Queen Street Branch

26 November 2014

Golwg o’r ddwy ochr i’r ymgyrch codi arian

Eiona Roberts yn blogio ynglŷn â sut y gwnaeth Sglerosis Ymledol a chariad at ffotograffiaeth ei harwain i gymryd rhan yn ymdrechion y Principality i godi arian at elusennau.

Ym 1991 cefais ddiagnosis o Sglerosis Ymledol (MS) ar ôl 13 mlynedd o ymchwiliadau meddygol. Fe gymerodd cyn hired â hynny i gael diagnosis oherwydd nad oedd y dechnoleg berthnasol ar gael ar y pryd; roedd hi'n daith hir a llafurus o gofnodi hanes clinigol ac o gael gwared ar y posibilrwydd o gyflyrau eraill fesul un.


Y blynyddoedd cynnar oedd yr anoddaf i ymdopi â hwy, yn bennaf oherwydd blinder a phendro. Roedd gennyf rieni oedrannus i ofalu amdanynt a phlentyn bach i’w fagu ond roedd amynedd a dealltwriaeth fy ngŵr yn amhrisiadwy, ac mae hynny'n wir o hyd.


Rwy’n llances 59 oed erbyn hyn ac mae gennyf MS eilaidd sy’n gwaethygu. Mae fy mywyd yn hapus a chyfoethog er gwaethaf y symptomau sy’n gwaethygu, oherwydd fy mod yn gwybod sut i ymdrin â nhw. 

Rwy’n gwirfoddoli ers 2003 dros Gymdeithas MS y DU (elusen MS mwyaf blaenllaw’r DU) ac i Gymdeithas MS Cymru (yr elusen fwyaf blaenllaw yng Nghymru sydd wedi ymroi i orchfygu MS).  Rwyf wedi gwisgo sawl het - o fod yn wirfoddolwr ar y wefan genedlaethol, i fy swyddogaeth bresennol o adolygu dogfennau gwybodaeth i’r cyhoedd, a chodi arian hefyd. Gan fy mod yn byw yn Abertawe, rwyf wedi bod yn ymwneud â'r ddwy ochr o’r ymgyrch codi arian ar gyfer Cymdeithas MS Cymru. 

Yn fy mywyd personol, rwyf wedi gwirioni â ffotograffiaeth, a diolch i dechnoleg camera SLR digidol sy’n lleihau effaith fy nwylo’n crynu, ffenestr y gellir ei haddasu, a nifer o declynnau defnyddiol yr wyf wedi’u prynu ar gyfer fy nghamera, rwy’n gallu cyfuno fy hoffter o hyn â’r hoffter rwy’n ei deimlo am bobl eraill sydd, fel finnau, yn cael eu heffeithio gan MS. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn llai ffodus na mi, gan fod y clefyd yn gwaethygu mor gyflym fel bod ganddo’r potensial i ddinistrio eu bywydau'n gyfan gwbl. Mae'n effeithio nid yn unig ar fywydau’r rhai sydd â'r clefyd ond hefyd ffrindiau, teulu, cyd-weithwyr a phwy bynnag sy’n dod i gyswllt â nhw’n aml.

Pan nad ydw i’n codi arian at MS Cymru, rwy’n aml yn tynnu lluniau mewn llawer o’r digwyddiadau codi arian neu gynyddu ymwybyddiaeth. Ym mis Ionawr eleni, teithiais i Gaerdydd i dynnu llun Julie-Ann Haines, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid y Principality a Michelle Mitchell, Prif Weithredwr Cymdeithas MS y DU, ynghyd â chynrychiolwyr o’r ddau sefydliad, y tu allan i gangen y Principality ar Heol y Frenhines. Roedd hyn ar gyfer cofnodi’r trosglwyddiad swyddogol pan ddaeth MS Cymru yn Elusen y Flwyddyn y Principality ar gyfer 2014.

Anaml iawn yr wyf i’n cael cyfle i weld y canlyniad terfynol ar ôl sesiwn o dynnu lluniau swyddogol, felly roeddwn i wrth fy modd pan welais i boster yn fy nghangen leol yn Nhreforys yn dangos llun a dynnais i o’r achlysur. 

Rwyf wedi mynychu sawl digwydd lleol i godi arian at Gymdeithas MS Cymru eleni, a drefnwyd gan staff y Principality, ac mae dau yn arbennig yn aros yn y cof. Y cyntaf oedd sioe ffasiynau yng Nghlwb Golff Treforys a oedd yn noson llawn hwyl yn ogystal â chyfle i godi arian. Mi es â fy math fy hun o MS gyda fi pan wnes i gamgymeriad sy’n nodweddiadol o MS, sef camfarnu lleoliad pethau (sef diffyg ymwybyddiaeth gweledol-gofodol). Wrth geisio rhoi fy ngwydraid o win ar y bwrdd, camfarnais uchder fy nghadair ac fe aeth y gwin dros fy nillad i gyd. Yn fy oedran i, diolch byth, rwy’n gallu chwerthin ynglŷn ag eistedd mewn sioe ffasiynau, o bobman, mewn dillad a oedd yn wlyb domen ag alcohol

Yr ail ddigwyddiad codi arian sydd wedi aros yn y cof yw'r cyngerdd a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Stradey Park, Llanelli. Codwyd swm sylweddol o arian ac roedd yr adloniant o’r safon uchaf, ond yr hyn a effeithiodd arnaf fwyaf oedd geiriau Rheolwr Cangen Caerfyrddin a derfynodd ei chroeso agoriadol â’r geiriau “mae hyn i fy mam”, a oedd wedi cael MS. Mae’n amlwg bod MS yn effeithio ar lawer mwy o bobl nag y mae'r ystadegau swyddogol yn ei ddangos.

Wrth fynychu pob math o ddigwyddiadau codi arian dros y blynyddoedd, rwyf wedi sylwi ar ddau beth rwy’n eu hoffi’n fawr ynglŷn â’r Principality, nid yn unig trwy fynd i’w digwyddiadau elusennol ond hefyd trwy eu dilyn ar Facebook a Twitter. Maen nhw’n rhoi cymaint yn ôl i’r gymuned yng Nghymru, llawer mwy nag a fyddwn wedi ei ddisgwyl gan gwmni cydfuddiannol. Mae staff y Principality’n eithriadol o ran y ffordd y maent yn gweithio fel tîm. Mae hyn yn rhywbeth nad ydym yn ei weld yn aml heddiw mewn busnesau cenedlaethol eraill, ac yn fy marn i, mae’n rhywbeth y dylai’r Principality ymfalchïo ynddo.

Published: 26/11/2014