Croeso i'r Principality
Ers 1860, mae ein Haelodau wedi ymddiried ynom i ofalu am eu
harian ac i wneud iddo weithio iddynt. Rydym yn falch o fod wrth
wraidd y cymunedau yng Nghymru rydym yn gweithredu ynddynt, gan
gefnogi chwaraeon a diwylliant lleol. Darllenwch ein taflen wybodaeth am fwy o
wybodaeth.
< Nôl i Cynilion a Buddsoddiadau
e-GYNILWR Dyroddiad 3
| Blwch Crynhoi - Gwybodaeth Allweddol am ein
Cyfrif(on) Cynilo |
| Enw'r Cyfrif |
e-GYNILWR Dyroddiad 3 |
| Cyfraddau llog (AER) |
Gross* /AER** |
Net# |
2.40% y fl. (amrywiol) - Blwyddyn 1 yn
cynnwys
cyfradd bonws o .75% o ddyddiad agor y cyfrif |
1.92% |
1.65% y fl. (amrywiol) – Blwyddyn 2 (dim bonws
yn daladwy) |
1.32% |
| Statws Treth |
Caiff treth ei didynnu o'ch llog cyn iddo gael ei
dalu i'ch cyfrif. Os nad ydych yn drethdalwr y DU a’ch bod am i ni
dalu eich llog heb ddidynnu treth, bydd angen i chi roi ffurflen
R85 wedi’i chwblhau i ni. |
Amodau ar gyfer
taliadau bonws |
Diamod. |
Trefniadau
codi arian |
Nid oes raid i chi roi rhybudd. Rhaid codi
unrhyw arian drwy’r cyfrif sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif e-GYNILWR
Dyroddiad 3, ar yr amod na fyddwch yn mynd o dan yr isafswm balans
o £1. |
| Mynediad |
Rhaid agor a rheoli'r cyfrif hwn ar-lein. |
| Nodweddion a Manteision |
- Mae’r gyfradd yn cynnwys bonws diamod o 0.75% uwchlaw’r gyfradd
e-GYNILWR amrywiol sy’n daladwy am y 12 mis cyntaf o ddyddiad agor
eich cyfrif.
- Gallwch ddarllen eich cyfriflenni a gwneud adneuon neu godi
arian ar-lein.
- Yr isafswm balans yw £1. Yr uchafswm balans yw £1,000,000.
- Cyfrifir llog yn ddyddiol a chaiff ei dalu’n flynyddol ar 1af
Ionawr bob blwyddyn i mewn i’ch cyfrif e-GYNILWR.
|
* Gros yw'r gyfradd llog gytundebol
sy'n daladwy cyn didynnu treth incwm ar y gyfradd a nodir gan y
gyfraith.
** Ystyr AER yw'r Gyfradd Gyfatebol
Flynyddol ac mae'n dangos beth fyddai'r gyfradd llog pe bai llog yn
cael ei dalu a'i adlogi unwaith y flwyddyn. Gan y bydd pob hysbyseb
ar gyfer cynnyrch cynilo sy'n nodi cyfradd llog yn cynnwys AER,
byddwch yn gallu cymharu'r enillion y gallwch ddisgwyl eu cael o'ch
cynilion dros gyfnod o amser yn haws.
# Net yw'r gyfradd llog sy'n daladwy
ar ôl didynnu treth incwm ar y gyfradd a nodir gan y
gyfraith.
i ddefnyddio'ch cyfrif ar-lein
Beth am weld faint y gall eich arian dyfu gyda Chyfrif
e-Gynilwr