Hygyrchedd y wefan

Rydym am i'n gwefan fod yn hygyrch i bawb, ac i helpu i gyflawni hyn, mae'r wefan yn cynnwys bysellau cyrchu fel eich bod yn gallu symud drwy'r wefan yn hawdd i'r dudalen y mae gennych ddiddordeb ynddi. Mae gennym hefyd gyfarwyddiadau ar sut i addasu'ch cyfrifiadur personol os bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych ei heisiau. Cliciwch ar y cysylltiadau isod i gael mwy o wybodaeth.

Defnyddio'r bysellau cyrchu
Gosod eglurder y sgrîn
Newid cynllun lliw y system
Rheoli drwy'r llygoden
Bysellfwrdd
Cysylltiadau defnyddiol

Defnyddio'r bysellau cyrchu

Mae'r wefan hon yn cynnwys "bysellau cyrchu". Maent yn llwybr brys sy'n fodd i chi fynd i rai rhannau o'r wefan yn gyflymach a'ch helpu os cewch anawsterau wrth ddefnyddio llygoden. Rydym wedi defnyddio bysellau cyrchu i leoli'r prif gysylltiadau ar y wefan a hefyd i gyrchu blychau testun a botymau.

Rydym wedi defnyddio safon bysellau cyrchu Llywodraeth y DU, fel yr argymhellir gan Swyddfa'r E-Gennad. Mae'r ffordd rydych yn defnyddio'r bysellau cyrchu yn dibynnu ar y system weithredu rydych yn ei defnyddio. Os oes gennych gyfrifiadur personol ac yn defnyddio Microsoft Windows, yna bydd yn rhaid i chi wasgu'r fysell "ALT" wrth wasgu'r fysell cyrchu. Os ydych yn defnyddio system Apple, yna bydd yn rhaid i chi wasgu'r fysell "CMD".

Ar y wefan hon rydym wedi defnyddio'r bysellau cyrchu a restrir isod:

S – Dim gwe-lywio
1 - Hafan
3 – Map o'r wefan
4 - Chwilio
6 – Tudalen gymorth
8 – Termau ac amodau
9 – Tudalen adborth
0 – Bysell cyrchu symud drwy'r wefan

I wneud pethau hyd yn oed yn fwy hygyrch, gallwch hefyd ddefnyddio'r llwybrau brys hyn:

a – Amdanom ni
b - Canghennau
u – Yn agos atoch
n – Ystafell newyddion
j - Swyddi
c - Cymraeg
e - English

Mae'r ffordd y defnyddiwch fysellau cyrchu yn dibynnu ar p'un a oes gennych gyfrifiadur personol neu Apple Mac, a hefyd pa borwr sydd gennych.

Ar gyfer cyfrifiadur personol:

Internet Explorer 5 +:

  • Gwasgwch y fysell ALT.
  • Yna ar yr un pryd gwasgwch y rhif neu'r llythyren (gweler y bysellau cyrchu fel y rhestrir uchod) a gwasgwch y fysell Enter (neu Return).

Internet Explorer 4:

  • Gwasgwch y fysell ALT.
  • Yna ar yr un pryd gwasgwch y rhif neu'r llythyren (gweler y bysellau cyrchu fel y rhestrir uchod).

Netscape 6 +:

  • Gwasgwch y fysell ALT.
  • Yna ar yr un pryd gwasgwch y rhif neu'r llythyren (gweler y bysellau cyrchu fel y rhestrir uchod).

Ar gyfer Mac

Internet Explorer 5 +:

  • Pwyswch a gwasgwch y fysell Control.
  • Yna pwyswch y rhif neu'r llythyren priodol (gweler y bysellau cyrchu fel y rhestrir uchod) a gwasgwch y fysell Enter (neu Return).

Internet Explorer 4.5:

Nid oes modd defnyddio bysellau cyrchu.

Netscape 6 +:

  • Gwasgwch y fysell Control
  • Yna ar yr un pryd gwasgwch y rhif neu'r llythyren priodol (gweler y bysellau cyrchu fel y rhestrir uchod).

Netscape, fersiynau cynharach:

Nid oes modd defnyddio bysellau cyrchu.

Yn ôl i fynegai hygyrchedd y wefan


Gosod eglurder y sgrîn

Mae hyn yn ffactor pwysig o ran faint o wybodaeth y gall eich monitor ei harddangos. Ydych chi wedi sylwi sut y mae popeth yn edrych yn fawr iawn ar eich sgrîn, neu fod llawer o'r gwe-dudalennau rydych yn edrych arnynt yn gofyn i chi sgrolio o'r chwith i'r dde yn ogystal ag i lawr? Mae hynny oherwydd bod eich ardal sgrîn wedi'i gosod yn rhy isel, gan ei gwneud yn bosibl i ychydig o wybodaeth yn unig gael ei harddangos. Drwy gynyddu nifer y picseli y gall eich monitor eu harddangos, gallwch weld mwy ar eich sgrîn waeth beth fo'r dimensiynau go iawn!

Cyfarwyddiadau ar gyfer Windows 95/98/NT

  • Cliciwch y botwm Start (ar gornel gwaelod chwith y sgrîn).
  • O'r ddewislen Settings, cliciwch ar 'Control Panel'.
  • Cliciwch ddwywaith ar Display i'w agor.
  • Cliciwch ar y tab Settings.
  • Llusgwch yr Arddangoswr neu'r llithrydd ardal sgrîn i'r dde nes ei fod yn darllen 1024 wrth 760 neu fwy. Os nad yw hyn ar gael ar y cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio, dewiswch 800 wrth 600. [Nodwch y bydd yn rhaid i chi sgrolio mwy ar we-dudalennau pan yn defnyddio'r cynnig llai hwn.]
  • Cliciwch ar OK i arbed y newidiadau.
  • Ar ôl i'r sgrîn newid ei siâp, cliciwch ar y botwm OK eto i gadarnhau'r maint sgrîn newydd.

NEU

  • Lleihewch bob ffenestr sydd ar agor.
  • Cliciwch gyda'r botwm dde unrhyw le ar y bwrdd gwaith gan sicrhau nad ydych yn clicio ar eicon.
  • Dewiswch Properties o'r neidlen.
  • Ar y ffenestr sy'n ymddangos cliciwch ar y tab Settings.
  • Byddwch yn gweld llithrydd o'r enw ardal Desktop. Symudwch y llithrydd i 800 x 600 picsel, cliciwch ar OK.
  • Bydd neidlen o'r enw Display Properties yn ymddangos  gyda'r testun: "Windows will now adjust your display settings". Gallai hyn gymryd ychydig o eiliadau, ac efallai bydd eich sgrîn yn fflachio. Os na fydd Windows yn ailymddangos yn gywir, arhoswch 15 eiliad, a bydd eich gosodiad gwreiddiol yn cael ei adfer.
  • Cliciwch ar OK i weld eich sgrîn yn newid a bydd Windows yn gofyn: Do you want to keep this setting?
  • Cliciwch Yes.

Cyfarwyddiadau ar gyfer Mac OS X

  • Gadewch bob cymhwysiad a dewiswch Control Panels/Monitors o'r ddewislen Apple.
  • Cliciwch ar y botymau Monitors & Sound.
  • O dan yr opsiwn Resolution, cliciwch y gosodiad 800x600, neu'r un agosaf i hwnnw.
  • Caewch y ffenestr Monitors.

Yn ôl i fynegai hygyrchedd y wefan

 

Newid lliwiau, ffontiau a maint testun yn eich porwr

Gallwch newid nodweddion ar eich porwr  a rheoli'r ffordd y mae'r gwefannau yn ymddangos. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych olwg gwael, angen ffontiau mwy, neu angen lliwiau gwrthgyferbyniol neu wahanol i'r rhai sydd wedi'u gosod. Gan ddefnyddio'r opsiynau sydd ar gael yn eich porwr, gallwch newid:

  • Maint, arddull a lliw ffontiau
  • Lliwiau cefndir gwefannau
  • Y lliwiau a ddefnyddir i ddangos hypergysylltiadau, cysylltiadau gwe gweithredol a chysylltiadau gwe yr ymwelwyd â hwy

Mae'r ffordd y gwnewch hyn yn dibynnu ar ba borwr a ddefnyddiwch. Isod mae camau ar gyfer gwneud y newidiadau hyn yn Internet Explorer a Netscape.

Internet Explorer 5.x (ar gyfer cyfrifiadur personol)

I olygu lliwiau

  • Cliciwch ar Tools o opsiynau dewislen y porwr (cornel dde uchaf y ffenestr).
  • Dewiswch Internet options.
  • Cliciwch ar y botwm Colours ar waelod y sgrîn neidlen.
  • Dewiswch yr opsiwn lliw sydd orau i chi, ac yna cliciwch OK i arbed y newidiadau.

I olygu ffontiau

  • Cliciwch ar Tools o opsiynau dewislen y porwr (cornel dde uchaf y ffenestr).
  • Dewiswch Internet options.
  • Cliciwch ar y botwm Fonts ar waelod y sgrîn neidlen.
  • Dewiswch y ffont sydd orau i chi, ac yna cliciwch OK i arbed y newidiadau.

I newid maint y testun

  • Cliciwch View o opsiynau dewislen y porwr (cornel dde uchaf y ffenestr).
  • Dewiswch Text size, a dewiswch yr opsiwn sydd orau i chi.

I anwybyddu gosodiad dylunio gwe-dudalen

  • Cliciwch ar Tools o opsiynau dewislen y porwr (cornel dde uchaf y ffenestr).
  • Dewiswch Internet options.
  • Cliciwch y botwm Accessibility ar waelod y naidlen.
  • Ticiwch unrhyw opsiynau rydych am eu hanwybyddu a chliciwch OK i arbed y newidiadau.

Nodwch:Ar gyfer Internet Explorer 4, gellir cael gafael ar yr opsiynau hyn drwy ddewis 'View' o opsiynau dewislen y porwr.

Internet Explorer 5.x (ar gyfer Apple Mac)

I newid maint y testun

  • Cliciwch ar Edit o opsiynau dewislen y porwr (cornel dde uchaf y ffenestr).
  • O'r ddewislen sy'n ymddangos, dewiswch Preferences.
  • Cliciwch ar Web content.
  • Dad-ddewiswch y botwm a nodwyd yn Show style sheets.
  • Dychwelwch i'r rhestr o ddewisiadau.
  • Cliciwch ar Web browser.
  • Dewiswch Language/fonts.
  • Dewiswch faint y ffont sydd ei angen arnoch.

Netscape

  • Cliciwch ar Edit o opsiynau dewislen y porwr (cornel dde uchaf y sgrîn).
  • Dewiswch Preferences.
  • Agorwch y grŵp opsiynau Appearance.

I olygu lliwiau

  • Cliciwch ar Colours.
  • Dewiswch y lliwiau rydych eu heisiau ar gyfer testun, cefndir, cysylltiadau yr ymwelwyd â hwy a rhai nad ymwelwyd â hwy.
  • I anwybyddu'r lliwiau a ddefnyddir gan ddylunydd y we-dudalen, dewiswch 'Always use my colours, overriding document'.
  • Cliciwch ar OK i arbed newidiadau.

I olygu ffontiau a maint ffontiau

  • Cliciwch ar Fonts.
  • Wrth yml For the encoding dylai ddweud 'Western', i ddweud wrth y cyfrifiadur pa fath o lythrennau a symbolau i'w defnyddio.
  • O Size dewiswch faint y ffont sy'n addas i chi (er enghraifft, 18).
  • O'r blwch llam-restr wrth ymyl y mae Variable Width Font, dewiswch Ariel.
  • Dylai'r blwch Fixed Width Font eisoes ddweud 'Courier New'. O'r 'Size' dewiswch 18.
  • I anwybyddu'r ffontiau a ddefnyddir gan ddylunydd y we-dudalen, dewiswch Use my default fonts overriding document specified fonts.
  • Cliciwch ar OK i arbed newidiadau.

