HPI

21 January 2019

Prisiau tai yng Nghymru yn parhau i gynyddu ac yn cyrraedd pwynt uwch nag erioed o’r blaen

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi cyrraedd pwynt uwch nag erioed o’r blaen, ac mae pris cyfartalog tai ar draws y wlad bellach yn £186,699.

Cafodd y ffigyrau eu rhyddhau heddiw ym Mynegai Prisiau Tai Cymdeithas Adeiladu’r Principality ar gyfer mis Hydref i fis Rhagfyr 2018, sy’n dangos y cynnydd a’r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Mae’r uchafbwynt newydd yng Nghymru a gofnodwyd ym mis Rhagfyr tua £2,000 yn uwch na’r cyfartaledd uchaf blaenorol ym mis Medi 2018. Arafodd twf prisiau yn Ch4 o 2018 i ddim ond 0.3% o’i gymharu â’r chwarter blaenorol a oedd yn 3.6%, ond mae nifer y tai a werthwyd yn 2018 o’i gymharu â 2017 yn parhau i fod yr un fath ar y cyfan.

Cyrhaeddodd tair ardal brisiau cyfartalog uwch nag erioed o’r blaen ym mis Rhagfyr 2018 – Sir Fynwy (£290,437), Casnewydd (£199,046) a Chaerffili (£155,672).  

Gwelwyd cynnydd blynyddol o 6% neu’n uwch yn y prisiau mewn chwe awdurdod lleol. Torfaen (8.7%), Caerffili (7.5%), Blaenau Gwent (7.2%), Casnewydd (6.5%), Sir Fynwy (6.1%) a Bro Morgannwg (6.0%) oedd y rhain. Heblaw am y Fro, mae’r ardaloedd hyn i gyd wedi eu lleoli yn ne-ddwyrain Cymru, sy’n awgrymu bod yr awdurdodau lleol hyn yn parhau i fanteisio ar fuddion yn sgil diddymu’r tollau ar Bont Hafren ac yn gweld twf yn y nifer sy’n cymudo i Fryste, lle mae pris tŷ cyfartalog yn £325,000.

Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu’r Principality “Mae nifer o resymau posibl pam mae prisiau tai Cymru yn uwch nag erioed o’r blaen – mae cyfraddau llog yn agos at eu pwynt isaf erioed ar hyn o bryd, mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yn agos at ei bwynt uchaf erioed ac mae cyflog wythnosol cyfartalog wedi codi uwchben y gyfradd chwyddiant. Mae cynlluniau tai Llywodraeth Cymru hefyd wedi helpu pobl sy’n dymuno prynu eiddo i gamu ar yr ysgol dai a’i dringo.

“Rydym yn gwybod o arolwg diweddar a gynhaliwyd gennym fod chwarter pobl Cymru yn cyfaddef bod Brexit yn effeithio ar eu penderfyniad i brynu neu werthu cartref. Mae Brexit yn sicr wedi effeithio ar y farchnad ond nid yw wedi arafu’r farchnad yng Nghymru gymaint ag yn Lloegr hyd yn hyn, wrth amcangyfrif bod nifer y gwerthiannau eiddo yr un fath â’r llynedd.  Mae fforddiadwyedd cartrefi yng nghefn gwlad o’i gymharu â de-orllewin Lloegr yn debygol o fod wedi rhoi hwb i’r twf, ynghyd â’r cyflenwad a’r galw.” 

Y tri awdurdod lleol sydd wedi gweld prisiau cyfartalog tai yn gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw Sir Benfro (-1.4%), Sir Ddinbych (-1.9%) a Chastell-nedd Port Talbot (-2.4%).

Published: 21/01/2019

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.