Harri Jones

4 May 2022

Principality yn cael ei chydnabod am ei hymdrechion yn y Gymraeg

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi ei chydnabod gyda 'Cynnig Cymraeg' gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Cyflwynir y wobr i gwmnïau sy'n integreiddio'r Gymraeg drwy eu strategaeth a'u polisi ac mae'n adlewyrchiad o'r bartneriaeth y mae Principality wedi bod yn ei datblygu ers sawl blwyddyn gyda thîm Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Pennaeth Datblygu Cwsmeriaid Principality, Harri Jones: 'Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am ein hymdrechion. Mae'r defnydd o'r Gymraeg yn eithriadol o bwysig i ni, felly mae cael ein cydnabod gyda 'Cynnig Cymraeg' yn arbennig iawn i'n busnes.

'Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gwasanaethau ar gael i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg ac mae'r wobr hon yn cydnabod y gwaith yr ydym wedi'i wneud mewn nifer o feysydd i sicrhau pryd bynnag y bo modd y gallwn ohebu a siarad â chwsmeriaid yn Gymraeg a chynnig cyfleusterau dwyieithog.'

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: 'Mae gweld a gallu defnyddio'r Gymraeg yn bwysig i bobl yng Nghymru. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Principality wrth iddyn nhw ymateb i'r dyhead hwn, ac rwy’n eu llongyfarch ar eu gwasanaethau Cymraeg.

'Trwy gyfathrebu yn Gymraeg â chwsmeriaid a datblygu adnodd addysg ariannol dwyieithog i blant, mae Principality wedi sicrhau bod y Gymraeg yn rhan allweddol o'u busnes ac wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer datblygu ymhellach. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y dyfodol.'

 

Published: 04/05/2022

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig