Steve Hughes

6 February 2019

Y Principality yn parhau i fod â thwf cryf er gwaethaf amodau anodd yn y farchnad

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi cyflawni cyfres arall o ganlyniadau blynyddol cadarnhaol gyda chynnydd o £718 miliwn net mewn benthyca morgeisi manwerthu a chynnydd o £426 miliwn mewn balansau cynilo newydd. Mae cyfanswm yr asedau bron yn £9.7 biliwn, ac roedd yr elw sylfaenol ar gyfer y flwyddyn yn £43.8 miliwn iach yn unol â’r disgwyliad, wrth i’r Gymdeithas barhau i gyflawni ar ei blaenoriaeth o fod yn gartref cryf a diogel ar gyfer cynilion yr Aelodau.

Unwaith eto, darparodd y Principality wasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, wrth i’r hyrwyddwr defnyddwyr Which? enwi’r Principality y benthyciwr â’r sgôr uchaf am fodlonrwydd cwsmeriaid. Enillodd hefyd wobrau cenedlaethol gan What Mortgage am fod y gymdeithas adeiladu orau am wasanaeth cwsmeriaid, a Darparwr ISA y Flwyddyn gan Moneyfacts.

Mae cynhyrchion cynilo’r Gymdeithas wedi cadw eu safle fel un o’r gorau a’r mwyaf cystadleuol ar y Stryd Fawr. Er gwaethaf yr amgylchedd cyfradd cynilo isel yn 2018 llwyddodd y Principality i barhau i ddarparu cyfradd gyfartalog o 1.08% i gynilwyr, o’i gymharu â chyfartaledd o 0.70%  yn y farchnad yn ystod yr un cyfnod. 

Infographic

Here’s an infographic featuring some of the key figures and highlights from our 2018 Annual Results.

Please feel free to share or use this infographic on social media but remember to link back to us.

Click here for a text alternative to this infographic.

Dywedodd Steve Hughes, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Rydym ni wedi gwneud cynnydd gwych o ran cyflawni ein strategaeth twf busnes, er gwaethaf ansicrwydd economaidd a gwleidyddol cynyddol, yn ogystal ag amgylchedd cystadleuol iawn o ran morgeisi a chynilion sydd wedi achosi pwysau ar i lawr ar faint ein helw. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu helpu mwy na 6,400 o brynwyr tro cyntaf i gymryd eu camau cyntaf ar yr ysgol dai yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan helpu pobl i ffynnu. Mae pobl yn gweld gwerth yn ein cynhyrchion ac fel cymdeithas adeiladu sy’n eiddo i’w haelodau, rydym ni yma i’w helpu i gael y cartref y maen nhw yn dymuno ei gael. 

“Mae ein benthyciadau wedi tyfu gan fwy na £700 miliwn ac rydym yn elwa ar fuddion ein strategaeth morgeisi â phwyslais, gan ddatblygu perthynas gref â brocerwyr ledled y DU a gweld buddsoddiad yn ein cynnig o forgeisi uniongyrchol i ddefnyddwyr. Er mwyn cefnogi’r twf yn ein benthyca, rydym wedi denu £426 miliwn ychwanegol mewn cynilion. Rydym wedi cadw ein safle fel un o’r darparwyr cynilion gorau ar y Stryd Fawr.

Mae ein tîm Masnachol wedi perfformio’n dda unwaith eto, gan sicrhau benthyciadau newydd gwerth £124 miliwn, ac ynghyd â Nemo, ein busnes benthyciadau ail arwystl, mae wedi gwneud cyfraniad ystyrlon unwaith eto. Rwy’n arbennig o falch bod y gwaith yr ydym wedi ei wneud yn Principality Masnachol o fudd i gymunedau lle y mae angen tai fforddiadwy, fel eu gwaith yn natblygiad Melin Trelái yng Nghaerdydd a thrwy ein benthyca ar gyfer tai cymdeithasol. Mae ein benthyciadau wedi cefnogi rhai mentrau gwych yn y sectorau preswyl, swyddfa a diwydiannol.  

Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol sy’n eiddo i’w haelodau, ein nod, yn hytrach na cheisio sicrhau cymaint o elw â phosibl, yw canolbwyntio ar ddyfodol hirdymor y Gymdeithas drwy sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y busnes drwy gynnig cyfraddau cystadleuol i’n cynilwyr a’n benthycwyr. Mae ein proffidioldeb yn parhau i fod yn gadarn a byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn ychwanegu at ein cyfalaf er mwyn diogelu buddiannau ein Haelodau.

Gwasanaeth cwsmeriaid a chydweithwyr

Rydym unwaith eto wedi dangos ein bod yn wahanol i’n cystadleuwyr morgeisi a chynilion drwy ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Dywedodd bron i 80% o’n Haelodau y bydden nhw’n argymell y Principality i bobl eraill ar sail eu bodlonrwydd â’r gwasanaeth. Mae hyn i gyd yn dangos cydnabyddiaeth wych o’r gwaith yr ydym ni’n ei wneud, nid yn unig gyda’n Haelodau ond hefyd y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i’n partneriaid cyfryngol.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl sy’n ymgorffori popeth cadarnhaol yr ydym yn sefyll drosto fel busnes cydfuddiannol. Mae ein cydweithwyr yn byw ac yn gweithio yn y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu ac wedi datblygu cysylltiad cryf â nhw. Rydym yn gwneud pob ymdrech i fod yn fusnes cynhwysol sydd â chydweithwyr sy’n frwdfrydig i wneud yr hyn sy’n iawn dros yr Aelodau.

Mae’r diwylliant cynhwysol yr ydym wedi’i greu wedi arwain at i ni gael ein henwi yn un o’r cyflogwyr gorau yn y DU gan Great Place to Work®. Mae hyn yn dystiolaeth o lefel y ffydd ymhlith ein cydweithwyr a’r ymdrech y maen nhw’n ei ddangos i sicrhau bod yr Aelodau’n cael y profiad gorau posibl fel cwsmeriaid.”

Newidiadau ar gyfer y dyfodol

Mae’r Principality yng nghanol rhaglen o fuddsoddiad er mwyn gallu cynnig modd hyblyg i Aelodau’r presennol a’r dyfodol i reoli eu hanghenion o ran cynilion a morgeisi.

Dywedodd Steve: “Er gwaethaf ein hanes rhagorol yn y maes gwasanaeth cwsmeriaid, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni gadw’n gyfredol â datblygiadau technolegol a bydd ein Haelodau’n disgwyl mwy gennym. Rydym wedi buddsoddi yn ein seilwaith i wella hyblygrwydd ein gwasanaethau, ac mae mwy na 100 o’n cydweithwyr yn gweithio i symud ein technoleg yn ei blaen. Mae’n gyfnod heriol ond cyffrous yn hanes y Principality wrth inni geisio sicrhau dyfodol y busnes ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf o gynilwyr a benthycwyr.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n Haelodau drwy gynnal profion ar sut y gallwn ni deilwra ein gwasanaethau digidol ar gyfer eu hanghenion, ac yn fewnol rydym wedi gwella ein gwasanaeth morgeisi fel bod cwsmeriaid yn cael cynnig morgeisi yn gyflymach. Mae ein gwasanaeth fideo-gynadledda, Principality Connected hefyd wedi ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac o ganlyniad rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau morgeisi yn ein canghennau.

Pan fydd ein technoleg wedi ei sefydlu’n gadarn byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth i bawb sy’n cydweddu â’u ffordd o fyw, gan ategu’r gwasanaeth personol wyneb yn wyneb yr ydym yn ei gynnig i Aelodau, drwy roi dewis iddyn nhw o wahanol ffyrdd i fynd at eu cyfrifon, ar y ffôn, ar-lein neu ar ddyfeisiau symudol. Mae ein hymrwymiad i’r Stryd Fawr yn parhau i fod yn gryf ac rydym wedi gweld nifer yr ymwelwyr a’r galw yn cynyddu mewn rhai ardaloedd, wrth i sefydliadau ariannol eraill adael yr ardal. Mae hyn yn mynd yn groes i’r tueddiad yr ydym ni yn ei weld ledled gweddill y DU a thra bydd ein Haelodau yn parhau i ddefnyddio, gwerthfawrogi ac argymell ein canghennau, nhw fydd conglfaen y gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig.

