ar benderfyniad cwsmer.

Dywedodd un o bob pump o’r rhai hynny a holwyd nad ydynt yn newid eu morgais.

Meddai Julie-Ann: “Mae’n amlwg bod cyfraddau llog yn atynfa fawr tuag at forgeisi ond mae ffactorau fel cyngor a dibynadwyedd y benthyciwr yn amlwg yn ddylanwad hefyd. Y peth pwysig yw nodi nad rhywbeth yr ydych yn ei brynu unwaith yw morgais ac mae sicrhau eich bod yn ymwybodol o amgylchiadau morgais yn gallu cynorthwyo cwsmeriaid i sicrhau bod eu morgais yn parhau i fod yn addas ar gyfer eu hamgylchiadau.”

*Wedi ei seilio ar amcangyfrif o forgais o £113,549 sy'n parhau i fod heb ei dalu gan ddefnyddio data o Rifyn Ionawr 2014 o Ystadegau Dyledion yr Elusen Arian.
Cynhaliwyd yr arolwg gan Future Focus Research ar ran Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Published: 19/09/2014