18 March 2015

Cyllideb 2015: ymateb y Prif Swyddog Gweithredol

Mae Graeme Yorston, ein Prif Swyddog Gweithredol, yn rhoi ei ymateb i Gyllideb 2015.

Meddai Graeme Yorston, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Cymdeithas Adeiladu’r Principality:
“Amser a ddengys pa un a fydd penderfyniadau heddiw’n sefyll prawf amser neu ai bwriad y Canghellor oedd denu pleidleiswyr allweddol yn unig. Serch hyn, ‘does dim amheuaeth nad oedd rhai cyhoeddiadau blaengar o ran cynilwyr a phrynwyr tro cyntaf a fydd yn gwobrwyo’r rhai sy’n dewis cynilo'r arian y maen nhw wedi gweithio mor galed amdano gyda’r bwriad o brynu tŷ.

&ldquo“Mae’r cyhoeddiadau ynglŷn â gostwng tollau Pont Hafren a symud ymlaen â Chynllun Dinesig Caerdydd a Morlyn Llanw Abertawe i’w croesawu. Fodd bynnag, fel gyda chymaint o’r Gyllideb heddiw, yn y manylion y bydd y maglau o ran sut y bydd y prosiectau a’r penderfyniadau hyn yn gweithredu yn y pen draw a pha un a fyddant yn arwain at dwf economaidd cynaliadwy i Gymru.”

ISAs

““Mae’r newid yn y rheolau ISA i roi mwy o hyblygrwydd i ddeiliaid ISA ac ISA newydd ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn gamau mawr tuag at rymuso cynilwyr a rhoi cymhelliad i brynwyr tro cyntaf gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at brynu tŷ. Mae ymddiried ym mhobl i wneud y gorau o’u cynilion eu hunain a’u galluogi i dynnu arian allan o ISA fel y mynnant yn weithred flaengar a fydd yn rhoi’r rhyddid i bobl godi arian neu ei adneuo, heb iddo effeithio eu terfyn di-dreth.

“Yn yr un modd, bydd yr ISA Help-i-Brynu yn cynnig hwb hollbwysig i’r rhai sydd ag uchelgais i brynu tŷ trwy eu helpu i gynilo’r blaendal hanfodol hwnnw. Mae codi blaendal yn rhwystr anferth i lawer o bobl ifanc wrth brynu tai, felly bydd y cyhoeddiad heddiw yn cynnig cymhelliant clir i weithio tuag at fod yn berchen ar dŷ.

&ldquo“Wrth gwrs, fe fydd cwestiynau ynglŷn â sut y bydd y cynhyrchion newydd hyn yn cael eu gweithredu gan ddarparwyr, felly rydym yn aros am ganllawiau ychwanegol ynglŷn â hyn.”

Diddymu treth ar gynilion

“Croesawyd Cyllideb heddiw fel Cyllideb ar gyfer cynilwyr ac mae’n galonogol gweld yr amrywiaeth o fesurau a gynlluniwyd i wobrwyo’r rhai sy’n dewis cynilo, ac sydd wedi dioddef cyfraddau llog isel ers cryn amser erbyn hyn. Bydd cyhoeddiad y Canghellor y bydd “lwfans cynilo personol” newydd o Ebrill 2016 yn gwobrwyo cynilwyr trwy beidio â threthu’r £1,000 cyntaf o incwm cynilion ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol, a’r £500 cyntaf ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd uwch, yn galluogi cynilwyr i gael gwell adenillion o’u cynilion. Ni fydd y rhai ar yr incwm uchaf oll yn elwa ond dywedodd Mr Osborne y byddai’r newid hwn yn diddymu’r dreth ar gynilion ar gyfer 17 miliwn o bobl, ac mae’n siŵr y bydd wedi derbyn croeso ar lawer o aelwydydd.”

Blwydd-daliadau Pensiynwyr

“Mae gweithredu i roi grym i gynilwyr yn syniad da mewn egwyddor, yn enwedig diddymu’r dreth ar gynilion, a fydd yn caniatáu i lawer o bensiynwyr wneud eu dewisiadau eu hunain ynglŷn â beth i’w wneud â’u harian. Er hynny, mae’n bosibl mai blwydd-daliadau fydd y dewis gorau i lawer o bensiynwyr o hyd. Mae’n bosib na fydd ymagwedd ‘brws llydan’ yn ystyried amgylchiadau personol ac mae perygl ei fod yn gynllun a ddyfeisiwyd yn wael gan y Canghellor i ddarparu llwyddiant sydyn iddo’i hun, ac fe allai arwain at bobl yn mynd i drafferthion ariannol, ac yn y pen draw, at fwy o bobl yn byw ar bwrs y wlad yn yr hir dymor. Bu llawer o ddamcaniaethu y bydd y newidiadau ynglŷn â blwydd-daliadau’n arwain at lif o fuddsoddiadau amgen, fel prynu-i-osod, ond mae’n rhaid i gynilwyr wylio rhag cael eu taro â threthi annisgwyl yn y buddsoddiadau eraill hyn. Mewn amgylchedd sydd eisoes â chyfraddau llog isel, rhaid i bensiynwyr bwyso a mesur yn hir ac yn ofalus a cheisio cyngor ariannol doeth er mwyn sicrhau nad yw troi eu blwydd-daliadau’n arian yn anfanteisiol yn y tymor hir.”

Cynnydd yn y lwfans treth personol

“Mae codi trothwy’r dreth i £10,600 ymhen pythefnos, i £10,800 y flwyddyn nesaf ac i £11,000 erbyn y flwyddyn ar ôl hynny i’w weld yn weithred gadarnhaol ar y wyneb a fydd yn golygu na fydd rhai pobl yn talu treth o gwbl ac yn arwain at arbedion – er y byddant yn rhai bach – i lawer o weithwyr. Ond ni ddylid anghofio nad yw dibyniaeth ar swyddi rhad o reidrwydd yn beth da i economi. Mae’r diffyg yng nghynnydd y dreth incwm y mae’r llywodraeth yn ei derbyn wedi cyfrannu’n rhannol at y diffyg mwy nag y dymunwyd yn y gyllideb, ac mewn ffordd, gallai codi’r lwfans personol waethygu’r sefyllfa hon o bosibl.”

Published: 18/03/2015