Cefnogi cymunedau

Mae cydweithwyr y Principality unwaith eto wedi gwneud ymdrech sylweddol yn eu gwaith cymunedol, gan godi mwy na £220,000 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer ein tair elusen bartner (Llamau, School of Hard Knocks ac Ymchwil Canser Cymru). Mae hynny’n gyfanswm o £504,000, sy’n cynnwys cyllid cyfatebol gan y Gymdeithas, wedi’i rannu’n gyfartal rhwng yr elusennau yn ystod y berthynas tair blynedd. Bydd y Gymdeithas yn codi arian ar gyfer ei phartneriaid elusen newydd, Alzheimer’s Society Cymru a Teenage Cancer Trust Cymru, yn ystod y tair blynedd nesaf. 

Manteisiodd mwy na 5,000 o blant a phobl ifanc ar y Bartneriaeth Dosbarth Busnes sy’n rhan o fenter Busnes yn y Gymuned y Principality, a’i chyfranogiad yn Wythnos Trafod Arian sy’n cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. Mae’r Principality hefyd wedi buddsoddi £76,000 mewn 89 o brosiectau cymunedol ledled Cymru.

Dywedodd Steve: “Cefnogi ein cymunedau lleol a’u helpu i ffynnu yw’r hyn yr ydym yn ei wneud fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol. Rwy’n falch iawn o ymdrechion ein cydweithwyr i wella bywydau pobl eraill. Mae gennym ni gynlluniau cyffrous eleni i helpu i addysgu ein pobl ifanc a rhoi’r wybodaeth ariannol iddynt i’w paratoi ar gyfer bywyd fel oedolion. Mae ein gwaith yn y maes pwysig hwn wedi’i gydnabod drwy wobr gan Busnes yn y Gymuned ar gyfer addysg. Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i gyflwyno cymhwyster addysg ariannol ledled Cymru. Mae hwn yn cael ei dreialu gyda saith ysgol a 1,400 o ddisgyblion yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.”

Rhagolygon

Gan edrych ymlaen at 2019, ychwanegodd Steve: “Bydd ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd sylweddol yn parhau ac rydym yn disgwyl i’r gystadleuaeth o ran prisiau yn y farchnad morgeisi barhau i fod yn ffyrnig a bydd rhagor o bwysau ar faint ein helw. Bydd ein proffidioldeb yn parhau i fod yn gadarn ond bydd yn gynyddol is yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf wrth inni ail-lunio a buddsoddi yn ein busnes ar gyfer yr hirdymor. Byddwn yn parhau â’n pwyslais diwyro ar weddnewid ein busnes morgeisi a chynilion craidd. Mae gan ein Cymdeithas gydnerthedd drwy ei chyfalaf a sylfaen hylifedd cryf i ymdopi ag unrhyw drafferthion a allai godi a sicrhau ein bod yn diogelu buddiannau ein Haelodau. Mae ein perfformiad yn y blynyddoedd diweddar o ran twf a phroffidioldeb wedi datblygu sylfaen gadarn i ganiatáu i ni fuddsoddi ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn ceisio tyfu ein busnes mewn modd diogel a chynaliadwy ar gyfer ein Haelodau a gwneud yn siŵr ein bod mewn sefyllfa gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Annual Results 2018

We were busy in 2018 building the future of our Members.

Helping more people into homes:

Our net promoter score is 78.6%. 
We helped more over 6,400 first time buyers get onto the property ladder.
Principality Commercial funded £124m new commercial business.

Growing our business:

We had pre-tax profits of £40.7m.
Our total assets grew to £9.7bn.
Our savings balances increased by £426m.
We've helped over 6,400 first time buyers onto the property ladder.
Our Net residential mortgage growth is now at £718.7m.

Serving our Members and communities:

We invested £76k to support 89 local community groups and school projects across Wales.
We raised £220,000 for our charity partners through colleague fundraising and match funding and £500, 000 overall for our charity partners.
Building your future.
Twitter: @principalityBS
Facebook: Principality Building Society
Website: Principality.co.uk

Published: 06/02/2019

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.