|
Blwch Crynhoi – Gwybodaeth Allweddol am ein Cyfrif(on)
Cynilo
|
|
Enw’r Cyfrif
|
Cyfrif plant
|
|
Cyfraddau llog (AER)
|
Gros* /AER** |
Net# |
| 0.90% |
0.72% |
|
Statws Treth
|
Caiff treth ei didynnu o’ch llog cyn iddo gael ei dalu i’ch
cyfrif. Os nad ydych yn drethdalwr y DU, bydd angen i chi gwblhau
ffurflen R85 er mwyn i ni allu talu eich llog heb ddidynnu
treth.
|
|
Amodau ar gyfer taliadau bonws
|
Ddim yn gymwys.
|
|
Trefniadau codi arian
|
Nid oes raid i chi roi rhybudd. Gallwch godi rhwng £1 a £500
mewn arian parod o’ch cangen, neu hyd at £25,000 drwy siec. Bydd
angen codi arian yn enw eich plentyn neu ddangos eich bod yn codi
arian er budd eich plentyn.
|
|
Mynediad
|
Mewn cangen
|
Sut gallaf wneud cais?
|
- Gallwch naill ai galw i mewn i’ch
cangen leol i wneud cais neu glicio ar y botwm ‘Gwnewch Gais
Nawr’ isod a chwblhau cais ar-lein.
|
 |
Nodweddion a manteision y cynnyrch
|
- Dim ond i unigolion o dan 18 mlwydd oed y mae’r cyfrif ar
gael.
- Yr isafswm balans yw £1. Uchafswm y cyfraniadau yw
£25,000.
- Telir llog yn flynyddol ar 1 Ionawr. Rhaid talu’r llog yn ôl
i’r cyfrif.
- Cyfradd amrywiol.
- Bydd y cyfrif yn aeddfedu ar ben-blwydd y plentyn yn 18 oed.
Pan fydd wedi aeddfedu, caiff yr arian ei drosglwyddo i Gyfrif
Cynilo Dim Rhybudd (neu gyfrif cyfatebol).
|
Beth mae’r cyfrif yn ei gynnig?
Yn ogystal â chael cyfradd amrywiol
gystadleuol, caiff eich plentyn gadw-mi-gei Dylan y Ddraig am ddim
a phaslyfr personol a gaiff ei ddiweddaru bob tro y byddant yn talu
arian i mewn fel y gallant weld eu harian yn tyfu.
Y cyfan sydd ei angen i agor cyfrif yw
£1 (gallwch agor cyfrif ar ran eich mab, eich merch, eich nith,
eich nai, eich ŵyr neu’ch wyres) a gall unrhyw un ychwanegu arian
pryd bynnag y mynnant.
I agor cyfrif, bydd angen i chi ddod
â’r canlynol i’ch cangen leol:
- Isafswm o £1 i agor y cyfrif (yr uchafswm buddsoddiad yw
£25,000).
- Tystysgrif geni eich plentyn
- Os ydych wedi bod yn aelod o’r Principality am fwy na blwyddyn,
dewch â thystiolaeth o’ch llofnod a llythyr wedi’i lofnodi gyda’ch
enw a’ch cyfeiriad arno, gan esbonio perthynas y plentyn i chi –
e.e. mab, merch, nai, nith, ŵyr, wyres.
- Os nad oes gennych gyfrif gyda’r Principality eisoes, bydd
angen i ni gael prawf o bwy ydych.
- Os yw eich plentyn yn 14 oed neu’n hŷn, gall fynd i’w cangen
leol o’r Principality ac agor Cyfrif Plant ei hun, ar yr amod bod
ganddo brawf o bwy ydyw. Bydd ein staff yn falch o’i helpu ac yn
fodlon ateb unrhyw gwestiynau.
Os cewch anhawster i ddarparu’r ddogfennaeth ofynnol, cysylltwch
â ni. Gallwch hefyd drefnu archeb sefydlog er mwyn gwneud taliadau
rheolaidd i’r cyfrif.
Sut y telir llog?
Bydd eich plentyn yn cael llog blynyddol ar yr arian y bydd
wedi’i gynilo, y byddwn yn ei gyfrifo ar 1af Ionawr. Fel arfer, nid
oes rhaid i blant dalu treth ar eu cynilion. Fodd bynnag, bydd
angen i chi gwblhau ffurflen R85 er mwyn sicrhau na fyddwch chi
na’r plentyn yn talu treth heb angen.
Sut y gall fy mhlentyn godi arian?
Gallwch godi arian o Gyfrif Plant unrhyw bryd. At ddibenion
treth, dylid codi arian yn enw’r plentyn neu dylech ddangos ei fod
er lles eich plentyn. Yr uchafswm y gallwch ei godi mewn un diwrnod
mewn unrhyw un o’n canghennau yw hyd at £500 mewn arian parod neu
£25,000 drwy siec.
* Gros yw’r gyfradd llog gytundebol
sy’n daladwy cyn didynnu treth incwm ar y gyfradd a nodir gan y
gyfraith.
** Ystyr AER yw’r Gyfradd Gyfatebol
Flynyddol ac mae’n dangos beth fyddai’r gyfradd llog pe bai llog yn
cael ei dalu a’i adlogi unwaith y flwyddyn. Gan y bydd pob hysbyseb
ar gyfer cynnyrch cynilo sy’n nodi cyfradd llog yn cynnwys AER,
byddwch yn gallu cymharu’r enillion y gallwch ddisgwyl eu cael o'ch
cynilion dros amser yn haws.
# Net yw’r gyfradd llog sy’n daladwy
ar ôl didynnu treth incwm ar y gyfradd a nodir gan y
gyfraith.