Polisi Iaith Gymraeg

Datganiad

Gan ein bod yn falch o’n treftadaeth sy’n mynd yn ôl dros 150 o flynyddoedd, mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn frwd dros y cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Y Principality, a ffurfiwyd yn 1860, yw cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, ac rydym yn falch o fod yng nghalon strydoedd mawr ledled Cymru a’r gororau, gan weithredu dros 70 o ganghennau ac asiantaethau.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg a’i heffaith ar ein Haelodau, ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’r gymdeithas ehangach. Rydym YN AWYDDUS i annog y rhai sy’n siarad Cymraeg yn ogystal â Saesneg i ddefnyddio’r iaith wrth ymwneud â ni o ddydd i ddydd, ac rydym ni’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y Gymdeithas lle bynnag y gallwn a phan ei bod yn rhesymol ac yn ymarferol i wneud hynny.

Ein nod yw sicrhau bod ein cwsmeriaid a’n Haelodau’n cael gwasanaeth o’r un safon uchel gan y Principality, boed hwy’n ymwneud â ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Dengys y Polisi hwn ein sefyllfa bresennol o ran ein gwasanaethau Cymraeg a bydd hyn yn cael ei ddiweddaru wrth inni wneud gwelliannau.

1. Cyflwyniad

Disgwyliwn i bob aelod o staff fod yn gyfrifol am sicrhau bod ein Polisi Iaith Gymraeg yn cael ei weithredu. Un o bwyllgorau Bwrdd y Principality, y Pwyllgor Cwsmeriaid ac Ymddygiad, sy’n gyfrifol am y Polisi hwn a’r Pwyllgor Rheoli Grŵp sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei gyfathrebu i’n prif swyddfa, ein canghennau a’n hasiantaethau yng Nghymru. Mae’r Polisi hwn yn ddogfen gyhoeddus sydd wedi’i chyhoeddi ar ein gwefan, www.principality.co.uk

2. Polisïau a Mentrau

Ein nod yw sicrhau bod ein polisïau, ein gweithgareddau a’n gwasanaethau yn gyson â’r Polisi hwn. Byddwn yn ymdrechu i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg, a phan fo’n bosibl, annog ein Haelodau, ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gorchwylion dyddiol.

2.1 Cofnodi dewis iaith
Rydym yn cadw cofnod o ddewis iaith ein Haelodau a’n cwsmeriaid er mwyn inni allu darparu ein gwasanaethau iddynt yn unol â’u dewis, pan fo hynny’n bosibl. Pan fydd Aelod neu gwsmer wedi mynegi y byddai’n hoffi derbyn gohebiaeth yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, bydd y Principality yn anfon y cyfathrebiadau cwsmer dwyieithog sydd ar gael.

Ein polisi yw sicrhau bod ein cyfathrebiadau statudol a ddefnyddir amlaf, ar gael yn y ddwy iaith, gan gynnwys y gyfriflen gynilion a’r llythyrau am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Byddwn yn adolygu ein cyfathrebiadau ysgrifenedig eraill yn rheolaidd, yn ogystal â’n dewis o lenyddiaeth am ein cynhyrchion a’n cynigion, er mwyn gweld lle byddai’n bosibl inni gynhyrchu fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Oherwydd natur gyfreithiol y telerau a’r amodau, dim ond yn y Saesneg y maent ar gael.

3. Cyfathrebu

3.1 Cyfathrebu wyneb yn wyneb
Rydym yn croesawu ac yn annog ein cydweithwyr sy’n rhugl yn y ddwy iaith neu sy’n dysgu Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein canghennau yn amrywio o un ardal i’r llall, ond er mwyn tynnu sylw at leoliadau lle mae aelodau staff dwyieithog ar gael, mae’r Principality wedi cynnwys logo Iaith Gwaith ar fathodynnau enw corfforaethol ein cydweithwyr yn y canghennau hynny. Mae hyn yn golygu y gellir adnabod cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn ein canghennau gan ddangos pa un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg ynteu’n dysgu’r iaith.

