Image of a housing development

14 February 2022

Gwerthiant tai yng Nghymru i fyny 46% yn 2021

Cyrhaeddodd pris cyfartalog tai yng Nghymru frig newydd o £226,577 yn Ch4 2021 (Hydref-Rhagfyr), 8% yn uwch na’r un adeg y flwyddyn flaenorol.

Mae’r ffigurau wedi’u rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch4 2021, sy’n dangos y cynnydd a’r gostyngiad ym mhrisiau tai yn y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Er mai dyma’r chwarter cyntaf am flwyddyn pan oedd chwyddiant prisiau tai mewn ffigurau sengl, mae hi dal yn uwch na chyfradd chwyddiant. Mae adroddiad Principality yn dangos bod gwerthiant wedi codi 46% gyda mwy na 53,000 o drafodiadau yn 2021, o’u cymharu â 36,000 yn 2020.

Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Cyllid Cymdeithas Adeiladu Principality: “Gwelodd y farchnad dai yng Nghymru gynnydd o 46% mewn gweithgarwch gwerthu yn 2021, wrth i brisiau gyrraedd brig newydd, gan adlewyrchu’r galw parhaus gan ddarpar brynwyr a phrinder parhaus stoc ar y farchnad. Roedd cyfraddau morgais isel parhaus a chynilion uchel cronnus yn ystod y cyfyngiadau symud yn golygu bod rhai aelwydydd wedi penderfynu mai dyma’r amser i symud i ardaloedd â mwy o le wrth i lawer o bobl barhau i weithio gartref.

“Rydym yn cydnabod ei bod yn mynd yn llawer anoddach bellach i genedlaethau iau yng Nghymru gael troed ar yr ysgol eiddo, oherwydd prisiau tai yn cynyddu, ac anawsterau cynilo ar gyfer blaendaliadau mwy. Mae’r rhan fwyaf o ddadansoddwyr economaidd yn darogan y bydd y cynnydd yn gymedrol yn 2022 wrth i effeithiau gwyliau’r dreth drafodiadau dawelu, ond gallai prynu tai fynd yn rhy ddrud i lawer o bobl, yn rhannol oherwydd y cynnydd mewn prisiau sydd eisoes wedi digwydd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ond gallai hyn ddechrau rhoi pwysau tuag i lawr ar brisiau. Er bod yr economi’n dychwelyd i ryw fath o normalrwydd, mae codiadau cyflog dal i fod llawer yn is na chwyddiant prisiau cyffredinol. Bydd y cynnydd parhaus mewn costau ynni, y cynnydd mewn yswiriant gwladol sydd ar y gorwel ar ben cyfraddau llog cynyddol, i gyd yn ystyriaethau ar gyfer y rhai sy’n bwriadu prynu yn y dyfodol.”

Yn chwarter olaf y flwyddyn, nododd 17 o awdurdodau lleol yng Nghymru gynnydd chwarterol, i fyny o 13 yn Ch3 2021, y perfformiad cryfaf ers yn gynharach yn 2021. Cofnododd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau wrth eu cymharu’n flynyddol.

Merthyr Tudful welodd y twf cryfaf mewn prisiau tai o blith unrhyw awdurdod lleol yn flynyddol (27.9%) ac yn chwarterol (16.9%). Gwelodd Castell-nedd Port Talbot gynnydd hefyd o 16.9% mewn prisiau yn Ch4, ar ôl gostyngiad yn y chwarter blaenorol.

Ynys Môn - i lawr bron i 4% - gofnododd y gwymp fwyaf serth. Fodd bynnag, yn yr awdurdodau a nododd brisiau is, roedd y newidiadau’n llai sylweddol na’r rhai yn y trydydd chwarter.

Mae adroddiad Principality yn amcangyfrif y bu tua 13,400 o drafodiadau yn Ch4, 6% yn uwch nag yn Ch3 ond 4% yn is na’r 14,000 toreithiog yn chwarter olaf 2020. Mae hyn yn adlewyrchu’n bennaf ostyngiad sylweddol i werthiant tai ar wahân o’u cymharu â blwyddyn yn gynt – i lawr o 4,600 i 3,700. Er bod nifer y tai pâr a gafodd eu gwerthu ychydig yn llai na blwyddyn yn ôl hefyd, cynyddodd werthiant tai teras a fflatiau.

Ar gyfer y flwyddyn gyfan, roedd gwerthiant ar draws pob math o eiddo 45-50% yn gryfach nag yn 2020. Fodd bynnag, nid yw gwerthiant fflatiau braidd wedi adennill y niferoedd a welwyd yn 2019, ond mae gwerthiant tai wedi cynyddu cymaint â phumed.

I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.principality.co.uk/mortgages/House-Price-Index

 

Published: 14/02/2022

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig