Croeso i'r Principality
Ers 1860, mae ein Haelodau wedi ymddiried ynom i ofalu am eu
harian ac i wneud iddo weithio iddynt. Rydym yn falch o fod wrth
wraidd y cymunedau yng Nghymru rydym yn gweithredu ynddynt, gan
gefnogi chwaraeon a diwylliant lleol. Darllenwch ein taflen wybodaeth am fwy o
wybodaeth.
< Nôl i Cynilion a Buddsoddiadau
Cyfrif Cynilo Rheolaidd Dylan
Mae cyfrif cynilo i blentyn yn ffordd wych o roi cychwyn
ariannol cadarn iddo mewn bywyd ac nid yw'n anodd dod i'r arfer o
gynilo'n rheolaidd. Dyna pam y gall ein cyfrif Cynilo Rheolaidd
Dylan - sydd ar gael i unrhyw un o dan 16 oed - fod yn addas i
chi.
| Beth mae Cyfrif Cynilo Rheolaidd Dylan yn ei
gynnig? |
- Ffordd wych a hawdd i blentyn gynilo arian.
- Cyfradd llog sefydlog gystadleuol ar eu cynilion
rheolaidd.
- Cyfradd llog sefydlog am flwyddyn o ddyddiad agor y
Cyfrif.
- Gellir buddsoddi hyd at £1,800 dros gyfnod o 12 mis.
- Mae'n rhaid gwneud cais am y Cyfrif yn enw'r plentyn.
Gwnewch gais
nawr
|
| Blwch Crynhoi - Gwybodaeth Allweddol am
ein Cyfrif(on) Cynilo |
| Enw'r Cyfrif |
Bond Cynilo Rheolaidd Dylan Dyroddiad 2 |
| Cyfradd Llog (AER) |
AER** |
Gros* |
Net# |
| 4.50% |
4.50% |
3.60% |
| Statws Treth |
Fel arfer nid oes raid i blant dalu treth ar eu
cynilion, ond bydd angen i chi gwblhau ffurflen R85 ar ran eich
plentyn, a'i rhoi i ni, er mwyn iddo gael llog yn ddi-dreth.† |
| Amodau ar gyfer taliadau bonws Uchafswm Oedran |
Ddim yn berthnasol |
| Uchafswm Oedran |
16 |
| |
Isafswm |
Uchafswm |
| Taliad cyntaf |
£10 |
£150 |
| Taliad misol |
£10 |
£150 |
| Trefniadau codi arian |
Ni chaniateir codi arian cyn y dyddiad
Aeddfedu. |
| Cau |
Caniateir cau'r cyfrif. |
| Mynediad |
Mewn Cangen/drwy'r Post. |
| Gwybodaeth Ychwanegol |
- Mae'n rhaid gwneud cais am y Cyfrif yn enw'r
plentyn.
- Bydd llog yn cael ei gyfrifo ar y balans dyddiol a chaiff
ei ychwanegu at y Cyfrif pan fydd wedi aeddfedu. ^
- Mae'n rhaid i'r swm agoriadol (taliad y mis cyntaf) gael
ei dalu drwy arian parod neu siec.
- Gellir gwneud buddsoddiadau misol drwy arian parod, siec neu
archeb sefydlog.
- Os byddwch yn colli buddsoddiad misol, bydd y Cyfrif yn
dychwelyd i Gyfrif Plant a bydd yn ddarostyngedig i delerau'r
Cyfrif hwnnw.
- Os caiff taliadau misol eu hychwanegu at y Cyfrif drwy archeb
sefydlog, mae'n rhaid i daliadau adael y cyfrif sy'n talu ar neu
cyn yr 20fed o'r mis. Os byddwch yn colli taliad o ganlyniad i
fethu â chwblhau a threfnu mandad archeb sefydlog gyda'ch Banc neu
o ganlyniad i unrhyw wall ar ran eich Banc, byddwn yn trin y taliad
fel taliad a gollwyd. Os gall eich Banc ddangos mai ni oedd yn
gyfrifol am y gwall, ni fyddwn yn ei drin fel taliad a
gollwyd.
- Caniateir un Cyfrif fesul plentyn.
- Yn aeddfedu i Gyfrif Plant.
* Gros yw'r gyfradd llog gytundebol
sy'n daladwy cyn didynnu treth incwm ar y gyfradd a nodir gan y
gyfraith.
** Ystyr AER yw'r Gyfradd
Gyfatebol Flynyddol ac mae'n dangos beth fyddai'r gyfradd llog pe
bai llog yn cael ei dalu a'i adlogi unwaith y flwyddyn. Gan y bydd
pob hysbyseb ar gyfer cynnyrch cynilo sy'n nodi cyfradd llog yn
cynnwys AER, byddwch yn gallu cymharu'r enillion y gallwch ddisgwyl
eu cael o'ch cynilion dros amser yn haws.
# Net yw'r gyfradd llog sy'n daladwy
ar ôl didynnu treth incwm ar y gyfradd a nodir gan y
gyfraith.
† Ystyr di-dreth yw na chodir
treth incwm. Mae'r ffordd y caiff treth ei thrin yn dibynnu ar
amgylchiadau unigol, a gall newid yn y dyfodol.
^ Os byddwch yn buddsoddi £150 o
arian parod i'ch Cyfrif bob mis ar yr un diwrnod y cafodd eich
Cyfrif ei agor, cewch £43.88 o log gros ar y dyddiad
Aeddfedu.
|
Er mwyn agor cyfrif bydd angen i chi:
- Gwblhau ffurflen cyflwyno
plentyn.
- Os nad oes gennych gyfrif gyda'r Principality eisoes, bydd
angen i ni weld prawf o bwy ydych.
- Isafswm o £10 (uchafswm buddsoddiad o £150).
- Tystysgrif geni eich plentyn.
- Os buoch yn aelod o'r Principality am fwy na blwyddyn, dewch â
thystiolaeth o'ch llofnod a llythyr wedi'i lofnodi gyda'ch enw a'ch
cyfeiriad arno, gan esbonio perthynas y plentyn â chi - e.e. mab,
merch, nai, nith, ŵyr.
- Os nad oes gennych gyfrif gyda'r Principality eisoes, bydd
angen i ni weld prawf o bwy ydych.
- Os yw eich plentyn yn 14 oed neu'n hŷn, gall fynd i'w gangen
leol o'r Principality ac agor Cyfrif Plant ei hun, ar yr amod bod
ganddo brawf o bwy ydyw. Bydd ein staff yn falch o'i helpu ac yn
fodlon ateb unrhyw gwestiynau.
Os cewch anhawster i ddarparu'r ddogfennaeth ofynnol, cysylltwch
â ni. Gallwch hefyd drefnu archeb sefydlog er mwyn gwneud taliadau
rheolaidd i'r cyfrif.