Moving home

23 December 2014

Cyngor da i brynwyr tro cyntaf yn 2015

Mae Christopher Johnson, Prif Reolwr Cynhyrchion Morgais Cymdeithas Adeiladu’r Principality, yn amlinellu ei gyngor i brynwyr sydd eisiau prynu eu cartref cyntaf yn 2015.

Mae mis Ionawr fel rheol yn adeg pan fydd pobl yn myfyrio ar eu bywydau ac yn penderfynu pa newidiadau maen nhw’n dymuno eu gwneud ar gyfer y flwyddyn nesaf. A pha newid allai fod yn fwy na phrynu eu cartref cyntaf? Prynu tŷ yw un o’r ymrwymiadau ariannol mwyaf y mae’r rhan fwyaf o bobl yn debygol o’i wneud fyth, felly mae’n hanfodol bod gennych chi gymaint o wybodaeth ag y bo modd er mwyn gwneud y broses mor ddi-straen â phosibl.

Yn ffodus, i unrhyw un sy’n breuddwydio am brynu ei dŷ cyntaf yn 2015, mae pethau’n edrych yn gadarnhaol ar gyfer y flwyddyn nesaf, sy’n golygu efallai mai hon yw’r flwyddyn y bydd llawer yn gallu dwysáu’r broses o chwilio am eu cartref delfrydol.

O ganlyniad i ostyngiadau i’r dreth stamp yn dilyn Datganiad yr Hydref ym mis Rhagfyr, bydd rhaid i drethdalwyr dalu llai i’r Llywodraeth wrth brynu cartref newydd, gan ostwng cyfanswm y costau i lawer.
Dan y rheolau blaenorol, roedd yn rhaid i berchnogion tai â chyllideb o rhwng £125,000 a £250,000 dalu 1% o gyfanswm gwerth eu cartrefi newydd mewn treth ar ben y pris gwerthu, a 3% o’r pris prynu cyflawn os oedd y cartref yn costio rhwng £250,000 a £500,000. Ond, dan y rheolau newydd, nid oes unrhyw dreth i’w thalu ar y £125,000 cyntaf; ac mae prynwyr yn talu 2% ar y gyfran ychwanegol o’r gwerth rhwng £125,000 a £250,000 yn unig, a 5% ar y gyfran ychwanegol hyd at £925,000. 

Gan fod pris cyfartalog cartrefi’r DU rywle yng nghanol yr ystod hon erbyn hyn, mae hyn yn newyddion arbennig o dda i brynwyr tro cyntaf. Gallant bellach ddisgwyl talu traean o’r gost mewn treth stamp ar dŷ sydd werth £150,000, er enghraifft, o’i chymharu â’r hyn a oedd yn daladwy dan yr hen reolau.

Yn ogystal â hyn, mae’n ymddangos y bydd cyfraddau llog yn aros yn isel am fwy o amser nag yr oedd pobl yn ei feddwl yn wreiddiol. Mae cost benthyca wedi bod yn is i ddeiliaid morgais yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd i Fanc Lloegr bennu cyfraddau llog ar eu hisaf erioed i helpu i sbarduno adferiad economaidd. Er bod yr agenda ariannol yn ystod ail hanner 2014 wedi bod yn llawn newyddion am gynnydd mawr mewn cyfraddau llog, nid yw hyn wedi digwydd. O ganlyniad, mae’r rhagolygon yn cael eu diwygio a’r teimlad nawr yw bod cynnydd yn annhebygol tan ddiwedd 2015 neu ddechrau 2016. Mae’n dal i fod yn amser calonogol felly i bobl sy’n ceisio ymuno â’r ysgol dai am y tro cyntaf.

Nid yw hynny’n golygu na ddylid ystyried cynnydd yn y dyfodol wrth gyfrifo ad-daliadau ar gartref newydd, a dylai pob perchennog cartref, boed yn brynwr tro cyntaf neu beidio, ofalu ei fod yn barod ar gyfer cynnydd posibl yn ei daliadau pan fydd cyfraddau llog yn codi yn y dyfodol, fel sy’n anochel. Er hynny, bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr benthyciadau wedi bod yn gwneud hyn ers cryn amser yn ystod y broses forgais.

Dyma rai pethau eraill y dylai pawb eu cadw mewn cof wrth wneud dewisiadau hefyd, os ydyn nhw’n ystyried gwneud y cam cyntaf hollbwysig i brynu tŷ yn 2015. Mae’n bwysig benthyca o fewn eich modd, a rhoi ystyriaeth ddifrifol cyn prynu cartref cyntaf i unrhyw newidiadau a allai ddigwydd i’ch incwm yn y dyfodol, o ganlyniad i ddatblygiadau gyrfa neu ddatblygiadau bywyd eraill. 

Mae hefyd yn hollbwysig sicrhau blaendal. Yn y farchnad bresennol, gallwch ddisgwyl talu o leiaf bump y cant o’r pris prynu ac mae’n rhaid i chi allu gwneud hyn ar eich pen eich hun neu drwy gymorth un o gynlluniau’r llywodraeth - fel y cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru - cyn y gallwch ystyried prynu.

Mae swydd ddiogel ac incwm rheolaidd yn angenrheidiol hefyd. Bydd darparwyr benthyciadau morgais yn dymuno cael y sicrwydd nad ydych yn benthyca mwy nag y mae eich cyflog yn ei ganiatáu. Hefyd, gwnewch rywfaint o waith ymchwil i weld a oes gennych statws credyd da. Bydd yn ddigon rhwydd gwneud hyn trwy rywfaint o waith ymchwil ar-lein. Os bydd eich statws yn wael, efallai y bydd angen i chi ystyried treulio amser yn rhoi trefn ar eich cyllid er mwyn gwella’r statws cyn i chi ystyried prynu.

Un manylyn sy’n swnio’n fach y gallech chi hefyd ei anghofio wrth fynd drwy’r broses brynu yw’r costau ychwanegol y mae angen i chi eu hystyried o ran cyfleustodau a biliau eraill, fel y Dreth Gyngor. Cysylltwch â’r cyngor lleol pan fydd gennych ddiddordeb mewn prynu tŷ er mwyn darganfod faint fydd y dreth, rhag cael eich siomi ar ôl i chi symud i mewn.  

Cam doeth arall yw gofyn i’r gwerthwr am y Dystysgrif Perfformiad Ynni, er mwyn darganfod pa mor effeithlon yw’r cartref o ran ynni. Os nad yw’n effeithlon, efallai y bydd yn rhaid i chi ymchwilio i gost inswleiddio, a gall llawer o gynlluniau gan y llywodraeth gynnig cymorthdaliadau tuag at hynny. Neu gallech hyd yn oed benderfynu anghofio am y cartref o blaid opsiwn sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon.

Y naill ffordd neu’r llall, mae’n well bod yn ymwybodol o’r holl fanylion hyn cyn gwneud eich cynnig, ac mae bob amser yn bwysig peidio â rhuthro unrhyw benderfyniadau wrth brynu tŷ. Ond os yw ymuno â’r ysgol dai yn rhywbeth rydych chi wedi bod yn ei ystyried, yna gallai 2015 fod yn amser da i fynd amdani.

Published: 23/12/2014