31 October 2014

Cartref Cymro yw ei gastell – ond byddai ambell i welliant yn dda o beth!

Cartref Cymro yw ei gastell, meddai’r hen ddihareb, ond a yw hynny’n wir ynglŷn â pherchnogion cartrefi yng Nghymru? Ydyn ni’n genedl o berchnogion hapus, yn fodlon â’n cartrefi ac yn hapus yn ein hamgylchoedd? Neu a ydyn ni’n ceisio gwella’r mannau lle’r ydym yn byw ac yn dyheu am bethau gwell?

Mae ein harolwg diweddar o 1000 o berchnogion tai yn awgrymu bod gan lawer o berchnogion cartrefi yng Nghymru gynlluniau crand oherwydd cyfaddefodd 98.5% fod gwelliannau y byddent yn dymuno’u gwneud i’w cartrefi. O estyn eu cartrefi (29%), newid lleoliad (15%), gwella’r ardd (15%) neu newid y cynllun (13%), mae gan y rhan fwyaf rywbeth yr hoffent ei wneud i wella’u cartrefi.

Er bod prosiectau mwy fel ychwanegu ystafelloedd neu dirlunio’r ardd yn uchel ar y rhestrau o bethau yr hoffent eu gwneud, mae’n ymddangos bod perchnogion cartrefi yng Nghymru’n fodlon ar y cyfan â’u sgiliau addurno yn y cartref, gan mai dim ond 10% a ddywedodd y byddent yn dewis newid addurnwaith eu cartrefi.
Mae’n ymddangos nad ydym yn hoff o gynlluniau lliwgar yma yng Nghymru, gan fod 55% yn dweud bod eu hoff ystafell wedi ei phaentio’n lliwiau ‘magnolia’ neu niwtral ac 8% yn unig sydd o’r farn mai lliwiau llachar sydd orau, gan gynnwys lliwiau sitrws cryf.

Efallai na fydd yn syndod ei bod yn ymddangos mai menywod sy’n bennaf gyfrifol am hoffter Cymru o liwiau niwtral gan mai menywod sy’n gwbl gyfrifol am y gwaith cynllunio mewnol mewn bron i 41% o gartrefi, o gymharu â dim ond 20% o gartrefi lle y mae’r dyn yn gyfrifol am drefnu’r gwaith addurno.

Yn ddiddorol, mae’r dyddiau pan oedd y gegin yn ganolog i fywyd y cartref wedi hen fynd gan fod 57% ohonom yn dweud ein bod fwyaf cyfforddus yn ein lolfeydd, ac yna’r brif ystafell wely (15%) a’r ardd (11%). Un o bob deg ohonom yn unig sy’n teimlo fwyaf cyfforddus yn ein ceginau. 

I’r 98.5% hynny ohonom sydd am wella ein cartrefi, gall fod yn her dod o hyd i’r arian i wneud y newidiadau hyn. Ond mae’r rhan fwyaf o forgeisi’n cynnig cyfleusterau sy’n gallu ein helpu i wireddu’r breuddwydion hyn.
Mae ailforgeisio eich eiddo hefyd yn opsiwn er mwyn rhyddhau arian parod i wella’r cartref. Gallai sgwrs gyflym ag arbenigwr morgeisi eich cynorthwyo i bwyso a mesur eich cynnyrch morgais presennol ac edrych ar opsiynau i newid i gynnig gwahanol. Os yw gwerth eich eiddo wedi codi ers i chi drefnu eich morgais, efallai y gallech ailforgeisio eich cartref am werth uwch na’ch morgais blaenorol a thrwy hynny ryddhau arian.

Ond beth pe na bai arian yn broblem? Pa fath o welliannau ‘heb eu hail’ fyddai pobl Cymru’n eu dewis?
Pan ofynnwyd pa welliannau y byddent am eu gwneud i’r cartref pe byddent yn cael siec wag, dywedodd 30% y byddai pwll nofio ar frig eu rhestr siopa – defnyddiol ar gyfer ein pythefnos o haul bob blwyddyn! Roedd campfa yn y cartref (12%), twba poeth (12%) ac ystafell sinema (10%) hefyd yn ddewisiadau poblogaidd, ond byddai rhai pobl yn mynd dros ben llestri ac yn gwneud rhywbeth anarferol. Roedd cegin â’r gallu i fynd ar y rhyngrwyd a siopa am fwyd, cae rygbi maint llawn a holodeck Star Trek ymhlith yr awgrymiadau mwyaf unigryw!

O’u gwneud yn iawn, gall gwelliannau sylweddol gynyddu gwerth tŷ felly efallai y gallech gael y pwll nofio hwnnw rydych wedi bod yn dyheu amdano ac adennill y gost pan fyddwch yn gwerthu eich cartref yn y pen draw. Wrth gwrs, mae rhai gwelliannau’n fwy tebygol o ychwanegu gwerth nag eraill felly mae’n bwysig bod yn graff wrth wneud y penderfyniadau hyn. Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu argyhoeddi darpar brynwr i dalu mwy na’r disgwyl am yr holodeck drud hwnnw a osodwyd gennych, er enghraifft!

Trwy sicrhau eich bod yn deall eich sefyllfa ariannol, a thrwy wybod am fanylion eich morgais ac ystyried eich opsiynau, gallai’r gwelliant delfrydol hwnnw i’ch cartref fod o fewn eich cyrraedd. 

Er gwaethaf hyn, mae 84% yn dweud yn hyderus na fyddent yn cyfnewid eu cartrefi am gartref cymydog – sy’n profi bod cartref Cymro yn dal i fod yn gastell iddo, hyd yn oed os oes angen ambell i welliant!

Published: 31/10/2014