Clubhouse quiz

20 May 2020

Dyfarnwr Cwpan y Byd Nigel Owens yn cyflwyno rhith-gwis rygbi i Pembroke Panthers

Cafodd Clwb Rygbi Pembroke Panthers gyfle i ddychwelyd i rygbi er gwaethaf y cyfyngiadau symud ar ôl ennill cystadleuaeth i’r dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens gyflwyno eu rhith-gwis clwb eu hunain, diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality. 

Llwyddodd carfan fenywod y clwb ym Mhenfro i drechu mwy na 1000 o ymgeiswyr i ennill cystadleuaeth Cwis Clwb y Principality. Ar ôl i lawer o glybiau gael eu heffeithio gan lifogydd eang ar ddechrau’r flwyddyn a’r ffaith eu bod wedi cau am gyfnod amhenodol bellach oherwydd y coronafeirws, mae’r gymdeithas adeiladu yn chwilio’n barhaus am ffyrdd i gefnogi clybiau rygbi llawr gwlad yng Nghymru.

Gwnaeth Lucy Neale, 30, sy’n aelod o dîm y Pembroke Panthers gais ar ran ei thîm gyda’r gobaith o ddod â’r chwaraewyr at ei gilydd ar-lein. Meddai: “Byddem ni’n gweld ein gilydd hyd at bum gwaith yr wythnos fel rheol rhwng sesiynau ymarfer, gemau a digwyddiadau cymdeithasol, felly mae wedi bod yn amser rhyfedd iawn. Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gwneud cais ar ran y clwb gan feddwl y byddai’n hwb braf i ni gyd, ond doeddwn i erioed wedi disgwyl y byddem ni’n ennill felly roedd yn syrpreis anhygoel.”

Profwyd y tîm ar eu gwybodaeth rygbi gan y dyfarnwr cwpan y byd Nigel Owens ar blatfform gwe-gynadledda Zoom, lle enillodd y chwaraewyr docynnau i gemau rhyngwladol Cymru yn Stadiwm y Principality, crysau a pheli rygbi wedi’u llofnodi, a thocynnau ar gyfer taith o gwmpas Stadiwm y Principality. Roedd y cwis yn cynnwys ymddangosiad gwadd gan gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Tom Shanklin.

Parhaodd Lucy: “Roedd yn noson mor gofiadwy ac arbennig i ni gyd. Rydym ni’n griw weddol fywiog fel rheol, ond fe wnaethom ni ymddwyn yn dda i Nigel. Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’r Principality am gynnal y cwis a chaniatáu i ni fwynhau’r cyfle unigryw hwn fel tîm.”

Fel noddwyr Stadiwm Principality a’r Cynghreiriau Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer clybiau llawr gwlad yng Nghymru, mae gan y Principality berthynas gref gydag Undeb Rygbi Cymru ac mae’n gwybod faint mae rygbi yn ei olygu i gymunedau ledled y wlad. Gan fod gemau wedi’u gohirio ar hyn o bryd, roedd y gymdeithas adeiladu eisiau gallu dod â bwrlwm y clwb i’r cartref.
Meddai cyflwynwyd y Cwis Clwb, Nigel Owens: “Roedd Cwis Clwb y Principality yn ffordd ardderchog o ddod ag un tîm yn agosach at ei gilydd a dangosodd Pembroke Panthers pa mor dda yw eu gwybodaeth am rygbi. Mae rygbi yn chwarae rhan bwysig yng nghymunedau Cymru ac rwy’n gwybod y byddan nhw hiraeth ar ôl y gorchestion ar y maes ar hyn o bryd, felly roedd hi’n hyfryd cael bod yn rhan o’r profiad hwn i ddod â’r tîm yma at ei gilydd. Doedd dim rhaid i mi roi’r un ohonyn nhw yn y gell gosb chwaith, diolch byth.”

Meddai Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Cwsmeriaid yng Nghymdeithas Adeiladu’r Principality: “Mae llawer o glybiau rygbi ledled Cymru wedi cael blwyddyn anodd dros ben, yn dilyn difrod llifogydd i gaeau a chlybiau ac yna y coronafeirws. Hwn oedd ein cyfle i ail-greu cyfeillgarwch y clwb i un tîm ac rydym ni’n gobeithio ei fod wedi cynnig digonedd o hwyl ac amser cofiadwy i Pembroke Panthers yn y cyfnod anodd sydd ohoni.”

Bydd y cwestiynau o Gwis Clwb y Principality ar gael i unrhyw un eu lawrlwytho o ddydd Llun 18 Mai am 10am. Ewch i https://www.principality.co.uk/cy/clubhousequiz i gymryd rhan. 

Published: 20/05/2020

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig