Canllaw Yswiriant Cartref

Beth yw Yswiriant Cartref?

Yn syml, mae Yswiriant Cartref yn diogelu eich cartref. Mae’r yswiriant hwn ar ffurf yswiriant adeiladau sy’n cynnwys “brics a morter” eich adeilad, ac yswiriant cynnwys sy’n diogelu eich eiddo rhag colled a difrod.

Pam mae angen yswiriant adeiladau arnaf i?

Prin iawn yw'r eiddo materol sydd gennym mewn bywyd sy’n bwysicach na’r to uwch ein pennau a’r eitemau rydym ni’n yn eu trysori. Os ydych chi’n benthyca gan fenthyciwr morgais, bydd yn ofynnol i chi drefnu yswiriant adeiladau digonol gan fod benthycwyr yn dymuno diogelu eu hunain pe caiff yr adeiladau eu difrodi neu eu dinistrio.

Beth mae yswiriant adeiladau yn ei gynnwys?

Fel arfer, mae yswiriant adeiladau yn rhoi sicrwydd rhag difrod gan bethau fel stormydd a llifogydd, tân ac ymsuddiant. Mae hefyd yn cynnwys gosodiadau a ffitiadau parhaol yn yr eiddo, fel yr ystafell ymolchi, y gegin, cypyrddau dillad sy'n rhan o'r adeilad ac addurno, ond dylech archwilio eich polisi yn ofalus bob amser i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod yn union yr hyn sydd wedi ei gynnwys a’r hyn nad yw wedi ei gynnwys.

Pam mae angen yswiriant cynnwys arnaf i?

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli faint yw gwerth cynnwys eu cartref neu’r gost o brynu eitemau newydd yn eu lle pe byddent yn cael eu colli neu eu difrodi, tan i rywbeth ddigwydd. Mae'n bwysig sicrhau bod eich cynnwys yn cael ei ddiogelu'n briodol, neu gallech golli arian sylweddol pe byddai colled neu ddifrod yn digwydd.

Cael dyfynbris heddiw:

Dyfynbris SmartQuote LV

Ffoniwch arbenigwr yswiriant cartref ar 0330 433 9805

Trefnwch apwyntiad yn eich cangen agosaf