Image showing Julie-Ann Haines, Chief Executive Officer of Principality

17 February 2021

Principality yn perfformio'n dda wrth gefnogi cwsmeriaid yn ystod y pandemig

Mae Principality wedi cyhoeddi canlyniadau blynyddol da ar gyfer 2020, wrth iddi ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar gefnogi aelodau, cwsmeriaid a chydweithwyr yn ystod blwyddyn heriol. Caniataodd y gymdeithas adeiladu i fwy na 15,000 o berchnogion tai ohirio eu taliadau morgais, gan eu helpu i ymdopi â'r ansicrwydd ariannol a grëwyd gan bandemig COVID-19 a chefnogodd gymunedau hefyd drwy gadw ei changhennau ar agor drwy gydol y cyfnodau cyfyngiadau symud.
 
Gwelodd cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru ei hasedau yn tyfu i fwy nag £11bn am y tro cyntaf yn ei hanes, wrth iddi weld cynnydd o £182m mewn benthyciadau morgeisi manwerthu eleni (2019: £499m), gan olygu bod cyfanswm benthyciadau manwerthu yn fwy nag £8bn am y tro cyntaf, er i farchnad dai y DU fod yn gwbl segur am bron i bedwar mis yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.

Y llynedd, nododd y busnes y disgwyliad y byddai gostyngiad mewn elw yn 2020 oherwydd y buddsoddiad parhaus mewn technoleg i weddnewid ei weithrediadau morgais a chynilion craidd. Hefyd, cynyddwyd lefelau darpariaeth gan £9.1m (2019: rhyddhau £4.1m) i dalu am golledion posibl yn y dyfodol sy'n deillio o'r dirywiad economaidd a achoswyd gan y pandemig. Er na chafwyd unrhyw golledion credyd sylweddol hyd yma, mae Principality yn cydnabod y gallai rhai cwsmeriaid ddioddef anawsterau ariannol yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac mae ei dull ceidwadol yn rhoi ystyriaeth i ragolygon economaidd ffactorau sy’n cynnwys lefelau diweithdra a phrisiau eiddo.

Mae gan y Principality gronfeydd cyfalaf wrth gefn cryf ond mae'r dull gofalus hwn wedi cael effaith sylweddol ar ganlyniadau ar gyfer 2020, gan arwain at elw sylfaenol cyn treth o £24.1m (2019: £39.8m) ac elw statudol cyn treth o £19.9m (2019: £39.6m).

Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae'r Principality wedi ennill gwobr What Mortgage am y Gwasanaeth Cwsmeriaid Gorau gan Gymdeithas Adeiladu. Adlewyrchir hyn yn Sgôr Hyrwyddwr Net y Gymdeithas sy'n sylweddol uwch na chyfartaledd y sector o 79.8%, sy'n golygu bod bron i wyth o bob 10 aelod yn dweud y byddent yn argymell y Principality i deulu neu ffrindiau yn seiliedig ar lefel eu boddhad.

Annual Results 2020 - Inforgraphic Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Julie-Ann Haines: "Er gwaethaf y tarfu a’r ansicrwydd sylweddol a welwyd eleni, llwyddasom i gynnal ein gwasanaeth cwsmeriaid arobryn a darparu gwasanaeth hanfodol i'n haelodau pan yr oeddent fwyaf ein hangen.

"Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn bu'n rhaid i ni ymdrin â nifer o heriau gweithredol, yn enwedig galluogi oddeutu 800 o staff o'n prif swyddfa i weithio'n effeithiol o’u cartrefi. Mae cryfder a chadernid ein busnes wedi ein galluogi i gadw pawb mewn cyflogaeth a pheidio â rhoi unrhyw un ar ffyrlo. Rydym yn ymdrechu i greu diwylliant cyfeillgar, agored a chynhwysol, ac mae ein cydweithwyr yn parhau i wneud i ni fod yn amlwg yn y sector gyda'u cynhesrwydd, eu hymagwedd bersonol a'u hempathi at bobl.