Newid y cynllun lliw ar gyfer Windows neu Mac-OS

Gallwch ddewis eich lliw a'ch ffont eich hun, er bod mwy o opsiynau ar gael ar gyfer newid y gosodiadau yn Windows.

Windows

  • Cliciwch ar Start (cornel chwith waelod y sgrîn).
  • Dewiswch Settings, ac yna Control Panel.
  • Agorwch yr adran Display naill ai drwy glicio'r eicon ddwywaith gyda'r botwm chwith, neu drwy oleubwyntio'r eicon a gwasgu Enter.
  • Cliciwch ar y tab Appearance i weld yr opsiynau sydd ar gael yn yr adran hon.

Yna naill ai:

  • Cliciwch ar y saeth yn y blwch 'Colour scheme' i weld yr opsiynau cynllun lliw sydd ar gael.
  • Sgroliwch lawr y rhestr i weld rhagolwg o bob un a, phan fyddwch wedi gweld un sy'n addas, gwasgwch Enter i'w ddewis. (Mae gan rai o'r cynlluniau lliw hyn fersiynau ffont mawr.)

Neu

  • Cliciwch ar y saeth yn y blwch Item i arddangos yr holl opsiynau y gallwch newid eu lliw.
  • Dewiswch yr eitem rydych am ei newid, ac yna agorwch yr opsiynau lliw drwy glicio'r botwm Colour. (Bydd clicio ar other yn y blwch Lliw yn rhoi'r ystod lawn o liwiau sydd ar gael ar y system i chi.)
  • Dewiswch y lliw rydych ei eisiau ar gyfer yr eitem honno.
  • Ailadroddwch hyn ar gyfer pob eitem rydych am newid ei liw, yna cliciwch OK i arbed y newidiadau i'ch system.

Mac OS 8.5, 9.x

Y brif ffordd o newid ymddangosiad eich Mac yw drwy ddefnyddio'r adran Appearance o fewn y panel rheoli appearance. Mae'n gadael i chi ddewis varation colour ar gyfer ffenestri a highlight colour ar gyfer testun. (Y lliw goleubwynt yw'r lliw a welwch pan fyddwch yn dewis testun mewn rhaglen neu'n clicio ar eicon ac yn taro 'return' i'w ail-enwi. Y lliw amrywiol, fel y mae'n dweud o dan y ddewislen llam-rhestr, yw'r lliw a ddefnyddir pan ddewiswch eitem mewn dewislen.)

  • Dewiswch Appearance Control Panel o'r opsiynau ar frig y ffenestr.
  • Dewiswch Appearance.
  • Cliciwch ar Highlight colour yn y ddewislen llam-rhestr i ddangos yr opsiynau lliw.
  • Cliciwch ar Variation colour yn y ddewislen llam-rhestr i ddangos yr opsiynau lliw.

I newid y ffontiau ar y system

  • Dewiswch Appearance Control Panel o'r opsiynau ar frig  y ffenestr.
  • Dewiswch y tab Fonts.
  • Dewiswch eich opsiynau o'r dewislenni llam-rhestr ar gyfer y ffontiau Large system font, Small system font a Views.

[Defnyddir y Ffont System Fawr ym mar teitl y ffenestri, y bar ddewislen a'r dewislenni a'r tabs. Mae'r Ffont System Fach ar gyfer testun esboniadol a labeli. Defnyddir y Ffont Views ar gyfer enwau ffeiliau.]

Pan fyddwch wedi gwneud yr holl ddewisiadau. cliciwch ar 'Save theme' i arbed eich newidiadau.

