Gwybodaeth Bwysig a’r Telerau ar gyfer Defnyddio’r Safle

Amdanom ni a'n cynhyrchion a'n gwasanaethau

Ni fwriedir i'r wybodaeth ar y safle hwn gael ei gweld gan unrhyw un nad yw'n byw yn y DU. Dim ond i breswylwyr y DU y mae'r cynhyrchion a'r gwasanaethau a welir ar y safle hwn ar gael ac os bydd unrhyw anghydfod cyfreithiol, rheolir y safle hwn gan Gyfraith Lloegr. Byddwn yn llunio contract ac yn cyfathrebu â chi yn Saesneg, ond, cyn belled ag y gallwn, byddwn yn cyfathrebu â chi yn Gymraeg hefyd os ydych wedi gofyn i ni wneud hynny.

Dim ond i eiddo yng Nghymru a Lloegr y mae ein cynhyrchion morgais ar gael.

Dim ond i breswylwyr y DU y mae Cyfrifon Cynilo ar gael.

Mae'r holl gynhyrchion a gwasanaethau'n amodol ar argaeledd a gellir eu tynnu'n ôl neu eu diwygio unrhyw bryd.

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi'i hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) ar gyfer derbyn adneuon, morgeisi preswyl a threfnu a rhoi cyngor ar yswiriant cyffredinol (rhif awdurdodi 155998). Nid yw’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi masnachol na morgeisi sy’n ymwneud â busnes.

Gallwch gadarnhau ein hawdurdodiad ar Gofrestr yr FSA drwy fynd i wefan yr FSA yn http://www.fsa.gov.uk/register/ neu drwy gysylltu â'r FSA ar 0845 606 1234.

Dim ond ein cynhyrchion morgais ein hunain yr ydym yn rhoi cyngor arnynt ac yn eu cynnig.

Nid ydym yn cynnig unrhyw forgeisi masnachol na morgeisi busnes a gaiff eu rheoleiddio gan yr FSA. Ni fydd llawer o forgeisi prynu-i-osod wedi'u rheoleiddio gan yr FSA chwaith. Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi o ran p'un a fydd morgais yn cael ei reoleiddio gan yr FSA yn ystod y broses werthu.

O ran ein cynhyrchion yswiriant cyffredinol, dim ond cynhyrchion gan nifer cyfyngedig o ddarparwyr y byddwn yn rhoi cyngor arnynt ac yn eu cynnig.

O ran cyngor ar fuddsoddi a chynllunio ariannol, mae’r Gymdeithas yn cyflwyno i Aviva Life Services UK Limited yn unig, a gaiff ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Bydd unrhyw gyngor ariannol a roddir yn ymwneud â chynhyrchion a gwasanaethau’r gymdeithas a chwmnïau UK Life Aviva.

Aviva Life Services Limited. Cofrestredig yn Lloegr Rhif 2403746. Cyfeiriad cofrestredig: 2 Rougier Street, York, YO90 1UU.

O ran Morgeisi gydol oes a’r cynllun Dychweliad Cartref, mae’r Gymdeithas yn cyflwyno i Aviva Equity Release UK Limited yn unig, a gaiff ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

O ran Baby Bond® y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, dim ond cyflwynydd i The Children's Mutual ydym. The Children's Mutual yw enw masnachu Tunbridge Wells Equitable Marketing Group, sy'n cynnwys: Tunbridge Wells Equitable Friendly Society Limited, a ymgorfforwyd yn y Deyrnas Unedig o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992, rhif cofrestredig 190F, Rhif cofrestredig yr FSA 109990; a Tunbridge Wells Equitable Investments Company Limited, a gofrestrwyd yn Lloegr o dan Ddeddf Cwmnïau 1985, rhif cofrestredig 4315370, Rhif cofrestredig yr FSA 208027. Cânt eu hawdurdodi a'u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Ni ddylid ystyried unrhyw wybodaeth a roddir ar y safle hwn yn gyngor ariannol. Os bydd angen cyngor arnoch ar unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a gynigir gennym, yna gofynnir i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol fel y nodir ar y safle

Nid ydym yn gyfrifol am ddiogelwch na chynnwys gwefannau trydydd parti y gallai fod cysylltiadau iddynt ar y safle hwn ac nid ydym yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw gynhyrchion na gwasanaethau a hysbysebir arnynt.

Mae gweithdrefn gwyno. gennym ar waith. Gallwch gael rhagor o fanylion mewn unrhyw gangen neu drwy gysylltu â'n Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid os bydd gennych gŵyn. Gellir cyfeirio unrhyw gwynion na allwn eu datrys at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Rydym yn aelod o Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS) a sefydlwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000. Fel un o gwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu’r Principality, mae eich cyfrif/cyfrifon gyda ni wedi’u cwmpasu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol hyd at uchafswm o £50,000 fesul unigolyn, oni bai eich bod yn un o’r canlynol:

  • Cwmni mawr
  • Partneriaeth fawr
  • Cymdeithas gydfuddiannol fawr
  • Awdurdod lleol, taleithiol neu drefol
  • Cyfarwyddwr neu reolwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality neu’n berthynas agos i gyfarwyddwr neu reolwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality
  • Sefydliad credyd
  • Sefydliad gwasanaethau ariannol dramor
  • Cronfa bensiwn ac ymddeol neu ymddiriedolwr cronfa o’r fath
  • Awdurdod gweinyddol y llywodraeth neu awdurdod gweinyddol canolog
  • Cwmni o fewn grŵp Cymdeithas Adeiladu’r Principality
  • Unigolyn sy’n dal 5% neu fwy o gyfalaf Cymdeithas Adeiladu’r Principality neu unrhyw gwmni yn y grŵp
  • Archwilwyr Cymdeithas Adeiladu’r Principality a’i grŵp
  • Unigolyn yr ystyrir ei fod yn gyfrifol am ddiffygdalu Cymdeithas Adeiladu’r Principality sy’n sbarduno’r FSCS.
  • Unigolyn y mae ei hawliad yn deillio o drafodion sy’n ymwneud â chollfarn a dderbyniwyd am wyngalchu arian.

Cwmpesir 100% o adneuon o £50,000 fesul buddsoddwr. Os oes gennych forgais gyda ni hefyd, caiff unrhyw swm sy'n ddyledus i chi ei gymhwyso gyntaf i leihau balans unrhyw forgais sy'n weddill a all fod gennych.

O ran rhoi cyngor ar forgeisi a'u trefnu, cwmpesir 100% o'r £30,000 cyntaf a 90% o'r £20,000 nesaf, felly'r uchafswm iawndal yw £48,000.

O ran y rhan fwyaf o fathau o fusnes buddsoddi, ac eithrio adneuon, cwmpesir 100% o'r £30,000 cyntaf a 90% o'r £20,000 nesaf, felly'r uchafswm iawndal yw £48,000.

O ran rhoi cyngor ar yswiriant a'i drefnu, cwmpesir 100% o'r £2,000 cyntaf a 90% o weddill yr hawliad, heb unrhyw derfyn uchaf.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am drefniadau'r cynllun iawndal gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol yn www.fscs.org.uk.

Er mwyn ein helpu i gynnal ein gwasanaethau a’n safonau diogelwch, gallwn fonitro neu recordio galwadau ffôn.

Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd i wneud cais am forgais gennym. Argymhellwn hefyd y dylech ystyried eich yswiriant bywyd a'ch trefniadau diogelu incwm pan fyddwch yn ystyried trefnu morgais. Bydd unrhyw gais a wnewch yn destun asesiad o'ch statws ariannol a'ch gallu i fforddio morgais.

Gweithdrefn gwyno

Cliciwch yma i weld manylion am ein gweithdrefn gwyno

Rheolau Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Cliciwch yma i ddarllen y ddogfen ‘Rheolau Cymdeithas Adeiladu’r Principality’ (pdf, 346KB)

GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS

Gwybodaeth bwysigPolisi preifatrwyddHygyrcheddNewyddionSwyddiDiogelwchMap o'r safle

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (rhif awdurdod 155998). Nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi sy'n ymwneud masnachu neu fusnesau.

1 3 4 6 8 9 0 a b u n j c e