
16 July 2014
Blog Only Boys Aloud: Rhan 2
Cyn dechrau Academi Only Boys Aloud y Principality yr wythnos hon (academi o hyfforddiant dwys ar gyfer 32 o gantorion dethol o Only Boys Aloud, a gynlluniwyd i ddatblygu doniau ifanc, eithriadol o Gymru ym maes cerddoriaeth), aethom i ymweld ag Only Boys Aloud yng Nghaerdydd yn ystod ymarfer i gyfarfod â’r bechgyn a dysgu ychydig ynglŷn â bod yn y côr yn gyffredinol. Ddoe holiadur Hugo oedd dan sylw gennym, ac heddiw rydym yn clywed oddi wrth Gareth.
Enw: Gareth James
O: Drefynwy
Oed: 16
Côr Only Boys Aloud: Caerdydd
Faint o brofiad canu oedd gennyt ti cyn ymuno ag Only Boys Aloud?
Gwersi lleisiol, côr yr ysgol a pherfformiadau cerddorol (sioeau cerdd a dramâu)
Sut y bu i ti ymuno ag Only Boys Aloud?
Fe glywais i amdano trwy gôr arall.
Pa effaith mae canu ag Only Boys Aloud wedi’i chael arnat ti?
Mae wedi rhoi hwb i fy hyder a chynyddu fy ngwybodaeth ynglŷn â cherddoriaeth byd.
Beth fu dy brofiad gorau di ag Only Boys Aloud?
Bod yn rhan o Academi Only Boys Aloud y Principality yn 2014.
Beth yw dy hoff gân i’w chanu ag Only Boys Aloud?
Calon Lân
Tu fas i OBA, pa fath o gerddoriaeth wyt ti’n hoffi gwrando arno?
Pob cerddoriaeth, ond fy ffefrynnau yw cerddoriaeth gorawl a sioeau cerdd.
Beth yw dy ddymuniadau ar gyfer y dyfodol?
Hoffwn fod yn berfformiwr cerddorol ac rwy’n gobeithio mynd i’r Royal College of Music.
Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried ymuno ag OBA?
Yn bendant, ymunwch – wnewch chi dim difaru.
I gael gwybod mwy am ein nawdd i Only Boys Aloud, cliciwch here.
I ymweld â gwefan Only Boys Aloud, cliciwch here ac i archebu tocynnau ar gyfer cyngerdd Academi Only Boys Aloud y Principality yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, cliciwch here.
Published: 16/07/2014