Wrth fynd ati i chwilio am
fenthyciadau masnachol, rydych am weithio gyda phartner y gallwch
ymddiried ynddo; rhywun y gallwch ddibynnu arno i ddarparu’r ateb
ar gyfer benthyciadau masnachol sy’n diwallu eich anghenion
orau.
Mae gan dîm Benthyciadau Masnachol y
Gymdeithas enw da am ddarparu cynnyrch morgais hyblyg o safon uchel
sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ei gleientiaid.
Mae’r cysylltiadau agos sydd gennym â
syrfewyr a chyfreithwyr, y staff profiadol a hygyrch sy’n gweithio
i ni ac sy’n delio â’r holl faterion sy’n ymwneud â’r broses
fenthyca a’r ffaith ein bod yn gweithredu o un lleoliad yn golygu y
gallwn ymateb yn gyflym i geisiadau; p’un a oes angen help ar ein
cleientiaid gyda chaffaeliadau syml neu brosiectau datblygu
cymhleth.
Y benthyciad isaf a rown yw
£500,000 a gallwn roi benthyciadau yng Nghymru a Lloegr yn
erbyn:
- Eiddo buddsoddi preswyl
- Eiddo buddsoddi masnachol
- Eiddo masnachol y mae’r perchennog yn ei ddefnyddio
- Safleoedd datblygu masnachol a phreswyl
Gallwn roi benthyciadau i’r rhan
fwyaf o fenthycwyr yn cynnwys y benthycwyr canlynol:
- Personol
- Partneriaethau [yn cynnwys Partneriaethau Atebolrwydd
Cyfyngedig]
- Cwmnïau Cyfyngedig a CCCs
- Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
- SIPP’s a SSAS’s
Mae gan bob un o’n Rheolwyr
Cysylltiadau o leiaf 10 mlynedd o brofiad yn eu rôl bresennol a
byddant yn fwy na pharod i drafod eich gofynion unigryw eich hun
gyda chi.
I wneud ymholiad, anfonwch neges e-bost i
commercial@principality.co.uk.