"Fel yr addawyd y llynedd, fe wnaethom ni barhau i fuddsoddi elw blaenorol yn ôl i'r busnes i hybu ein technoleg fel y gallem ni gynnig gwelliannau i'r gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer ein haelodau. Mae’r gwelliant yn ein diogelwch ar-lein wedi gwneud cyfrifon ein haelodau yn fwy diogel, ac mae nodwedd sgwrsio ar y we newydd wedi ei hychwanegu i wella profiad y cwsmer. Mewn ymateb i sylwadau gan gwsmeriaid, rydym hefyd wedi cynyddu'r amrywiaeth o gynhyrchion sydd ar gael i gwsmeriaid ar-lein. Ein huchelgais yw symud yn gyflym yn ystod y blynyddoedd nesaf a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y Gymdeithas i wella ein cynigiad a chynnig mwy o hyblygrwydd i'n haelodau. Ategir hyn gan wasanaeth gwych drwy ein canghennau yng Nghymru ac ar y ffiniau â Lloegr. "

Cyfrannodd tîm Masnachol Principality unwaith eto at helpu cymunedau, gan olygu bod gwaith wedi'i gwblhau ar ail gam cartrefi fforddiadwy yn natblygiad The Mill yng Nghaerdydd. Mae'r tîm bellach wedi cwblhau £55m o'r gronfa tai fforddiadwy gwerth £75m a sefydlwyd yn 2018 ac mae cymdeithasau tai o bob cwr o Gymru wedi manteisio arni erbyn hyn. Bydd yn parhau i ganolbwyntio ei ymdrechion ar wneud tai yn fwy amgylcheddol gynaliadwy a chefnogi adeiladwyr tai drwy ariannu cartrefi ynni solar a chartrefi di-garbon.

Yn awr yn fwy nag erioed, mae Principality wedi parhau i fuddsoddi mewn addysg ariannol drwy bartneru â Young Money ar gyfer eu Her Pum Punt sy'n annog datblygiad sgiliau addysg entrepreneuraidd ac ariannol i blant, gan godi arian ar gyfer achosion lleol ar yr un pryd. Cofrestrodd dros 8,000 o blant ar gyfer yr her ddigidol hon drwy eu hysgolion.

O ran y rhagolygon ar gyfer 2021 ychwanegodd Julie-Ann: "Rydym ni’n disgwyl i'r amgylchedd economaidd barhau i fod yn heriol yn 2021 a thu hwnt wrth i effaith y pandemig barhau i gael ei deimlo. O dan yr amgylchiadau anodd hyn, hoffwn sicrhau’r aelodau bod  Principality yn parhau i fod yn gartref diogel i'w cynilion, a bod ganddi'r cryfder i wrthsefyll y cythrwfl yr ydym i gyd yn ei wynebu. Mae ein strategaeth a'n blaenoriaethau hirdymor yn aros yn ddigyfnewid ac, er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar helpu aelodau, cydweithwyr a chymunedau i ddod drwy'r cyfnod ansicr hwn, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a thyfu ein busnes mewn modd diogel a chynaliadwy."


DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL 

Cyfanswm asedau - £11.1bn (2019: £10.7bn)
Elw sylfaenol cyn treth - £24.1m (2019: £39.8m)
Elw statudol cyn treth - £19.9m (2019: £39.6m)
Twf morgais preswyl net - £182.2m (2019: £499.3m)
Balansau morgais preswyl - £8,175.7m (2019: £7,993.5m)
Balansau cynilion - £8.2bn (2019: £7.6bn) 
Balans cynilo –  cynnydd o £596.1m (2019: £598.7m)
Sgôr Hyrwyddwr Net - 79.8 (2019: 81.5)
Cyfalaf (cymhareb CET1) - 27.10% (2019: 26.20%)
% y morgeisi a ariennir gan gynilwyr - 88.9% (2019: 84.0%)
Cyfanswm gweithgareddau codi arian elusennol – ychydig dros £152,000
Sgôr ymgysylltu â chyflogeion - 86% (2019: 77%)

Published: 17/02/2021

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig