Mike Jones - Interim Chief Executive Officer, Principality, with Principality colleagues Kate Burgess & Kirsty McRae and Aled Roberts, Welsh Language Commissioner.

9 December 2019

Principality’n dweud ‘Croeso’ wrth y cynllun Cymraeg Gwaith

 

Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi ymuno â’r cynllun Cymraeg Gwaith i gefnogi eu gweithwyr i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg.

Mae’r cynllun wedi ei ddatblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau maent eu hangen i siarad Cymraeg yn y gweithle a thu hwnt.  Mae gweithwyr ar hyn o bryd yn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg dwys ar gyfer dechreuwyr.

Mae'r Principality eisoes wedi dangos ymrwymiad i gefnogi’r Gymraeg wrth sefydlu canolfan gyswllt Gymraeg ym Mangor a chefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Mike Jones, Prif Weithredwr dros dro Cymdeithas Adeiladu'r Principality:

"Rydym wrth ein boddau ein bod ni’n gallu cyflwyno’r cynllun Cymraeg Gwaith i’n cydweithwyr yn y Principality a hoffwn ddiolch i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, am ein cyflwyno i'r rhaglen. Fel cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, rydym yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth siarad Cymraeg i’n haelodau a'n cydweithwyr. Rydym am weld y Gymraeg yn ffynnu ac rydym yn annog y rhai sy'n siarad Cymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg i ddefnyddio’r iaith wrth ddelio â ni o ddydd i ddydd. Mae cydweithwyr yn y Principality yn mwynhau eu cwrs yn fawr ac yn edrych ymlaen at barhau â'u datblygiad proffesiynol."

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts:

“Mae ymchwil yn dangos bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi defnyddio’r Gymraeg gyda busnesau, a bod arweinwyr busnes yn gweld yr iaith o fantais wrth iddynt fasnachu yng Nghymru. Mae wedi bod yn braf cydweithio efo’r Principality wrth iddyn nhw feddwl yn greadigol ac uchelgeisiol ar sail yr ymchwil a mynd ati i gynllunio eu gwasanaethau i ateb y galw.

“Mae dysgu iaith yn cymryd amser; ac rwy’n annog cwsmeriaid Cymraeg y Principality i gefnogi staff drwy roi cyfle iddynt ymarfer yr iaith yn y canghennau.”

Ychwanegodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ y Ganolfan wedi ennyn diddordeb cyflogwyr a chyflogeion ledled Cymru.  Mae’r Ganolfan yn gallu teilwra cyrsiau ar gyfer sectorau a chyflogwyr penodol a darparu rhaglen addysgu hyblyg sy’n gyfleus i gyflogeion.  Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Principality i gefnogi eu gweithwyr ar eu siwrne iaith.”

Published: 09/12/2019

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig