Image of a housing development in Wales.

21 January 2020

Mae Cymru’n parhau i weld twf mewn prisiau tai

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi cyrraedd uchafbwynt newydd, wrth i bris cyfartalog tai ledled y wlad gyrraedd £193,254 erbyn hyn, er gwaethaf y gostyngiad mewn gwerthiannau cyffredinol yn 2019. 

Mae’r ffigurau wedi’u rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu’r Principality ar gyfer Ch4 2019, sy’n dangos y cynydd a’r gostyngiad mewn prisiau tai yn y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Yn 2019, cynyddodd pris cyfartalog tai 3.3% yng Nghymru, cynnydd o £6,237 ers mis Rhagfyr 2018 wedi’i ysgogi gan brynwyr tro cyntaf a thai gwyliau. Yn ystod y chwarter yng Nghymru (Hydref – Rhagfyr 2019), cynyddodd prisiau tai 1.7%. 

Er gwaethaf y twf mewn prisiau tai yn 2019, cafwyd gostyngiad o 6% mewn gwerthiannau tai yn 2019 o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r gostyngiad yn debygol o fod oherwydd ansicrwydd yn sgil Brexit ac yn fwy diweddar, Etholiad Cyffredinol mis Rhagfyr.

Dywed Tom Denman, Prif Swyddog Cyllid Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Bu’n flwyddyn deg o ran twf prisiau cyfartalog tai yng Nghymru, yn bennaf yn sgil y cyfraddau llog isaf erioed, diffyg cyflenwad tai a chyflogaeth gymharol uchel. Prynwyr tro cyntaf oedd ysgogwyr y gwerthiannau tai, a chafwyd perfformiad da o ran tai gwyliau hefyd. 

“Er y cafodd yr ansicrwydd yn sgil Brexit a’r Etholiad Cyffredinol fwy o effaith ar y farchnad dai yn ne Lloegr, cafwyd gostyngiad o 6% mewn gwerthiannau yng Nghymru hefyd yn 2019 o’u cymharu â 2018. Mae mwy o eglurder gwleidyddol erbyn hyn, felly byddwn yn aros i weld a yw gwerthiannau tai yn cynyddu yn 2020, er ein bod yn disgwyl i’r twf cymedrol barhau o ran prisiau tai yn gyffredinol.”

Ar ddiwedd 2019, gwelwyd uchafbwyntiau newydd o ran prisiau mewn wyth awdurdod lleol – Pen-y-bont ar Ogwr (£180,988), Sir Ddinbych (£192,665), Gwynedd (£190,868), Merthyr Tudful (£141,657), Sir Fynwy (£298,618), Rhondda Cynon Taf (£142,733) ac Abertawe (£188,417).

Mae ffigurau Mynegai Prisiau Tai y Principality yn dangos y bu’r gostyngiad mwyaf yn Ch4 2019 o’u cymharu â Ch4 2018 mewn gwerthiannau fflatiau, lle gwelwyd gostyngiad o 32.6%, ac wedyn eiddo ar wahân, lle gwelwyd gostyngiad o 12.5%. Cafwyd gostyngiad o 9.6% mewn gwerthiannau tai pâr, a 6.5% o ran tai teras, sy’n cefnogi arwyddion bod prynwyr tro cyntaf wedi’u denu’n fwy i eiddo teras neu bâr yn hytrach na fflatiau bach yng nghanol y ddinas.

Yn ystod y degawd diwethaf (Rhagfyr 2009 - Rhagfyr 2019), mae prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu 24.5%. Yn ystod yr un cyfnod o ddeng mlynedd, mae’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer tai wedi cynyddu rhyw 22.6%. Mae hyn yn golygu bod pris cyfartalog tai yng Nghymru wedi cynyddu 1.9% mewn termau ‘real’ yn y degawd diwethaf.

Caerdydd sydd ar frig y rhestr gyda thwf prisiau tai o 41.2% ar gyfer y degawd, ac wedyn Torfaen â 37.7% a Chasnewydd â 33.4%. Mae’r naw awdurdod uchaf o ran twf wedi’u lleoli yng nghornel dde-ddwyrain Cymru – gall hyn awgrymu i ba raddau y mae Caerdydd, a thollau Pont Hafren, wedi effeithio ar y galw am dai, ac felly prisiau tai, yn yr ardal hon yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.    

Y lleoliad ‘gorau’ ar gyfer twf prisiau tai yn y Gogledd yw Sir Ddinbych, yn 23.5%.

I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau prisiau tai yng Nghymru, ewch i: https://www.principality.co.uk/cy/mortgages/House-Price-Index

 

Published: 21/01/2020

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig