Cymorth i Brynu - Cymru

Canllaw i gynllun Cymorth i Brynu - Cymru

Yn y Principality, rydym ni wedi bod yn helpu ein Haelodau i brynu eu cartrefi am dros 150 o flynyddoedd. Rydym ni’n deall y gall fod yn amser anodd i gynilo ar gyfer blaendal i brynu eich cartref cyntaf neu i symud i fyny’r ysgol eiddo. Dyma pam ein bod yn falch o fod yn rhan o gynllun Cymorth i Brynu – Cymru.

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi ei chynllunio gan ddefnyddio gwybodaeth oddi ar dudalen Cymorth i Brynu - Cymru.

Sut mae’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yn gweithio?

Os byddwch yn gymwys, mae Cymorth i Brynu – Cymru yn caniatáu ichi brynu eiddo newydd gwerth hyd at £250,000 trwy gael benthyciad rhannu ecwiti gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Mae Cymorth i Brynu – Cymru yn cynnwys 3 rhan:

  • Bydd y prynwr yn talu blaendal o 5% o leiaf o bris yr eiddo
  • Bydd Llywodraeth Cymru, gyda help Cymorth i Brynu – Cymru, yn rhoi benthyciad rhannu ecwiti o hyd at 20% o bris prynu’r eiddo
  • Bydd angen i’r prynwr wedyn gael morgais ar gyfer y gweddill.

Enghraifft:

Help to Buy Wales

A oes ffioedd cysylltiedig â benthyciad rhannu ecwiti?

O’r adeg y bydd y prynwr yn derbyn y benthyciad rhannu ecwiti bydd angen iddo ef neu hi dalu ffi weinyddol fechan o £1 y mis.

Yna, yn y 6ed blwyddyn, bydd llog o 1.75% y flwyddyn o swm gwreiddiol y benthyciad rhannu ecwiti yn cael ei godi. Wedi hyn, bydd y llog yn cynyddu bob blwyddyn, a’r cynnydd yn cael ei gyfrifo trwy ddefnyddio 2% ar ben y Mynegai Prisiau Manwerthu.

Ydw i’n gymwys?

Mae Cymorth i Brynu – Cymru yn agored i unrhyw un sydd eisiau prynu eiddo yng Nghymru ac:

  • sy’n prynu eiddo gwerth £250,000, a hwnnw’n cael ei adeiladu o’r newydd
  • sydd â blaendal personol o 5% o leiaf
  • sy’n gallu fforddio’r ad-daliadau ar forgais ad-dalu â chymhareb benthyciad a gwerth o 75%
  • sy’n prynu eu hunig eiddo i fyw ynddo, heb fod yn bwriadu is-osod

Mae Cymorth i Brynu – Cymru yn amodol ar delerau ac amodau penodol, a meini prawf fforddiadwyedd yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru.

Ceir manylion llawn yn gov.wales/help-buy-wales.

Sut mae prynu cartref trwy gynllun Cymorth i Brynu – Cymru?

  1. Bydd angen ichi ddod o hyd i eiddo ag adeiladwr sydd wedi cofrestru gyda chynllun Cymorth i Brynu – Cymru
  2. Cyflwynwch gais i Gymorth i Brynu (Cymru) Cyf
  3. Bydd Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf yn gwneud yn siŵr eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun ac yn gallu fforddio’r ad-daliadau ar forgais ad-dalu
  4. Os byddwch yn gymwys ac yn bodloni’r meini prawf fforddiadwyedd, bydd Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf yn anfon cymeradwyaeth atoch chi, eich cyfreithiwr a’r adeiladwr.
  5. Wedyn bydd angen ichi gyflwyno cais am forgais llawn i fenthyciwr cofrestredig.
  6. Os bydd eich cais yn arwain at gynnig morgais gan y benthyciwr, rydych chi bron yno. Gellir cyfnewid contractau, trosglwyddo cyllid ac mae’r gwerthiant wedi ei gwblhau.

To find out more about Help to Buy – Wales, visit the Welsh Government website.