Ein Gwerthoedd
Mae ein cydweithwyr gwerthfawr yn chwarae rhan bwysig wrth helpu ein Haelodau i ffynnu, teimlo’n ddiogel, a chael ymdeimlad o hunanwerth a llesiant. Ein gwerthoedd sy’n pennu sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd fel tîm i gyflawni ein diben, gan ddarparu'r fframwaith i ddylanwadu ar sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd a sut rydym yn ymddwyn gyda'n Haelodau.
Rydym yn Cadw Pethau’n Syml
Rydym yn sicrhau bod ein holl ohebiaeth yn glir, yn ddi-jargon ac y gall bawb eu deall.
Rydym bob amser yn ‘cadw pethau'n syml' – yn ymdrechu i sicrhau bod ein rhyngweithiadau bob dydd yn hawdd, a hynny gyda'n cwsmeriaid a’n cydweithwyr.
Rydym yn dweud 'yr hyn a welwn' ac yn galw am gyfleoedd yn barhaus i wella prosesau a chynyddu cynhyrchiant.
Rydym yn dweud llai, ac yn gwrando mwy, yn empathig, ond eto yn onest, ac yn ddi-flewyn-ar-dafod.
Rydym yn gwneud y peth iawn
Rydym yn aros yn driw i ddiben y Gymdeithas. Wrth i ni ddathlu llwyddiannau, gweiddi am amrywiaeth a chydnabod cyfraniad eithriadol.
Rydym yn defnyddio meincnodau allanol, gwybodaeth a rhwydweithiau i wneud penderfyniadau gwrthrychol sy'n parhau i symud ymlaen.
Rydym bob amser yn rhoi sylw, gofal ac ystyriaeth briodol i gydweithwyr a'n cwsmeriaid.
Rydym yn sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ffeithiau, ein profiad ein hunain a barn gadarn.
Rydym yn Cyflawni Gydag Angerdd
Rydym yn ceisio mwynhau popeth a wnawn, gan weithio'n galed dros ein gilydd a'n cwsmeriaid..
Rydym yn ymdrechu i fod y gorau y gallwn fod yn yr hyn a wnawn, wrth fod yn ymroddedig i ddiben cyffredin ein sefydliadau.
Byddwn yn ddygn wrth ddatrys problemau ar ran cwsmeriaid a chydweithwyr.
Rydym yn meithrin cydberthnasau cryf, gan annog pobl eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu, rhannu syniadau a chyfathrebu’n rheolaidd.
Rydym yn Ddewr
Rydym yn hyderus i sefyll yn gadarn dros yr hyn sy'n iawn i'n cwsmeriaid a'n cydweithwyr.
Rydym yn herio’r sefyllfa bresennol yn briodol ac yn effeithiol er gwaethaf gwrthwynebiad posibl.
Rydym yn sicrhau ein bod yn sefyll yn gadarn ac yn driw i'n diben craidd, sef helpu ein cwsmeriaid.
Rydym yn croesawu newid, yn ymateb yn gadarnhaol i adborth adeiladol ac yn gweithredu arno, a hynny heb fod yn amddiffynnol.
Rydym yn Cymryd Perchenogaeth
Rydym bob amser yn cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd, ein hymddygiad a’r penderfyniadau a wnawn.
Rydym yn datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gallu cywir i sicrhau ein bod yn adeiladu busnes sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn creu gweithle agored a chydweithredol, sy'n hyrwyddo cyfathrebu dwyffordd ac yn gwerthfawrogi adborth.
Rydym yn sicrhau bod yr holl ddisgwyliadau a osodwn i’n hunain, ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yn realistig, yn glir ac yn gyraeddadwy.