Image of a house

15 April 2020

Cynnydd ym mhrisiau tai yng Nghymru cyn argyfwng y pandemig

Cynyddodd pris tŷ cyfartalog yng Nghymru £6,110 yn flynyddol i £193,286, cyn dechrau argyfwng y coronafeirws yn y DU. 

Cyhoeddwyd y ffigurau hyn o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu’r Principality ar gyfer Ch1 (Ion-Chwe) 2020, sy’n dangos cynnydd a gostyngiad prisiau tai ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r pris tŷ cyfartalog newydd yng Nghymru yn cynrychioli cynnydd o 3.3% o gymharu â’r un cyfnod 12 mis yn ôl. 

Mae adroddiad y Principality yn dangos, cyn i argyfwng y coronafeirws ddechrau, bod y sefyllfa economaidd a oedd yn gwella, â chyfraddau llog hanesyddol isel parhaus a chyfraddau cyflogaeth uchel, wedi cyfrannu at greu marchnad dai gadarn. Roedd tai ‘fforddiadwy’ rhad yn agos at ardaloedd â chyflogaeth gymharol uchel yn ffactor arall, a chafwyd y cynnydd mwyaf i nifer y prynwyr tro cyntaf yng Nghymru o holl ardaloedd rhanbarthol y DU yn Ch1 2020.

Meddai Tom Denman, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Er eu bod nhw’n teimlo braidd yn amherthnasol erbyn hyn, mae’r ffigurau yn cynnig cipolwg i ni ar yr economi a’r farchnad dai cyn y pandemig COVID-19. 

“Ym misoedd cyntaf 2020, cyn i’r pandemig daro’r DU, roedd y farchnad dai wedi bod yn datblygu momentwm yn raddol. Mae’n amlwg bod twf prisiau yn cynyddu’n raddol yng Nghymru diolch i hwb i hyder yn dilyn yr etholiad cyffredinol, cyfraddau cyflogaeth uchel, a chyfraddau llog isel, ond roedd trosglwyddiadau wedi gostwng o un flwyddyn i’r llall. 
“Mae’n anodd dweud yn y tymor byr yr hyn a fydd yn digwydd gan mai prin fydd nifer y gwerthiannau, os o gwbl. Bydd y rhan fwyaf o werthwyr a phrynwyr yn aros yn eu cartrefi a bydd cau swyddfeydd asiantaethau tai o ganlyniad i’r cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn lleihau trosglwyddiadau tai. Mae’r farchnad forgeisi wedi cau’n rhannol, a gobeithir y bydd pecyn economaidd y llywodraeth i leddfu effaith argyfwng y pandemig yn caniatáu i’r farchnad dai barhau a gweithredu fel arfer ar ôl i’r argyfwng ddod i ben.”

Ym mis Chwefror, roedd 16 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru â symudiad cadarnhaol i dwf prisiau tai yn flynyddol, a gostyngodd prisiau mewn chwe ardal (Blaenau Gwent, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Casnewydd a Wrecsam).

Cafwyd y cynnydd blynyddol uchaf i brisiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef 9.1% (£15,109) i £181,494. Gwelwyd cynnydd i brisiau cartrefi ar wahân a werthwyd yn yr ardal, yn cynyddu o tua £230,000 ym mis Chwefror 2019 i £250,000 flwyddyn yn ddiweddarach. O fewn awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr, mae tref glan môr Porthcawl wedi bod yn arbennig o boblogaidd, wrth i gartrefi ar wahân werthu yno am £350,000 - £400,000 yn nodweddiadol.

Mae pedair ardal awdurdod lleol wedi sefydlu prisiau uchafbwynt newydd - Caerffili (£158,655), Caerdydd (£245,497), Sir y Fflint (£199,109) a Sir Fynwy (£304,586). Mae dwy o’r ardaloedd hyn, Caerdydd a Sir Fynwy, yn y tair ardal uchaf yng Nghymru yn ôl gwerth prisiau tai - sy’n awgrymu bod sefydlu eu prisiau uchaf erioed wedi’i gynorthwyo gan yr hwb i hyder prynwyr yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Os hoffech ragor o wybodaeth am newidiadau i brisiau tai yng Nghymru, ewch i: www.principality.co.uk/cy/mortgages/House-Price-Index

Published: 15/04/2020

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig