23 July 2015

Cyhoeddi enillydd Ffermwraig y Flwyddyn Cymru

Coronwyd Ceri Ratcliffe, ffermwraig cig eidion a defaid o Gei Connah, yn Ffermwraig y Flwyddyn NFU Cymru / Cymdeithas Adeiladu’r Principality heddiw yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Ceri a’i gŵr yn ffermio 180 o erwau. Mae gan Andy fusnes llogi peiriannau ac felly Ceri sy'n gofalu am eu dau blentyn bach ac am yr anifeiliaid. Deunaw o ddefaid yn unig oedd ganddynt ar adeg eu priodas, ond mae ganddynt 600 o ddefaid magu a 100 o wartheg eidion erbyn hyn. Mae Ceri, a ddechreuodd ffermio ar ôl iddi briodi, yn adnabyddus yn yr ardal gan ei bod hi’n mynychu marchnadoedd lleol ac mae hi wedi ennill y brif wobr am ei hŵyn yng ngwerthiannau da byw tewion y Nadolig. Mae Ceri hefyd yn croesawu myfyrwyr ar y fferm, yn hyfforddi cŵn defaid, ac mae hi hefyd yn gynrychiolydd danfon i gwmni bwyd cŵn - yn ei hamser sbâr!

Joanna Rees a Nerys Edwards ddaeth agosaf at Ceri yn y gystadleuaeth am wobr eleni, y ddwy ohonynt yn hanu o Sir Gaerfyrddin.

Joanna Rees, Fferm Gilfach, Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Mae Joanna yn ymgymryd â phob tasg ddyddiol y tu allan ar y fferm organig gan gynnwys y gwaith tractor, yn ogystal â'r gwaith tŷ, sydd hefyd yn cynnwys y gwaith papur. Mae Joanna yn aelod o sawl cymdeithas ddefaid gan gynnwys Cymdeithas Defaid Lleyn, Cymdeithas Cheviot Bryniau Brycheiniog a Chymdeithas Defaid Penwyn Llanymddyfri. Mae hi’n ymwneud hefyd â Chymdeithas Bridwyr Moch Cymru a'r Gororau a Chymdeithas Cŵn Defaid Cymru.

Nerys Edwards, Fferm Croesasgwrn, Llangyndeyrn, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin. Mae Nerys yn ffermio gyda’i gŵr Roy ac mae ganddynt bedwar o feibion. Mae Nerys yn rhannu ei hamser rhwng magu lloeau, gwaith papur, godro, gwaith tractor a gwaith fferm cyffredinol. Mae hi hefyd yn rhedeg busnes ‘cacennau ar gyfer achlysur’ llwyddiannus sef - gan wneud y cacennau ar ôl i’r bechgyn fynd i'w gwelyau fel arfer! Gan fod costau llaeth wedi cwympo'n enbyd erbyn hyn, yn ddiweddar, mae Nerys hefyd wedi derbyn contract dau fis a hanner i lenwi ffurflenni y Taliad Sengl ar gyfer cwmni arall.

Meddai Dirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, John Davies, “Roedd pob un o’r tri ar restr fer y rownd derfynol o safon uchel iawn. Ond mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin - ymrwymiad llwyr i’w ffermydd eu hunain ac i’r diwydiant yn gyffredinol. Mae Ceri yn gosod esiampl wych ar gyfer teitl Ffermwraig y Flwyddyn Cymru.”

Meddai Pat Ashman, Rheolwr Nawdd a Digwyddiadau Cymdeithas Adeiladu’r Principality, “Mae’n bleser gwirioneddol i fod yn rhan o’r gwaith o feirniadu cystadleuaeth mor gyffrous. Wrth ddewis cystadleuwyr y rownd derfynol eleni, edrychodd panel y beirniaid ar nifer o wahanol feini prawf gan gynnwys eu rhan mewn gwneud y fferm yn uned economaidd lwyddiannus a’u cyfraniad at wella swyddogaeth menywod ym maes ffermio. Enwebwyd Ceri gan ei mam-yng-nghyfraith, sydd yn amlwg yn falch iawn o’r ffaith bod Ceri wedi bodloni ein holl feini prawf ar gyfer y Wobr ac wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Bydd hi'n gennad da iawn dros yr holl fenywod eraill sy’n ffermio yng Nghymru.”

Cafodd yr enillydd £500 a phowlen ffrwythau grisial Cymreig wedi ei hysgythru, a chafodd y ddwy a ddaeth yn agos i'r brig £100 yr un.

Published: 23/07/2015