Pan fydd Aelodau a chwsmeriaid yn ymwneud â ni mae croeso iddynt ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg a byddwn yn ceisio sicrhau bod hynny’n digwydd pryd bynnag y bo modd. Os nad oes siaradwr Cymraeg sy’n gymwys i ymdrin â’r ymholiad ar gael ar unwaith, byddwn yn cynnig bod siaradwr Cymraeg yn ffonio yn ôl cyn gynted ag y bo modd, neu gellir parhau â’r apwyntiad yn Saesneg, neu gellir cyflwyno’r ymholiad yn Gymraeg mewn llythyr neu e-bost.

3.2 Cyfathrebu dros y ffôn
Rydym ni’n cynnig canolfan gyswllt drwy gyfrwng y Gymraeg sydd wedi’i lleoli ym Mangor. Mae’r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. I gysylltu â’r ganolfan, dylai galwyr defnyddio ein rhif canolfan gyswllt arferol 0330 333 4000 neu, os yn galw o dramor, 029 2038 2000.

Os bydd cangen yn derbyn galwad a bod y galwr yn dymuno siarad Cymraeg, bydd ein canolfan gyswllt yn ceisio trosglwyddo’r galwr i aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ac sy’n gymwys i ymdrin â’r ymholiad.

Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, byddwn ni’n cynnig y dewis i’r galwr i naill ai aros am siaradwr Cymraeg i ffonio yn ôl cyn gynted â phosib, neu i barhau â’r alwad yn Saesneg, neu i gyflwyno’r ymholiad yn Gymraeg drwy lythyr neu e-bost.

3.3 Gohebiaeth a chyfieithu
Rydym yn cofnodi ac yn dilyn dewis iaith ein Haelodau, ein cwsmeriaid a’n cysylltiadau busnes er mwyn defnyddio’r iaith honno mewn gohebiaeth. Byddwn bob amser yn ymateb yn Gymraeg, neu’n cynnwys fersiwn Gymraeg, wrth ateb llythyrau a dderbynnir yn Gymraeg neu pan ofynnir inni wneud hynny.

Os bydd cydweithiwr nad yw’n gallu siarad nac ysgrifennu yn Gymraeg yn derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg, bydd cyfieithiadau’n cael eu darparu, neu caiff ei gyfeirio at sylw rheolwr llinell, a fydd yn trefnu bod ateb yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

Caiff ein gwaith cyfieithu ei wneud gan asiantaeth gyfieithu trydydd parti gymeradwy. Mae’r asiantaeth hefyd yn rhoi cefnogaeth a chyngor ieithyddol parhaus i ganghennau, asiantaethau, y brif swyddfa ac i ymgyrchoedd yn ôl yr angen.

3.4 Cyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau
Anogir pobl sy’n dod i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghymru i gyfrannu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Rydym hefyd yn cynnig cyfieithiad clywedol byw ar gyfer ein Haelodau sy’n siarad Cymraeg sy’n dod i’r digwyddiad. Yn ein digwyddiadau Adborth Aelodau ledled Cymru, byddwn yn cynnig cyfieithiad clywedol byw yn yr ardaloedd lle mae angen hynny.

Cyhoeddir ein Hadroddiad a’n Cyfrifon Blynyddol, ein Datganiad Ariannol Cryno ac amrywiaeth o wybodaeth a chyhoeddusrwydd ynglŷn â chyfarfodydd yn ddwyieithog.

4. Ein Delwedd Gyhoeddus

4.1 Peiriannau arian parod
Mae pob un o’n peiriannau arian parod yn cynnig y dewis o gynnal busnes yn Gymraeg.

4.2 Arwyddion
Mae’r rhan fwyaf o’n harwyddion parhaol a’r arwyddion dros dro yn y rhannau cyhoeddus mewnol ac allanol yn ein canghennau yn ddwyieithog, a rhoddir amlygrwydd cyfartal iddynt o ran fformat, maint ac ansawdd.

4.3 Ein gwefan
Mae’r Principality yn cynnig gwasanaeth ar-lein ac mae’r rhan fwyaf o’r wefan ar gael yn y ddwy iaith. Caiff ymwelwyr â’r wefan ddefnyddio botwm i ddewis cysylltu â’r fersiwn Gymraeg neu’r fersiwn Saesneg. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bob gwasanaeth iaith Gymraeg arall y mae’r Gymdeithas yn ei gynnig yn ogystal â gwybodaeth am gynhyrchion, datganiadau i’r wasg, gwybodaeth am y Bwrdd, canlyniadau blynyddol a llawer mwy.

Wrth gynllunio gwefannau newydd neu ailddatblygu ein gwefan bresennol byddwn yn parhau i ystyried ein Polisi Iaith Gymraeg a chanllawiau a safonau Comisiynydd y Gymraeg.

4.4 Papur ysgrifennu
Mae papur safonol â phennawd y Principality a’n slipiau cyfarchion yn cynnwys logo dwyieithog y brand a negeseuon dwyieithog.

4.5 Deunydd argraffedig - llyfrynnau, taflenni a phosteri
Mae’r Principality yn cynhyrchu amrywiaeth o lenyddiaeth yn y Gymraeg. Ystyrir cynhyrchu eitemau yn Gymraeg ar sail unigol drwy edrych ar nifer o ffactorau gan gynnwys y galw gan y canghennau a’r cwsmeriaid.

Mae ein cyfathrebiadau statudol a ddefnyddir yn aml, gan gynnwys ein cyfriflen cynilion a’n llythyrau am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r cyfathrebiadau hyn yn cyflwyno’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd.

4.6 Digwyddiadau
Pan fyddwn yn dewis gweithwyr i fynd i gyfarfodydd neu ddigwyddiadau cyhoeddus, ein harfer safonol fydd sicrhau bod gweithwyr dwyieithog addas yn bresennol, yn ôl yr angen.

Os nad oes siaradwr Cymraeg addas ar gael pan fydd gofyn am un, byddwn yn cynnig parhau â’r cyfarfod yn Saesneg, neu ymdrin â’r mater ar adeg arall pan fydd siaradwr Cymraeg ar gael, yn hytrach nag yn y cyfarfod neu’r digwyddiad.

4.7 Cysylltiadau â’r Cyfryngau
Ceisiwn sicrhau bod pob cyhoeddiad i’r wasg sy’n gysylltiedig â Pholisi Iaith Gymraeg, canlyniadau blynyddol neu gyhoeddiadau allweddol eraill y Principality ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Bydd y rhan fwyaf o’n cyhoeddiadau i’r wasg hefyd ar gael yn y Gymraeg ar ein gwefan. Rydym ni’n sicrhau bod aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i siarad ar ein rhan fel y bo’n briodol a bydd fersiynau Cymraeg o bob datganiad newyddion arall ar gael ar gais.

4.8 Hysbysebu
Mae ein hysbysebion lleol yn y Gymraeg neu’r Saesneg neu’n ddwyieithog fel y gwelir yn fwyaf addas ar gyfer y gynulleidfa. Mae ein hysbysebion ar S4C yn cael eu darlledu yn bennaf yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

5. Y Gymuned

Rydym ni wedi bod yn cefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol ers dros 35 mlynedd er mwyn dathlu traddodiadau diwylliannol, iaith a threftadaeth Cymru. Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r wŷl fwyaf o’i bath yn Ewrop, a hi yw prif wŷl iaith Gymraeg Cymru. Fe’i cynhelir ddechrau mis Awst mewn sir wahanol o Gymru bob blwyddyn, ac rydym ni’n falch o fod yr unig ddarparwr gwasanaethau ariannol ar faes yr wŷl.

Mae ein gweithgareddau yn y gymuned hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg ac mae ein cydweithwyr wedi rhoi llawer o amser a chefnogaeth i nifer o ddigwyddiadau, timau chwaraeon, ysgolion a grwpiau cymunedol eraill ledled Cymru.

