Taflen ffeithiau Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol

Rydym yn aelod o Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol a sefydlwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000. Fel un o gwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu’r Principality, mae eich cyfrif/cyfrifon gyda ni wedi’u diogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol hyd at uchafswm o £50,000 yr unigolyn, oni bai eich bod yn un o’r canlynol:

  • Cwmni mawr
  • Partneriaeth fawr
  • Cymdeithas gydfuddiannol fawr
  • Awdurdod lleol, taleithiol neu fwrdeistrefol
  • Sefydliad credyd
  • Sefydliad gwasanaethau ariannol dramor
  • Cronfa bensiwn ac ymddeol neu ymddiriedolwr cronfa o’r fath
  • Awdurdod gweinyddol y llywodraeth neu awdurdod gweinyddol canolog
  • Cwmni o fewn grŵp Cymdeithas Adeiladu’r Principality
  • Unigolyn sy’n dal 5% neu fwy o gyfalaf Cymdeithas Adeiladu’r Principality neu unrhyw gwmni yn y grŵp
  • Archwilwyr Cymdeithas Adeiladu’r Principality a’i grŵp
  • Unigolyn sy’n cael ei ystyried yn gyfrifol am ddiffygdalu Cymdeithas Adeiladu’r Principality sy’n sbarduno Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol
  • Unigolyn y mae ei hawliad yn deillio o drafodion sy’n ymwneud â chollfarn a gafodd am wyngalchu arian.

Cwmpesir 100% o adneuon o £50,000 fesul buddsoddwr. Os oes gennych forgais gyda ni hefyd, caiff unrhyw swm sy’n ddyledus i chi ei gymhwyso gyntaf i leihau balans unrhyw forgais sy’n weddill a all fod gennych.

O ran rhoi cyngor ar forgeisi a’u trefnu, cwmpesir 100% o’r £30,000 cyntaf a 90% o’r £20,000 nesaf, felly’r uchafswm iawndal yw £48,000.

O ran y rhan fwyaf o fathau o fusnes buddsoddi, ac eithrio adneuon, cwmpesir 100% o’r £30,000 cyntaf a 90% o’r £20,000 nesaf, felly’r uchafswm iawndal yw £48,000.

O ran rhoi cyngor ar yswiriant a’i drefnu, cwmpesir 100% o’r £2,000 cyntaf a 90% o weddill yr hawliad, heb unrhyw derfyn uchaf.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am drefniadau’r cynllun iawndal gan yr FSCS http://www.fscs.org.uk/.

GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALUR AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS

Gwybodaeth bwysigPolisi preifatrwyddHygyrcheddNewyddionSwyddiDiogelwchMap o'r safle

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ar gyfer adneuo arian, morgeisi a gwerthu a rhoi cyngor ar yswiriant cyffredinol, buddsoddiadau, aswiriant bywyd a phensiynau (rhif awdurdod 155998). Nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi sy'n ymwneud masnachu neu fusnesau.

1 3 4 6 8 9 0 a b u n j c e