20 October 2015
Tîm Pêl-droed yn sgorio gyda’u gwisg newydd
Mae tîm dan 15 oed Maindy Corries, a gafodd ei sefydlu gan ddau o chwaraewyr y tîm, newydd dderbyn cit llawn gan gymdeithas adeiladu fwyaf Cymru yn rhan o'i chystadleuaeth Cit Chwaraeon y Mis.
Meddai Siân Williams, rheolwr cangen y Principality yn yr Eglwys Newydd: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yn y cymunedau yr ydym ni’n byw ac yn gweithio ynddynt, ac mae tîm dan 15 oed Maindy Corries yn enghraifft wych o gymunedau yn gweithio gyda’i gilydd. Pan glywsom ni’r stori am sut y sefydlwyd y tîm gan dri o'r chwaraewr ifanc dim ond ychydig fisoedd yn ôl, roeddem ni’n awyddus iawn i 'w helpu i gael dechrau da.
“Maen nhw wedi llwyddo i ddod o hyd i ddigon o chwaraewyr a hyfforddwyr i ddechrau chwarae y tymor hwn ac rydym ni’n gobeithio y byddant yn cael tymor llwyddiannus yn eu cit newydd.”
Meddai Roger Smith, wrth siarad ar ran tîm dan 15 oed Maindy Corries: “Mae pob aelod o’r tîm yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth y Principality. Mae’n golygu llawer i bob un o chwaraewyr a hyfforddwyr y tîm newydd hwn.
“Bydd y tîm yn falch o gael arddangos enw’r Principality ar y cit a fydd yn sicr yn gwneud iddynt deimlo’n falch iawn o’u llwyddiannau wrth ffurfio’r tîm hwn.”
Dewisir un tîm chwaraeon o Gymru a’r gororau bob mis i ennill cit newydd gwerth hyd at £500 gan y Principality.
Os ydych chi eisiau gwneud cais, ewch i wefan www.principality.co.uk/kitofthemonth a llenwch y ffurflen ar-lein neu ewch i un o'r 53 o ganghennau neu'r 18 o asiantaethau sydd gan y Principality ledled Cymru a’r gororau.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Principality wedi cefnogi nifer o fentrau tebyg, gan gynnwys grŵp achub bywydau yn y môr Llanilltud Fawr, tîm criced yn Ynystawe a thîm pêl-rwyd yn yr Wyddgrug.
Published: 20/10/2015