Telerau ac Amodau Eich Cyfrif

Mae'r Telerau ac Amoday hyn, a'r Telerau ac Amodau Cynilo, yn berthnasol i'ch defnydd o Eich Cyfrif.

I gofrestru ar gyfer gwasanaeth ar-lein Eich Cyfrif, bydd angen i chi fod:

  • Yn gwmser ar hyn o bryd gyda chyfrif Principality gweithredol
  • 16 oed neu drosod 

I fynd at y gwasanaeth Eich Cyfrif ar-lein, bydd angen bod gennych: 

  • Rif ffôn symudol cyfredol sydd wedi ei gofrestru i chi fewngofnodi'n ddiogel iddo. Rhaid i'r rhif ffôn symudol fod eich un chi ac nid yn un sy'n cael ei rannu gan unrhyw un arall; a
  • Cyfeiriad e-bost er mwyn i ni anfon negeseuon diogel atoch a diweddariadau gwasanaeth Eich Cyfrif. I leihau unrhyw risg i'ch cyfrif cynilo, dylai'r cyfeiriad e-bost hwn fod yn un sy'n cael ei ddefnyddio gennych chi yn unig.  

Gallwch weld unrhyw rai o'ch cyfrifon cynilo neu morgais Principality gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein, Eich Cyfrif.

Os ydych yn cofrestru ar gyfer Eich Cyfrif, dylech sicrhau eich bod yn:

  • Cadw unrhyw fanylion mewngofnodi a manylion eich cyfrif yn ddiogel
  • Osgoi defnyddio dolenni mewn negeseuon e-bost a theipio www.principality.co.uk/your-account i mewn i'ch porwr gwe
  • Dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl os ydych yn credu bod eich cyfrif mewn perygl e.e. bod eich manylion mewngofnodi wedi eu defnyddio heb eich caniatâd

Byddwn:

  • Byth yn gofyn am eich manylion mewngofnodi
  • Yn atal eich cyfrif rhag cael ei ddefnyddio os ydym ni'n credu yn rhesymol bod unrhyw risg
  • Yn dweud wrthych chi cyn gwneud hyn oni bai na allwn wneud hyn am resymau cyfreithiol

I wybod mwy am eich diogelwch ar-lein. Mae hwn yn cynnwys canllawiau ar ddefnyddio rhwydweithiau diogel, cyfrineiriau a gwe-rwydo.

Mae gan Eich Cyfrif gwcis ac wrth ddefnyddio'r wefan rydych yn cytuno iddynt. Os byddwch yn analluogi cwcis ar gyfer Eich Cyfrif, ni fyddwch yn gallu ei ddefnyddio. I wybod mwy - ein polisi cwcis.