Charity

10 January 2019

Y Principality yn croesawu’r flwyddyn newydd â phartneriaid elusen newydd

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi cyhoeddi enwau’r ddwy elusen y bydd yn eu cefnogi yn ystod y tair blynedd nesaf.

Bydd cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru yn codi arian ar gyfer elusen canser pobl ifanc Teenage Cancer Trust Cymru, ac elusen cymorth ac ymchwil dementia Alzheimer’s Society Cymru tan ddiwedd 2021.

Mae Teenage Cancer Trust Cymru yn darparu gofal a chymorth canser sy’n newid bywydau i bobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU. Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod saith person ifanc yn cael diagnosis o ganser yn y DU bob dydd. Alzheimer’s Society yw prif elusen dementia y DU sy’n gofalu am bobl ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y mae unrhyw fath o ddementia yn effeithio arnynt.

Bydd cydweithwyr yn y 53 o ganghennau a 17 o asiantau’r Principality yn ymgymryd ag amrywiaeth o heriau yn ystod y tair blynedd nesaf i godi arian hanfodol iddynt. Yn y gorffennol, mae hyn wedi cynnwys teithiau cerdded ar fynyddoedd, digwyddiadau hanner marathon, digwyddiad beicio, a chasgliadau bwcedi yn Stadiwm Principality.

Dywedodd Steve Hughes, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Rydym ni wedi dewis dwy elusen, Teenage Cancer Trust Cymru a Alzheimer’s Society Cymru, sy’n agos iawn at ein calonnau ni ac sy’n gwneud gwaith rhagorol yn ein cymunedau. Mae cydweithwyr yn y Principality bob amser wedi dangos creadigrwydd ac ymroddiad mor anhygoel wrth godi arian yn y gorffennol ac rydym yn siŵr y bydd hyn yn wir eto dros y blynyddoedd nesaf.

“Rydym yn edrych ymlaen at godi rhagor o arian pwysig ar gyfer ein dwy elusen newydd a fydd, gobeithio, yn eu helpu i ddarparu cymorth hanfodol i bobl sydd ei angen.”

Mae Teenage Cancer Trust Cymru yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc ledled Cymru sydd â chanser i ddarparu gwasanaethau canser o’r radd flaenaf yn y byd.

Dywedodd Debbie Jones, rheolwr codi arian rhanbarthol Teenage Cancer Trust, de Cymru: "Yn Teenage Cancer Trust Cymru, rydym ni wrth ein boddau ein bod wedi ein dewis yn bartner elusen i Gymdeithas Adeiladu’r Principality am y tair blynedd nesaf.

“Bydd ein partneriaeth yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau hanfodol yng Nghymru i sicrhau nad yw’r un person ifanc yn wynebu canser ar ei ben ei hun. Bydd yr arian a godir gan staff ac Aelodau Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn helpu i ariannu ein nyrsys arbenigol clinigol ledled cymunedau Cymru, fel bod ein gofal sy’n newid bywydau ar gael i bobl ifanc yn eu hysbytai lleol, gartref neu ble bynnag y maen nhw’n byw."

Mae Alzheimer’s Society Cymru yn gwella bywydau pobl â dementia yn uniongyrchol a hon yw’r unig elusen yn y DU sy’n buddsoddi mewn ymchwil i ofal, achos, triniaeth a dulliau atal dementia. Maen nhw wedi ymrwymo i wario £150 miliwn ar ymchwil a fydd yn torri tir newydd yn ystod y deng mlynedd nesaf.

Dywedodd Stacey Hawdon, uwch swyddog gweithredol partneriaethau corfforaethol rhanbarthol Alzheimer's Society: "Mae’n gyffrous ein bod ni’n bartner â Chymdeithas Adeiladu’r Principality dros y tair blynedd nesaf.

“Mae mwy na 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw â dementia, ac fel elusen rydym ni’n dibynnu ar haelioni grwpiau, busnesau ac unigolion i’n helpu i barhau â’n gwaith hanfodol. Bydd ein partneriaeth yn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu cymorth, gwella gofal, ariannu ymchwil, a gwneud mwy fyth o gynnydd tuag at ein gweledigaeth o fod â byd heb ddementia.”

Dros y tair blynedd ddiwethaf, cododd Cymdeithas Adeiladu’r Principality £500,000 ar gyfer tair elusen o Gymru: elusen ddigartrefedd Llamau, Ymchwil Canser Cymru, a School of Hard Knocks sy’n defnyddio chwaraeon i helpu pobl dan anfantais. 

I gael rhagor o wybodaeth am y ddwy elusen ewch i:https://www.teenagecancertrust.org/ neu https://www.alzheimers.org.uk/

Published: 10/01/2019

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.