Yn ôl i fynegai hygyrched y wefan

 

Gosodiadau llygoden

Windows

Gallwch newid tri gosodiad o'r gosodiadau llygoden.

  • Cliciwch ar y botwm Start yng nghornel chwith waelod y sgrîn.
  • Dewiswch Settings, ac yna Control Panel.
  • Agorwch yr adran Mouse naill ai drwy glicio'r eicon ddwywaith gyda'r botwm chwith, neu drwy oleubwyntio'r eicon a gwasgu Enter.

I newid cyflymder y clic, a p'un ai ar gyfer defnydd llaw dde neu law chwith:

  • Cliciwch ar y tab Buttons.
  • Dewiswch right- neu left-handed.
  • Dewiswch single neu double click ar gyfer agor eitemau.
  • Llusgwch y llithrydd draw i ddewis y cyflymder ar gyfer clicio ddwywaith.
  • Cliciwch ar Apply i arbed eich newidiadau.

I newid gwelededd a maint 'pwyntyddion' y llygoden:

  • Cliciwch ar y tab Pointers.
  • Dewiswch gynllun y pwyntyddion o'r ddewislen llam-rhestr (ceir rhagolwg yn y blwch ar y dde).
  • Cliciwch ar Apply i arbed eich newidiadau.

I newid symudiad y llygoden:

  • Cliciwch ar y tab Motion.
  • Llusgwch y llithrydd draw i ddewis y cyflymder rydych ei eisiau ar gyfer y llygoden.
  • Dewiswch y cyflymder sy'n well gennych.
  • Cliciwch ar Apply i arbed eich newidiadau.

Mac OS X

Mae gan yr Apple Mac nodweddion hygyrchedd amrywiol sy'n cynnwys: bysellfwrdd y gellir ei addasu, llygoden ergonomig, meddalwedd chwyddo sgrîn CloseView, meddalwedd system Easy Access (StickyKeys, SlowKeys, MouseKeys), dogfennau electronig, analluogi ailadrodd bysell, synthesis testun-i-leferydd ac adnabyddiaeth llais (PlainTalk), llygoden ludiog, ac awgrymiadau rhybudd gweledol. Mae'r nodweddion hyn i gyd yn cael eu cynnwys fel rhan o feddalwedd system Mac (System 7.x, 8.x, a 9.x), a gallwch gael manylion drwy glicio ar y cysylltiad hwn - http://www.apple.com/accessibility/physical/index.html#mouse.

Yn ôl i fynegai hygyrchedd y wefan

Gosodiadau bysellfwrdd

Windows

Galwch newid:

  • Yr amser sy'n mynd heibio cyn bod bysell a wesgir yn dechrau ailadrodd.
  • Pa mor aml y mae llythrennau a rhifau'n ailadrodd pan fyddwch yn gwasgu bysell.
  • Pa mor aml y mae'r cyrchwr yn blincio.

I newid unrhyw un o'r rhain:

  • Cliciwch ar y botwm Start yng nghornel chwith waelod y sgrîn.
  • Dewiswch Settings, ac yna Control Panel.
  • Agorwch yr adran Keyboard naill ai drwy glicio'r eicon ddwywaith gyda'r botwm chwith, neu drwy oleubwyntio'r eicon a gwasgu Enter.
  • Dewiswch eich cyflymderau drwy ddefnyddio'r tri llithrydd.
  • Cliciwch ar Apply, ac yna OK i arbed eich newidiadau.

Mac OS X

Gweler uchod o dan 'Gosodiadau llygoden'.

Yn ôl i fynegai hygyrchedd y wefan

Cysylltiadau defnyddiol

Yn ôl i fynegai hygyrchedd y wefan

GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS

Gwybodaeth bwysigPolisi preifatrwyddHygyrcheddNewyddionSwyddiDiogelwchMap o'r safle

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (rhif awdurdod 155998). Nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio morgeisi sy'n ymwneud masnachu neu fusnesau.

1 3 4 6 8 9 0 a b u n j c e