Bob blwyddyn mae’r Principality hefyd yn cefnogi gwahanol Elusen y Flwyddyn yng Nghymru. Gwahoddir ein gweithwyr i enwebu ac yna pleidleisio dros elusen y byddent yn hoffi ei chefnogi, ar yr amod bod yr elusen yn gweithredu’n ddwyieithog a’i bod yn gweithredu mewn rhanbarth yng Nghymru. Bob blwyddyn bydd ein gweithwyr ymroddedig yn codi miloedd o bunnau i gefnogi ein helusen, a ddefnyddir wedyn i wella bywydau pobl ym mhob rhan o Gymru.

6. Gweithredu a Monitro’r Polisi

Defnyddir yr iaith Gymraeg yn naturiol gan lawer o gydweithwyr ac Aelodau’r Principality yn rhan o’u bywydau bob dydd. Bydd y Principality yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ei changhennau, ei hasiantaethau a’r brif swyddfa.

Bydd Pwyllgor Rheoli Grŵp y Principality yn sicrhau bod gweithwyr y Principality yn ymwybodol o bob un o’r egwyddorion yn y Polisi hwn.

Sicrheir hefyd bod cydweithwyr yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau i’r Polisi a bydd y rhain yn cael eu diwygio ar wefan y Principality.

Caiff y Polisi ei adolygu gan ein Pwyllgor Rheoli Grŵp bob blwyddyn.

6.1 Staffio, recriwtio a hyfforddiant
Nod y Principality yw sicrhau ein bod yn cyflogi siaradwyr Cymraeg sydd â’r sgiliau priodol fel ein bod yn gallu cyfathrebu gyda’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.

O ran swyddi sy’n golygu bod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol, bydd hynny’n cael ei nodi yn yr hysbysebion swyddi perthnasol a bydd yr hysbyseb ar gael yn Gymraeg ar y wefan.

Bydd y Gymdeithas yn annog ac yn cefnogi ei gweithwyr i ddysgu Cymraeg a’i defnyddio mewn canghennau, asiantaethau ac yn y brif swyddfa.

6.2 Monitro
Bydd ein Polisi Iaith Gymraeg yn cael ei fonitro’n rheolaidd gan Bwyllgor Rheoli Grŵp y Principality. Bydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Polisi hwn ac unrhyw newidiadau.

Byddwn yn anfon y Polisi hwn i Gomisiynydd y Gymraeg, gan amlinellu’r cynnydd a wnaed gyda’r Polisi.

7. Sylwadau Ac Awgrymiadau Ar Gyfer Gwelliant

Dylai unrhyw un sydd eisiau gwneud sylw neu awgrym ar gyfer gwelliant ynglyn â Pholisi Iaith Gymraeg y Principality gysylltu â’r Principality yn un o’n canghennau, ffonio ein canolfan gyswllt ar 0330 333 4000, neu ysgrifennu i: Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Blwch Post 89, Adeiladau’r Principality, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Rhestr Termau

Asiantaethau
Mae asiantaeth fancio yn golygu ‘cownter’ sy’n eiddo annibynnol ac sydd ar gael mewn swyddfeydd asiantau gwerthu tai, cyfreithwyr neu asiantau yswiriant. Fe’u defnyddir i ategu ein prif ganghennau ac maent yn cynnig ffordd arall o gynnal amrywiaeth o drafodion wyneb yn wyneb.

Dwyieithog
Y gallu i ddefnyddio dwy iaith yr un mor rhugl â’i gilydd neu bron yr un mor rhugl.

Aelod
Unigolyn 18 oed neu hŷn sydd â buddsoddiad cyfranddaliadau neu fenthyciad morgais gyda’r Gymdeithas o dros £100 yn ystod y flwyddyn.

Digwyddiad Adborth Aelodau
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol llai yw digwyddiad Adborth Aelodau, sy’n cael ei gynnal mewn gwahanol rannau o Gymru bob blwyddyn. Rydym wedi bod yn cynnal ein digwyddiadau Adborth ledled Cymru ers 2009, i roi cyfle i’n Haelodau rannu eu barn â’n tîm rheoli uwch. Fel arfer byddwn yn cynnal tri digwyddiad y flwyddyn o leiaf. Byddwn yn eu defnyddio i drafod ein perfformiad diweddar, i rannu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac i ateb cwestiynau gan Aelodau.

Principality. Lle mae cartref yn bwysig.