Image of a housing development

11 February 2021

Prisiau tai yng Nghymru yn uwch nag erioed er gwaethaf y gyfres o gyfyngiadau symud

Mae’r ‘ras am le' wedi achosi i brisiau tai sengl gynyddu bron ddwywaith cyfradd y mathau eraill o eiddo

Mae pris cyfartalog tai yng Nghymru dros £200,000 am y tro cyntaf, ac erbyn hyn mae'n £209,723, er gwaethaf cyfres o gyfyngiadau symud yn 2020.

Mae'r ffigurau wedi'u rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch4 2020 (Hydref-Rhagfyr), sy'n dangos y cynnydd a'r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. 

Y llynedd gwelwyd y chwyddiant blynyddol mwyaf ym mhrisiau tai mewn 15 mlynedd (8.2%) wrth i adroddiad Principality hefyd nodi prisiau tai uwch nag erioed ar draws y rhan fwyaf o Gymru a phob math o eiddo, gyda chynnydd canrannol dau ddigid mewn prisiau mewn traean o awdurdodau lleol. Mae deunaw awdurdod lleol wedi gweld y lefel uchaf erioed yn y prisiau a gofnodwyd.  

Ar ddiwedd 2020, mae'r prisiau uchaf erioed ar draws pob math o eiddo yn adlewyrchu marchnad fywiog. Roedd prisiau tai sengl 11% yn uwch na blwyddyn yn ôl, mae’n debyg oherwydd 'ras am le' fel y'i gelwir a ysgogwyd gan y pandemig. Mae hyn yn cymharu â thwf o 5-6% ar gyfer y rhan fwyaf o fathau eraill o eiddo.

Merthyr Tudful a gofnododd y cynnydd mwyaf bob chwarter o 18.2% gan godi pris cyfartalog tai i £147,687, ond gall data gwerthiant cymharol fach orliwio hyn. Yng ngogledd Cymru, cododd prisiau tai Ynys Môn 16% yn flynyddol i £237,782, a Conwy (£224,068) a Sir y Fflint (£216,224) yn cynyddu 13.7% a 13.3% yn y drefn honno.

Yn ne Cymru, cyflawnodd Sir Fynwy (£332,558), a Chasnewydd (£222,107) gynnydd digidau dwbl blynyddol cryf gan godi 14.2% a 12.1% yn y drefn honno.

Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu Principality: "Mae cryfder yr adferiad tai yn ail hanner 2020 yn drawiadol, ac mae hyn yn adlewyrchu'r ysgogiad a roddwyd gan Lywodraeth Cymru o ran seibiant y Dreth Trafodiadau Tir am gyfnod penodol, y galw cynyddol a gronnodd yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, a'r ras am le i brynu eiddo mwy gyda gerddi mwy. Yn Ch4, roedd pob ardal awdurdod lleol yn adrodd bod prisiau tai yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Mae'r galw cynyddol hwn wedi'i ysgogi gan fwy o arbedion mewn llawer o aelwydydd yn ystod y cyfyngiadau symud ynghyd â chyfraddau morgais isel hanesyddol parhaus. Mae'n debyg y bu rhywfaint o alw ychwanegol gan brynwyr dros y ffin â Lloegr, gyda phrisiau tai yn fwy fforddiadwy yng Nghymru mewn termau cymharol.

"Dangosodd adolygiad diweddar Trysorlys EM y DU o ragolygon annibynnol ar gyfer 2021 ymwahanu eang o ran disgwyliadau prisiau tai ar gyfer y flwyddyn. Gyda chymaint o elfennau anhysbys mae'n amhosibl cynnig rhagolwg gydag unrhyw gywirdeb rhesymol. Fodd bynnag, pan fydd mwy o eglurder ynghylch ynysu’r feirws ac ar ailagor yr economi'n llawn, bydd yn dod yn haws."

Roedd y trafodion cyffredinol wedi gostwng 21% yn 2020 o’u cymharu â 2019, yn ddi-os o ganlyniad i'r effaith a gafodd y pandemig ar yr economi. Nododd arolwg marchnad dai RICS ym mis Rhagfyr fod diddordeb prynwyr yng Nghymru wedi bod yn gryfach ac wedi parhau am fwy o amser nag mewn rhannau eraill o'r DU.  Ar amrywiaeth o fetrigau – ymholiadau gan brynwyr, cyfarwyddiadau i werthu, gwerthiannau y cytunwyd arnynt, gweithgaredd fesul syrfëwr a chymhareb gwerthiant-stoc, roedd Cymru'n gyfartal â rhanbarthau mwyaf gweithredol Lloegr, neu wedi perfformio'n well na’r rheini.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.principality.co.uk/housepriceindex

Published: 11/02/2021

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig